EN
string(15) "ilo-opportunity"
< Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Lleoliad Hyfforddwr Rheoli Adnoddau Naturiol

Lleoliad: Uganda Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd
Funded by Welsh Government | Ariennir gan Lywodraeth Cymru

Mae hwn yn gyfle unigryw i dreulio hyd at 8 wythnos yn Uganda, yn cefnogi menter amgylcheddol gyda’ch arbenigedd mewn rheoli adnoddau naturiol, fel rhan o Raglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

Ynghylch y sefydliad

Mae’r sefydliad nid-er-elw hwn wedi’i gofrestru ac wedi’i leoli yn Uganda, ac yn gweithredu yn rhanbarth Mynydd Elgon, a gyda chysylltiadau cryf â Chymru. Cafodd ei raglen plannu coed ei sefydlu o ganlyniad i’r ffaith bod angen mynd i’r afael â datgoedwigo difrifol, diraddio tir ac effeithiau newid hinsawdd, gyda’r manteision o leihau effeithiau newid hinsawdd, darparu cyflenwadau cynaliadwy o danwydd, lloches a bwyd, a lleddfu tlodi.

Ynghylch y rôl

Mae proses ailstrwythuro yn y sefydliad wedi arwain at ganolbwyntio ar ddarparu’r rhaglen drwy’r dull tirwedd/dalgylchoedd. Mae’r dull hwn yn gymhleth ac er mwyn ei weithredu’n effeithiol, mae angen adeiladu capasiti ymysg y staff.

Bydd rôl y lleoliad yn cynnwys: 

  • Datblygu’r cwricwlwm: dylunio a datblygu llawlyfrau hyfforddi a chynnwys addysgol deniadol sy’n cwmpasu pynciau fel rheoli cefndeuddwr, defnyddio tir yn gynaliadwy, cadwraeth bioamrywiaeth, dychmygu ac adfer tir.
  • Adeiladu capasiti: asesu ac adeiladu capasiti’r staff maes i weithredu arferion rheoli tir ac adnoddau cynaliadwy.

Y canlyniadau disgwyliedig o’r lleoliad yw:

  • Gwybodaeth a sgiliau gwell: cyfarparu staff gyda’r wybodaeth dechnegol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt i reoli tir ac adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Gweithredu arferion yn llwyddiannus: mae’r hyfforddeion yn cymhwyso beth maen nhw wedi’i ddysgu, gan arwain at well cadwraeth, adfer tir ac arferion bywoliaethau cynaliadwy.
  •  Capasiti sefydliadol gwell: mae gan y sefydliad a’i bartneriaid gapasiti cryfach i ddatblygu a gweithredu cynlluniau rheoli amgylcheddol ac adnoddau effeithiol.

Amdanoch chi

Bydd gennych sgiliau ac arbenigedd mewn:

  • rheoli tirwedd ac adnoddau naturiol 
  • datblygu’r cwricwlwm a chreu deunyddiau dysgu

Sut i wneud cais

I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.

Gwneud cais

Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.

Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.

Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.

Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol: canllaw i ymgeiswyr