Mae hwn yn gyfle datblygu, i dreulio 8 wythnos yn Lesotho, yn cefnogi datblygu cwricwlwm galwedigaethol, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r lleoliad mewn sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu cwricwlwm ysgol ac am ddarparu deunyddiau cyfarwyddol ar gyfer dysgu yn Lesotho.
Mae’r sefydliad yn datblygu llif gyrfaol yn y cwricwlwm ysgol.
Trwy’r lleoliad hwn, byddwch yn cefnogi’r sefydliad i ddatblygu llwybrau dysgu hyblyg, wedi’u teilwra, sy’n addas i ddysgwyr â chefndiroedd amrywiol, ac sy’n canolbwyntio ar ddysgu ymarferol a sgiliau yn hytrach nac ar wybodaeth ddamcaniaethol yn unig.
I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.
Bydd gennych arbenigedd mewn dylunio a chyflwyno addysg a hyfforddiant sy’n seiliedig ar gymhwyster.
Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.
Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.
Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.