EN
< Newyddion

Diweddariad ar Grantiau Grymuso Menywod

Cydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod
Fel rhan o waith cydraddoldeb rhywedd Hyb Cymru Affrica a ariennir gan Lywodraeth Cymru, roeddem yn falch o allu dyrannu’r grantiau canlynol i bartneriaethau sy’n gweithio rhwng Cymru ac Uganda, a Chymru a Lesotho mewn prosiectau arloesol allweddol sy’n hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd.

Uganda

Maint Cymru

Swm a ddyrannwyd: £50,000 Trwy integreiddio rhywedd i mewn i weithgareddau a pholisi newid hinsawdd sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, mae'r prosiect hwn yn galluogi menywod gwledig i ddod yn gyfryngau newid pwysig. Bydd y prosiect yn cynnal asesiad rhywedd i ddeall yn well y cyd-destun mewn perthynas â gallu menywod i gymryd rhan. Yn seiliedig ar yr asesiad hwn, bydd y prosiect yn cynnig cymorth i fenywod gyda hyfforddiant wedi'i deilwra, rhwydweithio a mynediad at adnoddau i hyrwyddo eu cyfranogiad a chryfhau bywoliaethau. Bydd y prosiect yn dogfennu arferion gorau, gwersi a ddysgwyd ac astudiaethau achos ysbrydoledig ymhlith partneriaid yng Nghymru ac Affrica a'r cyhoedd yng Nghymru. Mae’r prif weithgareddau’n cynnwys:
  • Asesiad rhywedd
  • Mapio ymrwymiadau polisi a chyfreithiol ar hawliau menywod a merched a mynediad at adnoddau naturiol, gan gynnwys tir
  • Hyfforddi 40 o hyrwyddwyr rhywedd (dynion a menywod)
  • Hyfforddi 222 o fenywod a merched o gefn gwlad ynghylch eu hawliau a'u sgiliau arweinyddiaeth
  • Cryfhau sefydliadau meicro-gyllido lleol i gefnogi mentrau sy’n gydnaws â’r hinsawdd.
  • Hyfforddiant a mewnbynnau ar gyfer 222 o fenywod a merched i gryfhau gweithgareddau cynhyrchu incwm, gan gynnwys mentrau seiliedig ar natur, a phlannu coed ar ffermydd dan arweiniad menywod
  • Y gymuned yn mynd ati i gipio data gan ddefnyddio technoleg mapio gwybodaeth ddaearyddol GIS syml.
  • Gweminar dysgu a chyfnewid gwybodaeth ar gyfer partneriaid
  • Ysbrydoli pobl yng Nghymru i weithredu ar yr hinsawdd trwy raglen addysg, cyfathrebu a pholisi prosiect Maint Cymru.
Bydd y prosiect yn cefnogi'r canlynol yn uniongyrchol:
  • 36 o grwpiau ffermio cymunedol yn ardal Masaka (menywod yw 1,462 o aelodau cofrestredig y grwpiau hyn - mae 90% yn fenywod, 10% yn ddynion
  • 10 grŵp Cynilo a Benthyciadau (cyfanswm o 250 o bobl - 40% yn ddynion a 60% yn fenywod) yn ardal Mbale, gan gyrraedd 1,750 o bobl ar lefel aelwyd.
Bydd y prosiect yn cefnogi 600,000 o bobl yn anuniongyrchol yn ardal Mbale a Masaka.

Bees for Development

Swm a ddyrannwyd: £50,100 Mae gan y prosiect dair prif strategaeth: Yn gyntaf, bydd yn defnyddio methodoleg meithrin gallu cymunedol cyfranogol (System Dysgu Gweithredu ar Rywedd) i feithrin dealltwriaeth o’r gymuned a dargedir a mynd i’r afael â rhwystrau ar sail rhywedd sy’n atal dynion a menywod rhag elwa’n gyfartal o gadw gwenyn. Nod y broses Dysgu Gweithredu ar Rywedd yw gwella gallu dynion a menywod i gydweithio a dysgu oddi wrth ei gilydd wrth gyflawni eu nodau economaidd o gadw gwenyn. Bydd yn hyrwyddo grymuso menywod a chydraddoldeb rhywedd trwy fynd i'r afael â normau a rheolau sefydliadol (rhai datganedig ac digrybwyll) sy'n cynnal sefyllfa anghyfartal menywod yn y Gadwyn Gwerth Mêl a Chwyr Gwenyn yn ardal Adjumani. Yn ail bydd y prosiect yn meithrin gallu 10 o Hyrwyddwyr Gwenyna i gynnal gwasanaethau estyn allan (gan dargedu 100 yn fwy o fenywod sy’n cadw gwenyn a'u teuluoedd) yn yr ardal. Nod y gweithgaredd hwn yw herio normau rhywedd mewn cadw gwenyn yn y cymunedau a dargedir, ar yr un pryd â chynyddu a gwella gwasanaethau estyn allan i fenywod (a dynion) sy’n cadw gwenyn yn yr ardal. Yn olaf, bydd y prosiect yn ysgogi, hyfforddi ac ardystio 10 o fenywod fel Meistri Gwenyna. Bydd hyn yn cynyddu nifer ac amlygrwydd menywod mewn arweinyddiaeth dechnegol a pholisi yn y sector. Bydd y menywod hyn yn gweithredu fel modelau rôl i fenywod eraill, gyda chefnogaeth TUNADO i sicrhau gwell cyfleoedd am gyflogaeth yn y sector cadw gwenyn. Yn ardal y Prosiect mae mynediad da i’r farchnad ar gyfer gwerthu mêl, a ddarperir yn arbennig gan Jephina honey – cwmni mêl sy’n eiddo i fenywod – a phrynwyr eraill. Mae hyn yn darparu cyswllt cryf â marchnadoedd da.

Teams4U

Swm a ddyrannwyd: £25,000 Bydd y prosiect yn hyfforddi 40 o athrawesau ar draws 20 o ysgolion yn Bukedea, Kumi a Katakwi i’w galluogi i hwyluso cymorth i gyfoedion trwy 1,600 o bobl ifanc mewn 20 o glybiau ar gyfer y rhai sydd yn eu harddegau. Bydd y clybiau hyn yn cyfarfod bob pythefnos ac yn ethol 2 hyrwyddwr i fod yn gyfrifol am y clwb a darparu adborth o fewn cymuned ehangach yr ysgol trwy gynnal gwasanaethau a dosbarthiadau. Bydd disgyblion yn cael eu hannog i wirfoddoli i gymryd rhan a chael eu dewis ar hap ar gymhareb o 70% merched, 30% bechgyn. Yn ogystal, bydd y prosiect hwn yn hyfforddi rheolwyr ysgol ac yn cynnal Grwpiau Ffocws ar gyfer trafodaeth gyda 500 o rieni er mwyn annog mabwysiadu agweddau ac ymddygiadau mwy cefnogol tuag at ferched yn eu harddegau. Darperir padiau mislif y gellir eu hailddefnyddio a gynhyrchwyd yn lleol i ddisgyblion o oedran mislif. Bydd y prosiect hwn yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, gan ddefnyddio eu timau Arolygiaeth Ysgolion, i ddynodi a diogelu’r merched hynny sydd fwyaf mewn perygl o roi'r gorau i fynd i’r ysgol. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ynghylch y canlynol:
  • Hwyluso cymorth dan arweiniad cyfoedion i fynd i’r afael â normau rhywedd patriarchaidd niweidiol er mwyn meithrin hyder a gwydnwch
  • Hyrwyddo agweddau cefnogol ymhlith y gymuned ehangach, mynd i’r afael â stigma iechyd atgenhedlu a’i gysylltiadau â phriodas wedi’i gorfodi, trais ar sail rhywedd a rhyw am arian
  • Diogelu merched sy’n agored i niwed yn unol â pholisi'r llywodraeth.
Mae’r clybiau hyn yn darparu mecanwaith cynaliadwy a arweinir yn lleol i ddisgyblion sy’n ferched fynegi eu lleisiau a’u blaenoriaethau o fewn corff yr ysgol, a chyda’u cyfoedion gwrywaidd; hyn yn ogystal â dynodi merched mewn perygl sydd angen mwy o gymorth, a newid normau rhywedd niweidiol sy’n arwain at ferched yn rhoi'r gorau i fynd i’r ysgol. Bydd hefyd yn rhoi cyfle ar gyfer hyfforddiant a ymarfer rheolaidd i athrawesau, ar ôl misoedd lle bu ysgolion ar gau, i'w cynorthwyo i ddychwelyd i addysgu. Y nod yn y pen draw yw i’r 20% o ferched a amcangyfrifir i fod mewn perygl o’i chael yn anodd dychwelyd ac aros yn yr ysgol i barhau â’u haddysg.

Lesotho

Dolen Cymru

Swm a ddyrannwyd: £61,100 Mae menywod yn Lesotho yn profi TSRh bron bob dydd, ond maent yn amharod i naill ai adrodd am yr achosion hyn neu fynd â’r mater yn ei flaen unwaith y caiff ei reportio; un o'r rhesymau am hyn yw darpariaeth gwasanaeth aneffeithiol ac ansensitif, yn bennaf a ran yr Heddlu. Mae hyn yn rhwystro mynediad at gyfiawnder i ddioddefwyr a goroeswyr. Nod y prosiect hwn yw:
  • Cynyddu gwybodaeth yr heddlu ac arweinwyr cymunedol wrth ymdrin ag adroddiadau am TSRh
  • Datblygu amgylchedd cefnogol i ddioddefwyr a goroeswyr adrodd am achosion o TSRh
  • Cryfhau partneriaeth rhwng yr Heddlu lleol ac Arweinwyr Cymunedol
  • Grymuso goroeswyr TSRh i adennill ymreolaeth seicolegol a chorfforol.
Trwy lunio llawlyfrau syml a chyflwyno cyfres o sesiynau hyfforddi sy'n ymdrin â chynnwys sylfaenol megis dadansoddi deinameg pŵer perthynol, egwyddorion ymreolaeth ac uniondeb corfforol a seicolegol a'r cyfreithiau sy'n amddiffyn goroeswyr, bydd y prosiect hwn yn adeiladu gallu'r heddlu ac arweinwyr cymunedol i ymateb i achosion TSRh.  Bydd yn cryfhau’r bartneriaeth rhwng yr heddlu ac arweinwyr cymunedol i wella’r broses o adrodd am achosion TSRh a bydd yn galluogi arweinwyr cymunedol i ddal yr heddlu’n atebol. Mae'r hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu yn ardaloedd Maseru, Berea, Leribe a Mafeteng.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl