EN
< Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora
Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya Hub Cymru Africa, a bydd Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP) yn cymryd yr awenau. Bydd WCIA yn parhau i fod yn aelod o'r bartneriaeth. Mae Partneriaeth Hub Cymru Africa yn gwneud gwaith pwysig wrth gefnogi'r sector undod byd-eang a Chymuned Cymru ac Affrica. Byddwn yn parhau i wneud hyn. Mae SSAP wedi dod ag arbenigedd amhrisiadwy i bartneriaeth Hub Cymru Africa -  o gynhwysiant, amrywiaeth, a'n prosiect parhaus, Ail-fframio’r Naratif.  Bydd cam nesaf y Bartneriaeth hon yn adeiladu ar y gwaith hwn i'r dyfodol, gyda sefydliad dan arweiniad cymunedau diaspora Affricanaidd wrth y llyw. Wrth gyhoeddi’r newyddion, meddai Claire O’Shea, Pennaeth Hub Cymru Africa:
"Rydym yn ddiolchgar am yr arweinyddiaeth a'r rôl y mae WCIA wedi'i rhoi i'r bartneriaeth a'r sector undod byd-eang dros y deng mlynedd diwethaf." "Wrth i ni barhau â'n gwaith i gynrychioli a gwasanaethu ein partneriaid yma yng Nghymru ac Affrica yn well, a gweithredu ein gwerthoedd o gyfiawnder a gwrth-hiliaeth, mae'n teimlo’n iawn bod SSAP yn camu i mewn fel partner lletya newydd Hub Cymru Africa."
Meddai Fadhili Maghiya, Prif Swyddog Gweithredol SSAP:
"Mae Rhaglen Cymru ac Affrica wedi tyfu o nerth i nerth dros y blynyddoedd. Mae’r rhaglen wedi’i hadeiladu ar gydfuddiannu, cysylltiadau gydol oes, a dysgu oddi wrth ei gilydd, ac mae hi wedi tyfu i fod yn sector bywiog sy'n gweithio mewn undod byd-eang. Drwy'r agenda cynhwysiant a phrosiectau pwysig fel y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, mae'r sector yn gwthio ffiniau bob amser, ac yn cynnwys cymunedau ar draws Cymru. "Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r gwaith hwn, ac adeiladu ar ein llwyddiannau fel partner lletya newydd Partneriaeth Hub Cymru Africa."
Meddai Dr Gill Richardson, Cyd-gadeirydd WCIA:
"Hoffwn ddiolch i dîm anhygoel Hub Cymru Africa am bopeth maen nhw wedi'i wneud dros y 10 mlynedd diwethaf - mae WCIA wedi cael y fraint o'i letya. Rydym yn dathlu popeth sydd wedi cael ei gyflawni mewn perthynas â chefnogi cymuned Cymru ac Affrica, dan arweiniad ei phennaeth, Claire O'Shea. "Bydd y cam newydd hwn o fewn Hub Cymru Africa yn gweld ein partner agos, SSAP, yn lletya’r bartneriaeth. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig yn hanes Hub Cymru Africa. Rydym yn dal i gefnogi'r Bartneriaeth, ond nawr yw'r amser iawn i drosglwyddo'r awenau. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Hub Cymru Africa i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol."

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
BAFTS Logo
Newyddion

BAFTS a’r Siarter Gwrth-hiliaeth: Astudiaeth Achos

Gwrth HiliaethMasnach Deg Gweld yr erthygl