EN
< Newyddion

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Partneriaeth Hub Cymru Africa 2022

Gwrth HiliaethCelfyddydau a Diwylliant
Enillwyd Gwobrau Partneriaeth 2022

Mae enillwyr y Gwobrau Partneriaeth cyntaf, sy'n cydnabod ymrwymiad i undod byd-eang, wedi'u cyhoeddi gyda phartneriaethau o Gaerdydd, Zimbabwe, Trefynwy, Uganda a'r Fenni.

Yng Ngwobrau Partneriaeth cyntaf 2022 enillodd Canolfan Menywod Mambakwedza yn Zimbabwe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd y Wobr Partneriaeth; aeth y Wobr Cynaladwyedd i Tunado (Sefydliad Datblygu Gwenyna Cenedlaethol Uganda) a Bees for Development o Drefynwy, ac yn olaf, enillodd Martha Musonza Holman o Love Zimbabwe yn Y Fenni y Wobr Gwirfoddolwr Unigol. Mae yna dros 300 o bartneriaethau rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara, ac mae Gwobrau Partneriaeth 2022 yn cydnabod ac yn dathlu’r cysylltiadau hynny sy’n dangos ymrwymiad i undod byd-eang, tegwch a chyd-ddysgu. Enillydd y Wobr Partneriaeth, sy’n cydnabod cryfder y bartneriaeth a’i natur gydweithredol, yw Canolfan Menywod Mambakwedza yn Zimbabwe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd y beirniaid o’r farn bod eu gwaith ar hawliau menywod a merched, ynghyd â hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd, yn dangos tystiolaeth glir eu bod yn gosod gwerth ar arbenigedd a ffyrdd o weithio ei gilydd; tra'n cydnabod ac yn ymateb i ddeinameg grym a braint gweithio mewn partneriaeth. Enillwyd y Wobr Cynaladwyedd gan Tunado (Sefydliad Datblygu Gwenyna Cenedlaethol Uganda) a Bees for Development, Trefynwy. Er mai dyma'r unig ymgeisydd ar gyfer y categori hwn, maent yn gwbl deilwng o’r wobr. Mae'r bartneriaeth hon yn canolbwyntio ar gynaladwyedd amgylcheddol, ond mae cynaladwyedd yn werth a gaiff ei gynnal trwy'r berthynas a'r rhaglen. Dewisodd y beirniaid y bartneriaeth hon, gan werthfawrogi ei pherthynas gyfiawn, cyfrifoldeb a rennir a’r ffaith bod sgiliau a dysgu yng Nghymru ac Uganda’n cael eu rhannu. Yn olaf, enillwyd y Wobr Gwirfoddolwr Unigol gan Martha Musonza Holman o Love Zimbabwe yn y Fenni. Roedd cryn gystadleuaeth yn y categori hwn, ac roedd y beirniaid yn cydnabod gwaith Martha wrth oresgyn amgylchiadau anodd a chreu effaith gadarnhaol yng Nghymru ac yn Zimbabwe. Trwy gefnogi mentrau a arweinir gan y gymuned, mae Martha’n strategol o ran cydnabod a gweithio i ddylanwadu ar geidwaid pyrth a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gyda’r beirniaid yn dweud ei bod “wedi gadael rhywbeth diriaethol ar lawr gwlad i fod yn falch ohono”. Yn ogystal â'r enillwyr haeddiannol hyn, rydym yn falch o gyhoeddi bod Cymdeithas Fferyllol Malawi a Grŵp Fferylliaeth Gwrthficrobaidd Cymru wedi derbyn Canmoliaeth Uchel am fod y Bartneriaeth Newydd Orau o dan y Wobr Partneriaeth. Trefnwyd y prosiect partneriaeth stiwardiaeth gwrth-ficrobaidd hwn gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol (THET) a Chymdeithas Fferylliaeth y Gymanwlad. Er mai dim ond yn 2021 y cafodd ei sefydlu, roedd y beirniaid yn gwerthfawrogi llwyddiant y bartneriaeth hyd yma, eu hymagwedd gadarnhaol at wneud penderfyniadau ar y cyd, ac yn edrych ymlaen at weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig. Yn olaf, mae Gideon Hopeson Zege o gymdeithas Bees for Development yn Ghana wedi cael Canmoliaeth Uchel yn y categori Gwobr Gwirfoddolwr Unigol. Mae Gideon yn gwirfoddoli ei amser i arwain menter cadw gwenyn yn ei ardal leol yn Ghana. Mae gwaith caled Gideon yn cefnogi'r economi leol ac yn annog gweithredu amgylcheddol cadarnhaol. Meddai Claire O'Shea, pennaeth Hub Cymru Africa:
“Eleni fe ailgyflwynwyd y gwobrau i adlewyrchu’r agweddau pwysicaf ar gymuned Cymru ac Affrica: partneriaeth, cynaliadwyedd a gwirfoddoli. Roedd ansawdd y gwaith a adlewyrchwyd yn y ceisiadau’n rhyfeddol ac yn dangos sut mae'r gwaith wedi esblygu dros ddwy flynedd eithriadol. “Mae pob un o’n henillwyr a’r ymgeiswyr hynny a derbyniodd ganmoliaeth uchel wedi gwneud cymaint i sicrhau bod undod byd-eang rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara yn cael ei weithredu trwy bartneriaeth. “Llongyfarchiadau i'r enillwyr! Mae Hub Cymru Africa yn edrych ymlaen at weld mwy o geisiadau fel hyn y flwyddyn nesaf ar gyfer gwobrau 2023.”
Dywedodd enillydd y Wobr Bartneriaeth, Dr Christina Thatcher o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a Godess Bvukutwa o Ganolfan Menywod Mambakwedza, Zimbabwe:
“Rydym wrth ein bodd bod ein partneriaeth ryngwladol wedi cael cydnabyddiaeth trwy’r wobr hon gan Hub Cymru Africa. “Mae gweithio ar y cyd wedi ein galluogi i ail-fframio’r naratif, cynnig cefnogaeth i fenywod ifanc a dysgu oddi wrth ein gilydd. Rydym mor ddiolchgar i gael y cyfle i ddathlu hyn gyda’n gilydd!”
Meddai enillydd y Wobr Gynaladwyedd, Sean Lawson o Bees for Development a Dickson Biryomumaisho o TUNADO:
“Rydym wrth ein bodd i dderbyn y Wobr Gynaladwyedd gan Hub Cymru Africa. Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni wrth adeiladu partneriaeth gynaliadwy a theg rhwng Cymru ac Uganda. “Mae derbyn y wobr hon yn cryfhau ein penderfyniad i wneud mwy o waith gwell gyda’n gilydd – gan wella bywydau pobl yn Uganda trwy gadw gwenyn.”
Dywedodd Martha Musonza Holman, enillydd y Wobr Gwirfoddolwr Unigol:
“Rwyf mor falch o dderbyn y Wobr Gwirfoddolwr Unigol oherwydd ei fod yn dwyn sylw at bwysigrwydd gwirfoddoli mewn mudiad. "Mae ennill y wobr hon yn anrhydedd mawr yr wyf yn ei rhannu â’n holl wirfoddolwyr yng Nghymru a Phentref Chinamhora yn Zimbabwe; yn ogystal â'r holl bobl wych hynny sy'n gweithio mewn undod ledled Cymru ac Affrica. “Er gwaethaf yr holl galedi rydyn ni wedi’i wynebu yn ein gwaith partneriaeth, rydyn ni’n dal i ymdrechu a chyflawni pethau gyda’n gilydd. Mae cael eich cydnabod fel hyn yn dod ag ymdeimlad enfawr o lawenydd. Mae hyn yn golygu y gallwn estyn allan yn fwy at sefydliadau o’r un anian ac ennill enw da ac ymddiriedaeth gan gyllidwyr i gefnogi ein gwaith.”
DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Am gyfweliadau, cysylltwch â: Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu, Hub Cymru Africa petergilbey@hubcymruafrica.org.uk Cliciwch yma i lawrlwytho asedau brandio. Enillydd y Wobr Bartneriaeth - Canolfan Menywod Mambakwedza yn Zimbabwe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd Mae Canolfan Menywod Mambakwedza yn sefydliad nid-er-elw sy'n ceisio chwalu stereoteipiau rhywedd trwy ysbrydoli, arfogi, mentora ac eirioli dros hawliau menywod a merched difreintiedig yn Zimbabwe fel y gallant fod yn arweinwyr llwyddiannus mewn cymdeithas. Mae sylfaenydd a chydlynydd y ganolfan, Godess Bvukutwa, wedi bod yn gweithio yn y sector datblygu yn Zimbabwe ers dros 10 mlynedd. Mae hi'n hunan-ddiffinio fel awdur ffeministaidd ac ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol. Mae Dr Christina Thatcher o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn fardd, yn ddarlithydd ac yn ymchwilydd. Mae ganddi dros 10 mlynedd o brofiad yn arwain gweithdai ysgrifennu creadigol mewn ysgolion, lleoliadau cymunedol ac addysg uwch. Cyflwynodd Godess gais ar y cyd â Christina am grant Go Digital gan y Cyngor Prydeinig a oedd yn agored i brosiectau ar-lein a oedd yn cael eu cynnal rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara. Gyda'i gilydd - gyda chefnogaeth gan gydweithiwr arall o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, Dr Kate North - llwyddodd Godess a Christina i sicrhau’r cyllido. Maent wedi bod yn arwain prosiectau ysgrifennu merched gyda'i gilydd ac yn datblygu ein partneriaeth ers hynny. Enillydd y Wobr Gynaladwyedd - Tunado (Sefydliad Datblygu Gwenyna Cenedlaethol Uganda) a Bees for Development Mae Bees for Development yn elusen fyd-eang sy’n ceisio gwella bywyd gyda gwenyn. Maent yn hyrwyddo cadw gwenyn cynaliadwy er mwyn brwydro yn erbyn tlodi, adeiladu bywoliaethau a bod o fudd i fioamrywiaeth. Mae Tunado yn darparu llwyfan cenedlaethol i randdeiliaid hyrwyddo a datblygu diwydiant gwenyna sy'n economaidd hyfyw ac amgylcheddol gynaliadwy yn Uganda. Roedd y bartneriaeth hon yn canolbwyntio ar gynorthwyo gallu sefydliadol ac ariannol Tunado i weithio tuag at hunanddibyniaeth, rhannu adnoddau a gwybodaeth, a sefydlu mudiad cynhwysol. Enillydd Gwobr Gwirfoddolwr Unigol - Martha Musonza Holman o Love Zimbabwe Mae Love Zimbabwe (Y Fenni) ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Chinamhora (Zimbabwe) wedi sefydlu a chynnal partneriaeth ar y cyd ers Ionawr 2009. Symudodd y sylfaenydd, Martha Holman o Zimbabwe i'r DU yn 2001 ac ymgartrefodd yn Y Fenni, Cymru. Ei hamcan oedd adeiladu partneriaeth a fyddai’n annog ymwybyddiaeth ddiwylliannol rhwng y ddwy wlad tra’n meithrin prosiectau twf economaidd i liniaru tlodi ym Mhentref Chinamhora. Gadawodd Martha Zimbabwe yn 2001 am ei bod yn ofni am ei diogelwch ar ôl siarad yn erbyn llywodraeth Mugabe. Ers cyrraedd y DU, mae hi wedi dioddef tlodi a hiliaeth, yn ogystal â chael ei gwahanu oddi wrth ei theulu gartref. Eto i gyd, yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi gweithio’n wirfoddol i godi ymwybyddiaeth am ddatblygu cymunedol ac adeiladu cymunedau gwydn yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth a pharch.
  • Lwyddodd i ddarbwyllo arweinydd pentref Chinamhora i roi tir ar gyfer adeiladu canolfan gymunedol i gynnig cymorth i blant anabl
  • Mae llyfrgell y ganolfan gymunedol yn cynnwys ystafell synhwyraidd sydd â theganau meddal a dodrefn sy'n addas ar gyfer plant anabl
  • Yn ystod epidemig colera yn 2007, darparodd Martha dros 400kg o nwyddau meddygol, a roddwyd i ysbyty Makumbi a chlinig cymunedol Chinamhora
  • Yn Ebrill 2018, cyflwynodd Martha brosiect cyfnewid diwylliannol a dysgu ar gyfer myfyrwyr prifysgol, a oedd yn golygu mynd â myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llambed a Phrifysgol De Utah, UDA i gymryd rhan mewn prosiectau datblygu cymunedol megis adeiladu gerddi twll-clo yn y gymuned a phlannu coed
  • Mae Martha wedi helpu i gysylltu pedair ysgol yng Nghymru gyda phedair ysgol ym mhentref Chinamhora trwy gysylltiadau dosbarth y Cyngor Prydeinig. Mae ysgolion yn y naill wlad a’r llall wedi cydweithio i hyrwyddo materion byd-eang fel newid hinsawdd
  • Sefydlodd drefniant gefeillio rhwng tref y Fenni a phentref Chinamhora
  • Hefyd ymgysylltodd â thros 300 o ysgolion i gefnogi masnach deg a chynnal gweithdai ar bwysigrwydd masnachu’n deg i wledydd incwm isel a chanolig.
Panel beirniadu:
  • Hannah S. Doornbos - Rheolwr Prosiect Allgymorth gyda Rhwydwaith Datblygu Rhyngwladol y De Orllewin (SWIDN)
  • Carol Adams - Arweinydd Portffolio Affrica ar y Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP), a Rheolwr Gyfarwyddwr Food Adventure Social Enterprise Ltd.
  • Claire O'Shea - Pennaeth Partneriaeth yn Hub Cymru Africa, a Chyd-Gadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru.
  • Dr Kit Chalmers - Pennaeth Polisi a Dysgu gydag Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol (THET).

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl