EN
< Newyddion

“Dirymu Prydain Fyd-eang”- Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru

Polisi ac Ymgyrchoedd

Adwaith i bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ar dorri’r ymrwymiad o 0.7% i’r gyllideb Cymorth Datblygu Dramor

Mae Cymorth Datblygu Dramor yn achub bywydau.  Mae’n ymrwymiad ac yn gyfrifoldeb na ddylem fyth gamu i ffwrdd oddi wrtho. Dyma pam y mae pleidlais heddiw yn ergyd sylweddol i bobl dlotaf y byd ac yn gadarnhad nad yw Llywodraeth y DU yn cadw ei haddewidion.

Mae’r Canghellor wedi dweud y byddai’r gyllideb gymorth yn dychwelyd i 0.7% o’r Incwm Gwladol Gros (GNI), os bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn rhagweld: i) y bydd y diffyg cyfredol (benthyca ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd) yn gostwng islaw sero, a, ii) y bydd dyled fel cyfran o GDP yn gostwng. Byddai’r amodau ond wedi cael eu bodloni unwaith yn yr 20 mlynedd diwethaf. Mae’r lefel ormesol o uchel a osodwyd gan Ganghellor y Trysorlys, Rishi Sunak AS, yn golygu bod hwn yn doriad amhenodol i’n cyllideb undod byd-eang.

Ar ôl canrifoedd o elwa ar gael cyfoeth trwy wladychu, o ddatblygu drud ar garbon ac sydd yn dinistrio natur, mae’n ddyletswydd ar wledydd incwm uchel fel ein gwlad ni i ysgwyddo ein cyfrifoldeb, er mwyn ein bod i gyd yn gallu cyflawni dyfodol cynaliadwy a chyfiawn.

Mae gan Gymru draddodiad o undod byd-eang y dylai ymfalchïo ynddo. Mae’r elusen flaenllaw yng Nghymru, Interburns, yn un enghraifft o’r gwaith sydd yn achub bywydau y mae cyllideb gymorth y DU yn ei chefnogi, sydd, trwy ei gwaith gyda phartneriaid, wedi dangosgwelliannau gwirioneddol a mesuradwyar draws yr holl wasanaethau llosgiadau a gynhelir mewn gwledydd incwm isel a chanolig.

Mae Cymru a’r DU yn falch o’r gwaith sydd yn achub bywydau y defnyddir yr arian hwn i’w wneud. Yn 2015, deddfodd Llywodraeth Glymbleidiol y DU bryd hynny ar yr ymrwymiad i ddyrannu 0.7% o GNI i gymorth datblygu dramor.

“Byddwn yn falch o gynnal ein hymrwymiad i wario 0.7 y cant o GNI ar ddatblygu, a gwneud mwy i helpu gwledydd sydd yn derbyn cymorth i fod yn hunangynhaliol” – dyma’r hyn a addawodd llywodraeth y DU i’r bobl 19 mis yn unig yn ôl.  Heddiw, mae’r addewid balch hwnnw wedi cael ei dorri.

Eleni, yng nghanol pandemig byd-eang ac argyfwng hinsawdd, mae Llywodraeth y DU yn cynnal uwchgynadleddau’r G7 a COP26.  Dylent fod wedi achub ar y cyfle hwn i ddangos arweinyddiaeth fyd-eang trwy gamu ymlaen ac ymrwymo i gymorth datblygu dramor, gan sicrhau bod pobl dlotaf y byd a chenedlaethau’r dyfodol yn gallu cyflawni.

Dywedodd Claire O’Shea, Cadeirydd Grŵp Asiantaethau Dramor Cymru (WOAG):

“Mae’r rheolau amhosibl a osodwyd gan y Canghellor yn golygu bod y toriad hwn i Gymorth Datblygu Dramor hanfodol yn ei hanfod yn amhenodol ac yn barhaol.  Mae’n dirymu ‘Prydain Fyd-eang’ ac mae’n gyfeiliornus yn foesol. “Bydd yr effaith tymor byr ar fywydau yn ddinistriol.  Ychydig fisoedd yn ôl, fe wnaethom ofyn am fap ffordd clir yn ôl i’n hymrwymiad o 0.7%.  Nid map ffordd yw hwn, ond cam gwag.  Penderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud sydd yn troi ‘Prydain Fyd-eang’ yn ‘Brydain Fach’. “Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi’r toriad hwn ar unwaith.”

Nodiadau i’r golygydd

  • Am gyfweliadau yn Gymraeg neu yn Saesneg, cysylltwch â:

Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu, Hub Cymru Africa petergilbey@hubcymruafrica.org.uk | 07495 008 927

  • Grŵp Asiantaethau Tramor ar Twitter:

https://twitter.com/woagwales

  • Cadeirydd WOAG, Claire O’Shea ar Twitter:

https://twitter.com/closhea

  • Aelodau’r Grŵp Asiantaethau Tramor:

Cafod Cymorth Cristnogol DEC Cymru Anabledd yng Nghymru ac Affrica Oxfam Cymru Y Groes Goch Achub y Plant Maint Cymru Tearfund UP Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru Hub Cymru Africa

Adwaith i bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ar dorri’r ymrwymiad o 0.7% i’r gyllideb Cymorth Datblygu Dramor Mae Cymorth Datblygu Dramor yn achub bywydau.  Mae’n ymrwymiad ac yn gyfrifoldeb na ddylem fyth gamu i ffwrdd oddi wrtho.  Dyma pam y mae pleidlais heddiw yn ergyd sylweddol i bobl dlotaf y byd ac yn gadarnhad nad yw Llywodraeth y DU yn cadw ei haddewidion. Mae’r Canghellor wedi dweud y byddai’r gyllideb gymorth yn dychwelyd i 0.7% o’r Incwm Gwladol Gros (GNI), os bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn rhagweld: i) y bydd y diffyg cyfredol (benthyca ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd) yn gostwng islaw sero, a, ii) y bydd dyled fel cyfran o GDP yn gostwng.  Byddai’r amodau ond wedi cael eu bodloni unwaith yn yr 20 mlynedd diwethaf.  Mae’r lefel ormesol o uchel a osodwyd gan Ganghellor y Trysorlys, Rishi Sunak AS, yn golygu bod hwn yn doriad amhenodol i’n cyllideb undod byd-eang. Ar ôl canrifoedd o elwa ar gael cyfoeth trwy wladychu, o ddatblygu drud ar garbon ac sydd yn dinistrio natur, mae’n ddyletswydd ar wledydd incwm uchel fel ein gwlad ni i ysgwyddo ein cyfrifoldeb, er mwyn ein bod i gyd yn gallu cyflawni dyfodol cynaliadwy a chyfiawn. Mae gan Gymru draddodiad o undod byd-eang y dylai ymfalchïo ynddo.  Mae’r elusen flaenllaw yng Nghymru, Interburns, yn un enghraifft o’r gwaith sydd yn achub bywydau y mae cyllideb gymorth y DU yn ei chefnogi, sydd, trwy ei gwaith gyda phartneriaid, wedi dangos gwelliannau gwirioneddol a mesuradwy ar draws yr holl wasanaethau llosgiadau a gynhelir mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Mae Cymru a’r DU yn falch o’r gwaith sydd yn achub bywydau y defnyddir yr arian hwn i’w wneud.  Yn 2015, deddfodd Llywodraeth Glymbleidiol y DU bryd hynny ar yr ymrwymiad i ddyrannu 0.7% o GNI i gymorth datblygu dramor. “Byddwn yn falch o gynnal ein hymrwymiad i wario 0.7 y cant o GNI ar ddatblygu, a gwneud mwy i helpu gwledydd sydd yn derbyn cymorth i fod yn hunangynhaliol” – dyma’r hyn a addawodd llywodraeth y DU i’r bobl 19 mis yn unig yn ôl.  Heddiw, mae’r addewid balch hwnnw wedi cael ei dorri. Eleni, yng nghanol pandemig byd-eang ac argyfwng hinsawdd, mae Llywodraeth y DU yn cynnal uwchgynadleddau’r G7 a COP26.  Dylent fod wedi achub ar y cyfle hwn i ddangos arweinyddiaeth fyd-eang trwy gamu ymlaen ac ymrwymo i gymorth datblygu dramor, gan sicrhau bod pobl dlotaf y byd a chenedlaethau’r dyfodol yn gallu cyflawni. Dywedodd Claire O’Shea, Cadeirydd Grŵp Asiantaethau Dramor Cymru (WOAG):
“Mae’r rheolau amhosibl a osodwyd gan y Canghellor yn golygu bod y toriad hwn i Gymorth Datblygu Dramor hanfodol yn ei hanfod yn amhenodol ac yn barhaol.  Mae’n dirymu ‘Prydain Fyd-eang’ ac mae’n gyfeiliornus yn foesol. “Bydd yr effaith tymor byr ar fywydau yn ddinistriol.  Ychydig fisoedd yn ôl, fe wnaethom ofyn am fap ffordd clir yn ôl i’n hymrwymiad o 0.7%.  Nid map ffordd yw hwn, ond cam gwag.  Penderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud sydd yn troi ‘Prydain Fyd-eang’ yn ‘Brydain Fach’. “Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi’r toriad hwn ar unwaith.”
Nodiadau i’r golygydd
  • Am gyfweliadau yn Gymraeg neu yn Saesneg, cysylltwch â:
Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu, Hub Cymru Africa petergilbey@hubcymruafrica.org.uk | 07495 008 927
  • Grŵp Asiantaethau Tramor ar Twitter:
https://twitter.com/woagwales
  • Cadeirydd WOAG, Claire O’Shea ar Twitter:
https://twitter.com/closhea
  • Aelodau’r Grŵp Asiantaethau Tramor:
Cafod Cymorth Cristnogol DEC Cymru Anabledd yng Nghymru ac Affrica Oxfam Cymru Y Groes Goch Achub y Plant Maint Cymru Tearfund UP Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru Hub Cymru Africa

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl
Blog, Newyddion

O Khartoum i Gaerdydd: Israa Mohammed a Rhyfel Cartref Swdan

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl