Mae Lenshina Hines yn bartner yn Fair and Fabulous, siop fasnach deg yng Nghastellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, yn ogystal ag ysgrifennydd grŵp Masnach Deg y dref leol, ac mae hi’n gweithio’n agos gyda Cymru Masnach Deg. Mae’r siop yn aelod o Rwydwaith masnach deg BAFTS y DU, rhwydwaith o siopau a chyflenwyr annibynnol sy’n ymroddedig i hyrwyddo manwerthu masnach deg yn y DU. Mae BAFTS ei hun yn aelod o Sefydliad Masnach Deg y Byd (WFTO).
Ym mis Mehefin 2020, roedd Lenshina yn rhwystredig oherwydd diffyg ymateb cyhoeddus BAFTS i’r mudiad Black Lives Matter (BLM) yn y DU, ac ysgrifennodd i ofyn iddynt ddilyn egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol sy’n arwain y mudiad masnach deg, a sefyll mewn undod gyda’r BLM mewn ymgyrchu dros gydraddoldeb.
Fe wnaeth Lenshina ddarganfod nad oedd BAFTS yn siarad allan ar faterion yr oeddent yn cytuno â nhw weithiau ac yn bersonol yn rhoi cefnogaeth iddynt, oherwydd bod y bwrdd yn ansicr o sut i symud ymlaen, a’u bod yn ofni adlais gan eu haelodau neu’r cyfryngau. Gwahoddwyd Lenshina i ymuno â’r bwrdd ac wedi hynny, daeth yn Gadeirydd BAFTS yn 2022.
Fodd bynnag, fel un o’r ychydig aelodau o’r gymuned (dim yn wyn) ar draws y byd, a’r aelod Du cyntaf erioed o’r Bwrdd, roedd Lenshina yn teimlo’r baich o yrru’r gwaith gwrth-hiliaeth. Gweithiodd gyda Hub Cymru Africa (HCA) a’r Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP) i gofrestru BAFTS i ddilyn y Siarter Gwrth-Hiliaeth newydd ei chyhoeddi. Meddai:
“Roedd cael cefnogaeth HCA yn golygu nad oeddwn i’n teimlo’n unig, ac yn gorfod gweithio ar fy mhen fy hun i ddarganfod sut i greu newid yn y sefydliad. Nawr, roedd gennyf gefnogaeth gan bobl/arbenigwyr sy’n deall y pwnc, a fframwaith clir”.
Ym mis Hydref 2022, fe wnaeth BAFTS gofrestru i ddilyn y Siarter; croesawodd Lenshina y cyflawniad ac meddai:
“Nawr rydyn ni [BAFTS] yn nodi digwyddiadau fel Mis Hanes Pobl Dduon Prydain, a Mis Hanes LHDTC+. Rydym wedi datblygu gweithdrefnau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer adolygu unrhyw negeseuon cyfryngau cymdeithasol a allai fod yn ddadleuol, sy’n ein galluogi i ddefnyddio ein llais a pheidio ag aros yn dawel allan o ofn.”
Mae aelodau Bwrdd BAFTS wedi ymuno â Chymuned Ymarfer Gwrth-Hiliaeth HCA ac mae Lenshina, fel cadeirydd BAFTS, wedi cydweithio â HCA a Cymru Masnach Deg i gadeirio trafodaeth banel ar-lein gan gyflenwyr masnach deg fel rhan o gyfres Ail-fframio’r Naratif HCA.
Mae BAFTS wedi parhau i rannu ei ddysgu gyda’i aelodau. Yng nghynhadledd BAFTS 2022 ym Machynlleth, rhoddodd HCA a SSAP ddarlith ar bwysigrwydd dewrder mewn undod byd-eang. Ar ben hynny, siaradodd BAFTS ac arweinydd cymuned Cymru Affrica Martha Musonza Holman â chynrychiolwyr am brofiadau menywod Du yng Nghymru yn ystod dyddiau cynnar y protestiadau Black Lives Matter.
Dewisodd Bwrdd BAFTS i ganolbwyntio ar Bwyntiau’r Siarter i ddechrau:
1. Rydym yn ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth. Mae’n broblem i bawb, nid baich un grŵp o bobl yn unig, ac mae dod â’r mater i ben yn fuddiol i bawb
8. Byddwn yn defnyddio iaith, technegau adrodd straeon, a lluniau priodol a meddylgar. Rydym yn cydnabod bod ganddynt ystyr, y gallant achosi niwed, a’u bod yn gallu atgyfnerthu hiliaeth
12. Byddwn yn ymrwymo i gynnwys ein partneriaid, ein bwrdd, ein gwirfoddolwyr a’n cynulleidfa ehangach yn ein gwaith mewn perthynas â’r siarter hon.
Roeddent yn teimlo’r angen i dynnu sylw at gyfrifoldeb y gymuned BAFTS i fynd i’r afael â hiliaeth, a bod iaith ac adrodd straeon yn elfennau allweddol o gael masnach deg yn iawn. Fel sefydliad rhwydwaith, roedd ganddynt gyfrifoldeb i gynnwys eu holl aelodau hefyd.
Er mwyn cyflawni’r nod hwn ymhellach, yn dilyn trafodaeth Bwrdd wedi’i hwyluso gan HCA ar weithredu’r Siarter Gwrth-Hiliaeth, gwahoddwyd HCA a SSAP eto i Gynhadledd BAFTS 2023. Cyflwynodd HCA weithdy i aelodau’r gynulleidfa ar sut i weithredu newidiadau i’r iaith a’r lluniau yr oeddent yn eu defnyddio i hyrwyddo masnach deg. Roedd y themâu yn cynnwys:
Fe wnaeth mwyafrif llethol aelodau’r gynulleidfa ymrwymiadau i neilltuo gweithredoedd yn ystod y sesiwn, fel adolygu oedran y lluniau a’r straeon a rannwyd. Roedd adborth o’r gweithdy yn dangos newid mewn agwedd hefyd:
“Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy herio gan fy anwybodaeth fy hun ynghylch hiliaeth neu ddiffyg gweithredu yn ymwneud â gwrth-hiliaeth, wedi’i ysbrydoli gan gamau HCA i gefnogi sefydliadau. Byddaf yn gwneud ymdrech fwy ymwybodol i gymryd rhan weithredol mewn gwrth-hiliaeth.”
“Dysgais am yr holl adnoddau am ddiaspora, adrodd straeon a gwrth-hiliaeth ar wefan HCA.”
“Roeddwn i’n teimlo bod gen i lawer i’w ddysgu, gan fod hyn yn greiddiol i fy musnes.”
“Byddaf yn dysgu mwy am adrodd straeon yn effeithiol, yn wybodus ac yn feddylgar.”
“Fe wnes i ddysgu awgrymiadau gwych am sut mae ‘da’ yn edrych, fel y gallaf ddefnyddio’r rhain i fod hyd yn oed yn well am helpu yn y ffordd iawn.”
“Byddaf yn trosglwyddo’r hyn rydym wedi’i ddysgu i weddill y tîm, i sicrhau ein bod ni gyd yn ymwybodol o’r ffordd gyfrifol o ddefnyddio iaith a lluniau.”
Adroddwyd yn anffurfiol am effaith mwy hirdymor y gweithdy i Cymru Masnach Deg gan Tracy Mitchell o True Origin, oedd ddim yn gwybod am y cysylltiad rhwng HCA a Cymru Masnach Deg:
“Roedden nhw wedi bod i gynhadledd BAFTS ac wedi mynychu eich gweithdy ac yn meddwl ei fod yn ardderchog. Roeddem yn diweddaru ein gilydd ar ein gwaith, a ‘dwi ddim yn credu eu bod yn sylweddoli pa mor gysylltiedig ydym, gan iddynt dynnu eu nodiadau o’ch gweithdy allan, dweud wrthyf yn fanwl amdano, a sut y byddant yn ei weithredu ac yn meddwl am eu cyfathrebu o hyn ymlaen.
“Roedd yn hyfryd cael adborth, yn enwedig oherwydd na ofynnwyd amdano, roeddent jyst yn dweud wrth rywun am y pethau yr oeddent wedi’u gwneud yn ddiweddar ac yn amlwg, wedi cael eu bywiogi a’u cyffroi ganddynt.”
Fis Hydref diwethaf, fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon 2023, cyhoeddodd BAFTS y 3 pwynt Siarter nesaf mae’n bwriadu mynd i’r afael â nhw yn y flwyddyn i ddod mewn cylchlythyr arbennig i’r holl aelodau:
“Mae’r Mis Hanes Pobl Dduon yn nodi blwyddyn hefyd ers i ni gofrestru â’n 3 nod cyntaf o’r Siarter Gwrth-hiliaeth. Rydym wedi gwerthfawrogi’r her o’u harchwilio a derbyn hyfforddiant a chymorth gan HCA ar-lein ac yn y gynhadledd.
“Rydym yn falch o gyhoeddi’r tri nod nesaf rydym wedi eu dewis ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef:
4. Byddwn yn ymrwymo i ddatblygu ein dealltwriaeth ddyfnach ein hunain o faterion hiliaeth, a sut maen nhw’n effeithio ar ein ffordd o feddwl
5. Rydym yn sefydliad sy’n croesawu adborth beirniadol, gyda’r bwriad o ddysgu a gwella ein gwaith. Byddwn yn gweithredu heb fod yn amddiffynnol nac yn negyddol i’r rheini sy’n tynnu sylw at arferion hiliol neu drefedigaethol, ac yn creu prosesau atebolrwydd o fewn ein gwaith
11. Byddwn yn ystyried yr anghyfiawnderau byd-eang ehangach yn ein gwaith, ac yn ystyried effaith negyddol ein gweithredoedd ar yr hinsawdd a’r amgylchedd ac yn eu lliniaru, a chydnabod mai’r bobl sydd â’r ôl troed carbon isaf yw’r rheini sy’n teimlo’r effaith fwyaf
“Rydym yn edrych ymlaen at archwilio’r nodau hyn gyda’n gilydd a symud ymlaen gyda’n dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn hollol wrth-hiliol.”
Mae angen newid agweddau ac arferion. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i aelodau cymuned Cymru Affrica rannu dewrder Lenshina. Mae rhwystrau i ficro-elusennau yn y gymuned arwyddo’r Siarter Gwrth-hiliaeth, yn fwyaf nodedig, ymrwymiadau amser. Mae darpar gyfranogwyr yn dweud hefyd, eu bod yn teimlo nad ydyn nhw’n “gwneud digon eto” i allu ymrwymo’n gyhoeddus i’r siarter. Fodd bynnag, mae’r astudiaeth achos hon yn dangos bod llawer o sefydliadau sydd efallai ddim yn credu bod y Siarter “ar eu cyfer” nhw, yn dal i elwa o drafod a myfyrio ar yr egwyddorion yn y siarter, a mynd i’r afael â phwyntiau unigol y siarter mewn darnau hylaw i wneud newidiadau effeithiol.