EN
< Newyddion

“Mae cymorth datblygiad tramor yn achub bywydau – mae mor syml â hynny”

Polisi ac Ymgyrchoedd
9 year old Bushra wearing a mask provided by Islamic Relief
Bushra* wears a mask provided by Islamic Relief. Bushra* is 9 years old, she has 4 brothers and 2 sisters. Her father has a spinal injury which consists of a slipped disc and is unable to work. They have been displaced for a number of years and are currently living in Al-Harakat camp in Idlib.There are 150 families in this camp from Homs country side, Hama, Aleppo countryside and Abu Aldohor. Most of the families in this camp don’t work so there isn’t a source of income. They rely on the aid given to them by organisations. There are also a growing number of orphan families and widows living in this camp.(*Bushra is a pseudonym)

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar yr 2ail o Fai 2021 yn The National.

Mae Cymorth Datblygiad Tramor yn achub bywydau. Dyna pam, yn 2015, y pasiwyd deddfwriaeth yn y DU i gadarnhau’r gyllideb cymorth o 0.7%, a pham 16 mis yn ôl, yr addawodd llywodraeth y DU i “barhau â’n hymrwymiad i wario 0.7 y cant o GNI ar ddatblygiad”.

Felly pam yn 2021, pan rydym yn wynebu dau argyfwng byd-eang, sef yr argyfwng hinsawdd a’r pandemig Covid-19 – bod yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab wedi cyhoeddi toriadau llym i gyllideb cymorth y DU? Ergyd ddinistriol i bobl sy’n byw yng ngwledydd mwyaf bregus y byd.

Er nad yw’r cyhoeddiadau wedi bod yn glir iawn, mae amcangyfrifon yn awgrymu toriadau o 40% ar gyfer addysg i ferched, 80% i brosiectau dŵr glân a glanweithdra, a 95% i gyllid polio. Os ydy 2020 wedi dysgu unrhyw beth i ni, y pwysigrwydd o gael mynediad i ddŵr glân, rheoli clefydau a chymorth ar y cyd ydy hynny.

Rydym yn byw mewn byd cydgysylltiedig, lle mae ein gweithredoedd yma yng Nghymru yn gallu cael goblygiadau pellgyrhaeddol miloedd o gilomedrau i ffwrdd ac i’r gwrthwyneb. Mae gan Gymru hanes balch o undod byd-eang. Yn 2006, lansiwyd y rhaglen Cymru o Blaid Affrica gan y cyn Prif Weinidog Rhodri Morgan. Sefydlwyd y rhaglen yn sgil y disgwyliad gan bobl Cymru y dylid cael ymateb rhyngwladol Cymreig i drychinebau blynyddoedd cynnar y 2000au, gan gynnwys Tswnami Gŵyl San Steffan. Mae’r traddodiad hwnnw’n parhau heddiw. Mae’r sector, gyda chefnogaeth Hub Cymru Affrica, yn cael effaith enfawr.

Sefydlwyd Interburns yn Abertawe ddechrau 2006 fel cyswllt rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol yma ac yn India, gyda’r nod o drawsnewid y ffordd y mae gofal llosgi’n cael ei ddarparu. Ers hynny, mae wedi tyfu’n sefydliad byd-eang, ac wedi arwain at newid trawsnewidiol. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yng Nghyfnodolyn y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anafiadau Llosgi y llynedd, dangoswyd bod y ddarpariaeth o ran gofal llosgiadau wedi gwella’n gyffredinol o ganlyniad i ymyriad Interburns. Ni ddylid rhoi terfyn ar waith fel hwn er mwyn hyrwyddo ‘buddiannau Prydeinig’ yn unig – buddiannau sy’n gwbl aneffeithiol wrth fynd i’r afael â’r problemau byd-eang sy’n ein hwynebu bob un.

Y llynedd, sicrhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru (WOAG) mai toriad dros dro yw hwn. Dim ond ychydig wythnosau’n ôl, yn ystod dadl etholiadol Datblygiad Byd-eang a Chymorth Dyngarol WOAG yn y Senedd, fe wnaeth yr ymgeisydd Ceidwadol Calum Davies yn glir mai mesur dros dro oedd hwn hefyd, yn ôl ei ddealltwriaeth ef. Ond mae hyn yn anwybyddu’r bywydau fydd yn cael eu colli nawr. Mae angen map clir ar y sector yn ôl i’r ymrwymiad o 0.7%.

Eleni, mae llygaid y byd ar yr ynys hon, wrth i Gernyw gynnal uwchgynhadledd y G7 ym mis Mehefin, ac mae Glasgow yn croesawu arweinwyr o bob cwr o’r byd ar gyfer COP26 – uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd. Dylai hwn fod yn amser i ni wneud ymrwymiadau beiddgar i geisio creu dyfodol cynaliadwy, nid dinistrio ein henw da yn fyd-eang.

Yn syml iawn, bydd pobl yn dioddef a bydd bywydau’n cael eu colli o ganlyniad. Mae mor syml â hynny.  Mae angen eglurder ar ein partneriaid.  Eleni, o bob blwyddyn, mae angen inni gamu fyny, nid camu’n ôl

Claire O’Shea ydy pennaeth Hub Cymru Affrica a Chyd-gadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar yr 2ail o Fai 2021 yn The National.
Mae Cymorth Datblygiad Tramor yn achub bywydau. Dyna pam, yn 2015, y pasiwyd deddfwriaeth yn y DU i gadarnhau'r gyllideb cymorth o 0.7%, a pham 16 mis yn ôl, yr addawodd llywodraeth y DU i "barhau â’n hymrwymiad i wario 0.7 y cant o GNI ar ddatblygiad". Felly pam yn 2021, pan rydym yn wynebu dau argyfwng byd-eang, sef yr argyfwng hinsawdd a’r pandemig Covid-19 – bod yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab wedi cyhoeddi toriadau llym i gyllideb cymorth y DU? Ergyd ddinistriol i bobl sy'n byw yng ngwledydd mwyaf bregus y byd.Er nad yw'r cyhoeddiadau wedi bod yn glir iawn, mae amcangyfrifon yn awgrymu toriadau o 40% ar gyfer addysg i ferched, 80% i brosiectau dŵr glân a glanweithdra, a 95% i gyllid polio. Os ydy 2020 wedi dysgu unrhyw beth i ni, y pwysigrwydd o gael mynediad i ddŵr glân, rheoli clefydau a chymorth ar y cyd ydy hynny. Rydym yn byw mewn byd cydgysylltiedig, lle mae ein gweithredoedd yma yng Nghymru yn gallu cael goblygiadau pellgyrhaeddol miloedd o gilomedrau i ffwrdd ac i'r gwrthwyneb. Mae gan Gymru hanes balch o undod byd-eang. Yn 2006, lansiwyd y rhaglen Cymru o Blaid Affrica gan y cyn Prif Weinidog Rhodri Morgan. Sefydlwyd y rhaglen yn sgil y disgwyliad gan bobl Cymru y dylid cael ymateb rhyngwladol Cymreig i drychinebau blynyddoedd cynnar y 2000au, gan gynnwys Tswnami Gŵyl San Steffan. Mae'r traddodiad hwnnw'n parhau heddiw. Mae'r sector, gyda chefnogaeth Hub Cymru Affrica, yn cael effaith enfawr. Sefydlwyd Interburns yn Abertawe ddechrau 2006 fel cyswllt rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol yma ac yn India, gyda'r nod o drawsnewid y ffordd y mae gofal llosgi'n cael ei ddarparu. Ers hynny, mae wedi tyfu'n sefydliad byd-eang, ac wedi arwain at newid trawsnewidiol. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yng Nghyfnodolyn y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anafiadau Llosgi y llynedd, dangoswyd bod y ddarpariaeth o ran gofal llosgiadau wedi gwella'n gyffredinol o ganlyniad i ymyriad Interburns. Ni ddylid rhoi terfyn ar waith fel hwn er mwyn hyrwyddo 'buddiannau Prydeinig' yn unig - buddiannau sy’n gwbl aneffeithiol wrth fynd i'r afael â’r problemau byd-eang sy’n ein hwynebu bob un. Y llynedd, sicrhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru (WOAG) mai toriad dros dro yw hwn. Dim ond ychydig wythnosau'n ôl, yn ystod dadl etholiadol Datblygiad Byd-eang a Chymorth Dyngarol WOAG yn y Senedd, fe wnaeth yr ymgeisydd Ceidwadol Calum Davies yn glir mai mesur dros dro oedd hwn hefyd, yn ôl ei ddealltwriaeth ef. Ond mae hyn yn anwybyddu'r bywydau fydd yn cael eu colli nawr. Mae angen map clir ar y sector yn ôl i'r ymrwymiad o 0.7%. Eleni, mae llygaid y byd ar yr ynys hon, wrth i Gernyw gynnal uwchgynhadledd y G7 ym mis Mehefin, ac mae Glasgow yn croesawu arweinwyr o bob cwr o'r byd ar gyfer COP26 - uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd. Dylai hwn fod yn amser i ni wneud ymrwymiadau beiddgar i geisio creu dyfodol cynaliadwy, nid dinistrio ein henw da yn fyd-eang. Yn syml iawn, bydd pobl yn dioddef a bydd bywydau'n cael eu colli o ganlyniad. Mae mor syml â hynny.  Mae angen eglurder ar ein partneriaid.  Eleni, o bob blwyddyn, mae angen inni gamu fyny, nid camu'n ôl. Claire O’Shea ydy pennaeth Hub Cymru Affrica a Chyd-gadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Datganiadau i'r Wasg

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Carwyn Howell Jones, who served as First Minister of Wales and Leader of Welsh Labour from 2009 to 2018 appears on the podcast Wales Africa and the World.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cyn Brif Weinidog yn cefnogi Rhaglen Cymru ac Affrica mewn cyfweliad eang ei gwmpas

Polisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl