EN
< Newyddion

Claire O’Shea – Pennaeth Hub Cymru Africa

Claire O'Shea
Hub Cymru Africa / Nick Treharne

Rydym yn torri calon i rannu bod ein ffrind a’n cydweithiwr, a Phennaeth Hub Cymru Africa, Claire O’Shea, wedi marw’n dawel y bore ‘ma gyda’i theulu o’i chwmpas.

Roedd Claire yn arweinydd cymdeithas sifil angerddol ac yn ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol, ac mae ei heffaith wedi bod yn enfawr.  Cysegrodd ei bywyd i wneud y byd yn lle gwell yn y meysydd addysg ac iechyd, unigrwydd, cynhwysiant a chyfiawnder byd-eang.

Ers ymuno â Hub Cymru Africa ym 2019, daeth Claire yn arweinydd mewn undod byd-eang a datblygu rhyngwladol. Roedd hi’n eiriolwr brwd ynghylch y pwysigrwydd o helpu’r rhai mewn angen, er gwaethaf ffiniau, ac roedd hi’n angerddol dros ben am undod byd-eang, hyd yn oed wrth i’w hiechyd ei hun waethygu.

Mae pawb yn Hub Cymru Africa, ac yn y sector ehangach a thu hwnt, yn teimlo tristwch mawr am y golled, ond bydd etifeddiaeth Claire yn y maes undod byd-eang yn parhau i gael ei deimlo am flynyddoedd i ddod. Mae gennym ddyletswydd i Claire i barhau â’i gwaith, i eiriol dros newid, i fynnu cyfiawnder ac i greu byd mwy cyfartal.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A diverse group of people holds a vibrant "Equal Namibia" banner at a pride event, displaying joy and unity. The banner reads, "Equal Namibia: There is no freedom, if there is no equality."
Blog

Lleisiau Balchder: Adeiladu Cymuned a Gweithredu yn Affrica

Amrywiaeth a ChynhwysiantCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod Gweld yr erthygl
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl