Mae Cymorth Datblygiad Tramor yn achub bywydau. Dyna pam, yn 2015, y pasiwyd deddfwriaeth yn y DU i gadarnhau’r gyllideb cymorth o 0.7%, a pham 16 mis yn ôl, yr addawodd llywodraeth y DU i “barhau â’n hymrwymiad i wario 0.7 y cant o GNI ar ddatblygiad”.
Felly pam yn 2021, pan rydym yn wynebu dau argyfwng byd-eang, sef yr argyfwng hinsawdd a’r pandemig Covid-19 – bod yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab wedi cyhoeddi toriadau llym i gyllideb cymorth y DU? Ergyd ddinistriol i bobl sy’n byw yng ngwledydd mwyaf bregus y byd.
Er nad yw’r cyhoeddiadau wedi bod yn glir iawn, mae amcangyfrifon yn awgrymu toriadau o 40% ar gyfer addysg i ferched, 80% i brosiectau dŵr glân a glanweithdra, a 95% i gyllid polio. Os ydy 2020 wedi dysgu unrhyw beth i ni, y pwysigrwydd o gael mynediad i ddŵr glân, rheoli clefydau a chymorth ar y cyd ydy hynny.
Rydym yn byw mewn byd cydgysylltiedig, lle mae ein gweithredoedd yma yng Nghymru yn gallu cael goblygiadau pellgyrhaeddol miloedd o gilomedrau i ffwrdd ac i’r gwrthwyneb. Mae gan Gymru hanes balch o undod byd-eang. Yn 2006, lansiwyd y rhaglen Cymru o Blaid Affrica gan y cyn Prif Weinidog Rhodri Morgan. Sefydlwyd y rhaglen yn sgil y disgwyliad gan bobl Cymru y dylid cael ymateb rhyngwladol Cymreig i drychinebau blynyddoedd cynnar y 2000au, gan gynnwys Tswnami Gŵyl San Steffan. Mae’r traddodiad hwnnw’n parhau heddiw. Mae’r sector, gyda chefnogaeth Hub Cymru Affrica, yn cael effaith enfawr.
Sefydlwyd Interburns yn Abertawe ddechrau 2006 fel cyswllt rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol yma ac yn India, gyda’r nod o drawsnewid y ffordd y mae gofal llosgi’n cael ei ddarparu. Ers hynny, mae wedi tyfu’n sefydliad byd-eang, ac wedi arwain at newid trawsnewidiol. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yng Nghyfnodolyn y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anafiadau Llosgi y llynedd, dangoswyd bod y ddarpariaeth o ran gofal llosgiadau wedi gwella’n gyffredinol o ganlyniad i ymyriad Interburns. Ni ddylid rhoi terfyn ar waith fel hwn er mwyn hyrwyddo ‘buddiannau Prydeinig’ yn unig – buddiannau sy’n gwbl aneffeithiol wrth fynd i’r afael â’r problemau byd-eang sy’n ein hwynebu bob un.
Y llynedd, sicrhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru (WOAG) mai toriad dros dro yw hwn. Dim ond ychydig wythnosau’n ôl, yn ystod dadl etholiadol Datblygiad Byd-eang a Chymorth Dyngarol WOAG yn y Senedd, fe wnaeth yr ymgeisydd Ceidwadol Calum Davies yn glir mai mesur dros dro oedd hwn hefyd, yn ôl ei ddealltwriaeth ef. Ond mae hyn yn anwybyddu’r bywydau fydd yn cael eu colli nawr. Mae angen map clir ar y sector yn ôl i’r ymrwymiad o 0.7%.
Eleni, mae llygaid y byd ar yr ynys hon, wrth i Gernyw gynnal uwchgynhadledd y G7 ym mis Mehefin, ac mae Glasgow yn croesawu arweinwyr o bob cwr o’r byd ar gyfer COP26 – uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd. Dylai hwn fod yn amser i ni wneud ymrwymiadau beiddgar i geisio creu dyfodol cynaliadwy, nid dinistrio ein henw da yn fyd-eang.
Yn syml iawn, bydd pobl yn dioddef a bydd bywydau’n cael eu colli o ganlyniad. Mae mor syml â hynny. Mae angen eglurder ar ein partneriaid. Eleni, o bob blwyddyn, mae angen inni gamu fyny, nid camu’n ôl
Claire O’Shea ydy pennaeth Hub Cymru Affrica a Chyd-gadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru.