EN
< Newyddion

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth | Ailffurfio’r Naratif

Gwrth HiliaethCelfyddydau a Diwylliant
Picture of the hut by Ralph Esuscaled
Mae’n bleser gan Hub Cymru Africa a Phanel Cynghori Is-Sahara gyhoeddi cystadleuaeth ffotograffiaeth i gau ein prosiect #AilffurfiorNaratif blwyddyn o hydMae'r gystadleuaeth ar agor i ffotograffwyr o Affrica ac o Gymru, sydd â chysylltiadau o weithio gyda phartneriaid. Y thema eleni yw Undod, a bydd ffotograffau buddugol yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa ar-lein. Dyddiad Lansio: 19 Mawrth 2021 Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 31 Rhagfyr 2021 Arddangosfa: 1 Mawrth 2022  Cynulleidfa: Cymuned Cymru Affrica
  • Ffotograffwyr yn Affrica Is-Sahara sydd â chysylltiadau i Gymru
  • Ffotograffwyr o Gymru sydd â chysylltiadau i Affrica Is-Sahara.
Categorïau:
  • Ffotograffydd Proffesiynol
  • Ffotograffydd Armatwr
Ceisiadau:
  • Uchafswm o 3 llun fesul ffotograffydd
  • Dylech gynnwys teitl a chapsiwn 50 gair ar gyfer bob ffotograff, sy'n disgrifio pwy, beth, ble, pryd a pham.
Nod y prosiect ydy hyrwyddo delweddau a chanfyddiadau cadarnhaol o Affrica a phobl Affricanaidd. Mae ffotograffiaeth yn cofnodi digwyddiadau ac yn adrodd stori, ond mae’n rhaid i luniau fodloni’r canlynol hefyd:
  • Cynnwys cyd-destun 
  • Dangos undod 
  • Ceisio osgoi bod yn ecsbloetiol (yn enwedig at ddiben codi arian).
Meini prawf:
  • Dylai’r llun(iau) ddangos dealltwriaeth glir o'r term "Undod"
  • Mae’n rhaid darparu tystiolaeth o gydsyniad gwybodus  
  • Ni ellir golygu ffotograffiaeth gyda meddalwedd golygu lluniau
  • Mae’n rhaid i’r ffotograffydd roi caniatâd i’r llun(iau) gael eu defnyddio gan HCA a SSAP ar gyfer y gystadleuaeth hon/arddangosfa ar-lein, ac at ddibenion hyrwyddo. Bydd unrhyw ddefnydd o’r llun(iau) y tu allan i'r gystadleuaeth hon ac mewn gweithgareddau cysylltiedig yn cael ei drafod yn uniongyrchol gyda'r ffotograffydd.
Bydd y gwerthoedd canlynol yn cael eu hystyried wrth farnu ceisiadau:
  • Parch
  • Urddas
  • Ymwybyddiaeth
  • Caniatâd.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl