EN
< Newyddion

Gwahoddiad i dendro ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyfieithu i’r Gymraeg

Mae partneriaeth Hub Cymru Africa yn chwilio am gyflenwr gwasanaethau cyfieithu i’r Gymraeg ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, gyda’r posibilrwydd o ymestyn y cyfnod hwn. Rydym yn amcangyfrif y bydd angen cyfieithu tua 70,000 o eiriau’r flwyddyn. Bydd y gwasanaeth cyfieithu ar gyfer amrywiaeth o ddogfennau fel disgrifiad o weithdai a chynadleddau a bywgraffiadau, canllawiau a pholisïau, adroddiadau, cynnwys ar gyfer y we a datganiadau i’r wasg. Rydym eisiau sicrhau bod yr iaith yr ydym yn ei defnyddio yn gynhwysol ac yn wrth-hiliol ac rydym wedi datblygu geirfa o dermau yn https://bit.ly/3DdXmhI.  Rydym yn disgwyl i’n cyflenwr newydd weithio gyda ni i sicrhau cysondeb tebyg o ran terminoleg yn y cyfieithiadau Cymraeg, trwy ehangu’r eirfa i’r Gymraeg. Ynglŷn â Hub Cymru Africa Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth sydd yn cefnogi Cymuned Cymru Affrica, gan ddod â gwaith Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, Panel Cynghori Is-Sahara a Masnach Deg Cymru ynghyd.  Rydym yn cynrychioli’r sector cydsafiad rhyngwladol yng Nghymru. Y Cais Yn eich cais, nodwch
  •       Ddyfynbris am y gwaith, yn cynnwys yr holl gostau, yn cynnwys TAW, ac ar ba sail y byddech yn dymuno anfonebu (anfoneb fisol, sefydlog neu yn ôl y gwaith a wnaed)
  •       Amser ar gyfer cyflawni gwaith cyffredinol, ac ar gyfer eitemau brys
  •       Eich dull o ddychwelyd cyfieithiadau (ein dewis ni fyddai i chi gwblhau’r gwaith trwy rannu dogfennau ar Google Drive)
  •       Sut byddwch yn rheoli cyfnodau pan fyddwch yn absennol ac yn methu gwneud y gwaith eich hun
  •       Eich ymrwymiad i ddeall mynegiant iaith o ran y gwaith yr ydym yn ei wneud, yn arbennig yn ymwneud â hil
  •       Sut byddwch yn sicrhau cywirdeb cyfieithiadau e.e. cymwysterau a DPP, aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac ati
  •       Eich profiad yn ymwneud â gweithio gyda sefydliadau eraill i gyflawni contractau tebyg
  •       Manylion o leiaf dau fusnes yr ydych wedi gweithio gyda nhw fyddai’n fodlon i ni gysylltu â nhw am eirda
  •       Eich ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac i gynaliadwyedd amgylcheddol (yn berthnasol i sefydliadau yn unig)
  •       Tystiolaeth o yswiriant indemniad proffesiynol (atodwch gopi)
  •       Tystiolaeth o hyfywedd ariannol, e.e. y copi mwyaf diweddar o gyfrifon y cwmni (yn berthnasol i sefydliadau yn unig)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y tendr hwn, cysylltwch â CathieJackson@hubcymruafrica.org.uk. Dylid cyflwyno tendrau yn Saesneg i’r cyfeiriad ebost uchod erbyn 5pm ar ddydd Mawrth 14eg Rhagfyr 2021.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl