EN
< Newyddion

Maniffesto ar gyfer Undod Byd-eang yng Nghymru

Polisi ac Ymgyrchoedd
Hyb Cymru Affrica yw’r mudiad Datblygu Rhyngwladol mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd yn 2015, ac mae’n bartneriaeth o bedwar mudiad: Masnach Deg Cymru, Panel Cynghori Is-Sahara, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Ein prif ariannwr yw Llywodraeth Cymru, trwy Raglen Cymru ac Affrica. Rydym hefyd yn cael ein hariannu trwy’r Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu trwy Gronfa Her Elusennau Bach a’r Gydweithfa Cymdeithas Sifil, sef mudiad rydym yn perthyn iddo ynghyd â’n cymheiriaid yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Rydym yn gweithio gyda mwy na 200 o sefydliadau ac unigolion ledled Cymru o sector amrywiol, sy’n cynnwys sefydliadau dan arweiniad Affrica-Alltud, masnach deg, grwpiau ffydd, partneriaethau’r GIG a chysylltiadau cymunedol. Trwy ein gwaith, rydym yn rhoi cymorth i grwpiau yng Nghymru i gyflawni gwaith mewn partneriaeth â mudiadau yn Affrica i’r De o’r Sahara, gan ganolbwyntio ar addysg, iechyd, bywoliaeth gynaliadwy a newid yn yr hinsawdd. Rydym yn gweithio i wella arfer, gwreiddio diogelu, cyfathrebu am y materion sy’n effeithio ar ein partneriaid ac adeiladu rhwydweithiau sy’n gweithio tuag at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Adeiladu ar ein Cryfderau

Mae gan Gymru hanes hir a balch o bartneriaeth ryngwladol. Lansiodd Cymru a Lesotho y fenter gefeillio rhwng gwledydd gyntaf ym 1985; lansiwyd rhaglen Cymru dros Affrica yn 2008. Yn 2008 daeth Cymru’n Wlad Masnach Deg gyntaf y byd. Rydym wedi cymryd ein rôl fel gwlad sy’n gyfrifol yn fyd-eang o ddifrif, gan gyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2015; sy’n cynnwys datblygiad cynaliadwy mewn deddfwriaeth am y tro cyntaf. Yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd. Nawr yw’r amser i adeiladu ar yr uchelgeisiau hyn. Rydym yn carlamu trwy’r ‘degawd o weithredu’ tuag at 2030, y terfyn amser a bennwyd ar gyfer cyflawni’r nodau datblygiad cynaliadwy. Cyn i’r pandemig byd-eang daro, nid oeddem ar y trywydd iawn i gyflawni pob un o Nodau Datblygiad Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig; amcangyfrifwyd y byddai 6% o boblogaeth y byd yn dal i fyw mewn tlodi yn 2030. Mae Covid-19 wedi golygu’r cynnydd cyntaf mewn tlodi byd-eang ers degawdau. Nid lleihau tlodi eithafol yw’r unig uchelgais; mae angen rhoi sylw brys i 16 o amcanion arall. Ym mhob rhan o’r byd ac eithrio Gogledd America ac Ewrop mae ansicr- wydd ynghylch bwyd yn gwaethygu ac mae arweinwyr busnes a chymdeithas sifil wedi dweud mai’r pryder llethol ar gyfer y dyfodol yw diffyg gweithredu ar newid hinsawdd. Tarfwyd ar systemau iechyd ledled y byd, a hyd yn oed cyn i Covid-19 daro, rhagwelwyd y byddai 200 miliwn o blant allan o’r ysgol yn 2030. Os nad oeddem yn ei wybod o’r blaen, rydym bellach yn ymwybodol iawn o ba mor gydgysylltiedig yw ein byd. Mae llesiant Cymru’n dibynnu i raddau helaeth ar lesiant pawb. Nawr mae’n rhaid i ni wthio hyd yn oed yn galetach i sicrhau bod anghydraddoldebau byd-eang yn cael eu lleihau a bod y nodau datblygu cynaliadwy yn cael eu cyflawni.

Gweledigaeth ar gyfer Undod Byd-eang

Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn mynd â ni hyd at 2026, ac mae’n ddyletswydd arnynt i wneud ymrwymiadau uchelgeisiol ar gyfer Cymru. Er mwyn sicrhau ein bod yn chwarae ein rôl; rydyn ni eisiau llywodraeth sy’n arddangos Cymru am ei holl gryfderau. Rydyn ni wedi adeiladu sylfaen ragorol fel gwlad fach gyfrifol yn fyd-eang sy’n cyflawni pethau gwych. Ond, mae angen i ni wneud mwy i ganu ar y llwyfan byd-eang; rhaid i ni beidio â bod yn oddefol yn wyneb yr heriau hyn. Mae’r sector undod byd-eang yn allweddol mewn cynorthwyo Cymru i gyflawni hyn. Fel gwlad sy’n gyfrifol yn fyd- eang, rydyn ni eisiau sector datblygu a’n ymateb i fyd modern; un sydd ddim ynghlwm â gwladychiaeth ond sy’n ymwneud â datblygiad byd-eang mewn partneriaeth ac yn cydnabod bod y materion hyn yn effeithio ar bawb, gan ymateb i heriau sy’n ein hwynebu ni i gyd. Nid yw’n ddigon ‘gwneud dim niwed’ - rhaid i ni fod yn rhagweithiol, gan adeiladu ar yr hyn rydym yn ei wneud a datblygu polisïau sy’n rhoi cymorth gweithredol i sicrhau gwell dyfodol i’r cenedlaethau sydd i ddod. Mae gan hyd yn oed ein gweithredoedd lleiaf y potensial i greu newid; gadewch i ni wneud y newid hwnnw’n rhywbeth positif.

10 Argymhellion ar gyfer model datblygu byd-eang cynaliadwy at y dyfodol

  • Llunio strategaeth ddatblygu fyd-eang ar y cyd â phartneriaid yng Nghymru ac Affrica i’r De o’r Sahara, sy'n seiliedig ar bartneriaeth a materion sy'n peri pryder i'r naill garfan a’r llall
  • Dangos ymrwymiad i rôl fyd-eang Cymru trwy benodi Gweinidog â chyfrifoldeb dros Ryngwladoldeb a Newid Hinsawdd.
  • Ceisio setliad sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddyrannu Cymorth Datblygu Tramor yn dryloyw, yn seiliedig ar egwyddorion datblygu cynaliadwy, yn hytrach na buddiannau diplomyddol yn unig
  • Sbarduno gallu byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i leihau anghydraddoldeb iechyd byd-eang a chyflawni eu dyletswyddau byd-eang trwy addysg, strategaethau'r gweithlu ac adnoddau
  • Gwneud masnach deg a phryniant moesegol yn sylfaen i bob polisi caffael ar gyfer cyrff cyhoeddus a’r rheiny a ariennir gan y llywodraeth
  • Cynyddu cydlyniad cymunedol a chyfranogiad mewn partneriaethau rhyngwladol trwy ddathlu a hyrwyddo'r cymunedau alltud sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru
  • Adlewyrchu ar ganfyddiadau Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol 2019 a monitro'r modd y cyflawnir Nodau Datblygiad Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Sicrhau bod hyn yn cael ei wneud trwy bob gwaith domestig a rhyngwladol, a pheidio â'i ystyried yn fframwaith penodol sy'n ymwneud â datblygu rhyngwladol yn unig
  • Cryfhau cynaliadwyedd a chynyddu effaith rhaglen Cymru ac Affrica, trwy ddarparu grantiau aml-flwyddyn i sicrhau bod prosiectau cynaliadwy wedi’u gwreiddio a’u meddiannu gan ein partneriaid yng ngwledydd deheuol Affrica
  • Ceisio partneriaethau cryf o fewn y DU gyda'r Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu newydd, fel sail i arfer gorau a chreu amgylchedd ffafriol i gymdeithas sifil yng Nghymru a Chyrff Anllywodraethol ddarparu rhaglenni datblygu
  • Bydd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus fel rhan o'u prosesau gwneud penderfyniadau yn gweithredu asesiadau effaith i sefydlu, cofnodi a lleihau effeithiau byd-eang negyddol gan gynnwys y rhai ar yr amgylchedd a hawliau dynol.
Gallwch lawrlwytho ein maniffesto yma.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Datganiadau i'r Wasg

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Carwyn Howell Jones, who served as First Minister of Wales and Leader of Welsh Labour from 2009 to 2018 appears on the podcast Wales Africa and the World.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cyn Brif Weinidog yn cefnogi Rhaglen Cymru ac Affrica mewn cyfweliad eang ei gwmpas

Polisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl