EN
< Newyddion

Arweinyddiaeth ym Malawi: Partneriaeth Fferyllfa Gwrthficrobaidd Malawi-Cymru

Iechyd
Pharmaceutical Society of Malawi (PHASOM)
Pharmaceutical Society of Malawi (PHASOM)

Yn ddiweddar, mae William Mpute, llywydd Cymdeithas Fferyllol Malawi (PHASOM), wedi cydlynu’r gwaith o ddarparu hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth i 33 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws Malawi. Cymerodd William, a’i gydweithwyr Charlotte Makanga a Ceri Phillips o Bartneriaeth Fferyllfa Gwrthficrobaidd Malawi-Cymru, ran yn Rhaglen Fentora Uwch flynyddol Hub Cymru Africa, a defnyddiwyd grant bach i gyflawni’r angen hwn a ddarganfuwyd am fwy o gapasiti rheoli yn y system iechyd.

Meddai WIlliam:

“Fe wnaeth yr hyfforddiant alluogi cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i’w rolau presennol ond hefyd, sgiliau trosglwyddadwy y gallant eu defnyddio trwy gydol eu bywydau proffesiynol.”

Cymerodd fferyllwyr ran o leoliadau ar draws Malawi, wedi’u lleoli mewn fferyllfeydd cymunedol, ysbytai a chanolfannau iechyd a chyda nifer o rolau ym meysydd logisteg, cadwyni cyflenwi, dosbarthu a rheoli fferyllfeydd. Tynnodd y cyfranogwyr sylw at yr hyn yr oeddent wedi’i ennill yn sgil datblygu sgiliau arweinyddiaeth, gan gynnwys datrys gwrthdaro, hyfforddi, dirprwyo, cyfrif banc emosiynol, a rheoli amser:

“Roedd hwn yn un o’r cyrsiau pwysicaf dwi wedi’i fynychu, ac roedd yr hyfforddiant yn dipyn o agoriad llygad.”

Roedd cyfranogwyr wedi cymhwyso’r sgiliau hyn mewn gwahanol ffyrdd yn eu rolau, er enghraifft, dywedodd Fferyllydd Arweiniol bod cymhwyso’r model gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth wedi bod yn effeithiol wrth reoli stoc, a soniodd Rheolwyr Fferyllfeydd am eu gallu i adeiladu mwy o ymddiriedaeth mewn timau, datrys gwrthdaro yn fwy effeithiol, a chael gwell perthynas waith â chydweithwyr.

Cafodd Partneriaeth Fferyllfa Gwrthficrobaidd Malawi-Cymru ei chreu ar y cyd gyda’r nod o arfogi fferyllwyr arweiniol a thechnegwyr fferyllfeydd gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i hwyluso stiwardiaeth gwrthficrobaidd (AMS) yn eu cyfleusterau gofal iechyd, yn unol â strategaethau Llywodraeth Malawi. Fe wnaeth cyllid grant drwy gynllun rhaglen Partneriaethau’r Gymanwlad mewn Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd Partneriaethau Iechyd Byd-eang (THET gynt), a sefydlwyd yn 2023, alluogi nodau i gael eu cyflawni, gan gynnwys gweithio mewn saith ysbyty, gan ddefnyddio’r Arolwg Cyffredinolrwydd Pwynt Byd-eang i ddeall a monitro’r defnydd o wrthficrobau, hyfforddi 420 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ( a churo’r targed o 300) gan ddefnyddio model “Hyfforddi’r Hyfforddwr,”  cynhyrchu pecyn cymorth Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd sy’n berthnasol i’r cyd-destun ym Malawi, a ffurfio cynlluniau gweithredu Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd.

Mae llywodraethu’r bartneriaeth yn llwyddiannus iawn o ran cydnabod a hyrwyddo cydraddoldeb pŵer a gwneud penderfyniadau rhwng partneriaid, a chymryd ymagwedd wrth-hiliol. Fe wnaeth y Rhaglen Fentora Uwch ganolbwyntio ar lywodraethu, capasiti a chynaliadwyedd y bartneriaeth, gyda chynlluniau i ffurfioli’r strwythur i alluogi’r bartneriaeth i adeiladu ar lwyddiant eu gwaith presennol a pharhau i weithio tuag at y nodau pwysig hyn ym Malawi a Chymru.

Mae Hub Cymru Africa yn cynnig Cymorth Datblygu Uwch un-i- un i weithio gyda phartneriaethau Cymru Affrica ar y nodau a ganfuwyd dros gyfnod o 3-6 mis. Rydym hefyd yn cynnig cyngor un-i-un a chymorth datblygu ar unrhyw adeg i weithio trwy faterion mewn unrhyw faes o’ch sefydliad a’ch partneriaeth.

Cael cefnogaeth yn eich partneriaeth iechyd o Hub Cymru Africa

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl
Blog, Newyddion

O Khartoum i Gaerdydd: Israa Mohammed a Rhyfel Cartref Swdan

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl