EN
< Newyddion

Basâr Codi Arian i Swdan

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaHawliau Dynol
Sudanese women in Cardiff enjoying food at a fundraiser to help those caught in the conflict in Sudan. Photo by g39. Taken on the 24th of June 2023.

Er mwyn sefyll mewn undod â’r rhai yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro parhaus yn Swdan, cynhaliodd Grŵp Cefnogi Chwyldro’r Swdan Caerdydd basâr codi arian ar 24ain Mehefin 2023. Fe’i cynhaliwyd ar y cyd â Hub Cymru Africa, y Panel Cynghori Is-Sahara, y NON-PLACE Collective a’r Umbrella Art Collective Caerdydd.

Wedi’i gynnal gan G39 – oriel artistiaid a chymuned greadigol fwyaf Cymru ar gyfer y celfyddydau gweledol – daeth y digwyddiad â dros 80 o bobl ynghyd o’r alltud Swdan ac unigolion eraill â diddordeb. Hysbysodd fynychwyr y gwrthdaro wrth godi arian ar gyfer Undeb Meddygon Swdan, sy’n parhau i ddarparu rhyddhad meddygol brys yn Swdan o dan amgylchiadau hynod anodd.

“Roedd yn dda iawn! Fe gododd ymwybyddiaeth o’r sefyllfa yn Swdan, sy’n bwysig iawn.”

Gallai mynychwyr fwynhau bwyd blasus o Swdan, cael dyluniadau henna wedi’u paentio ar eu dwylo a’u breichiau, a phrynu dillad a chrefftau traddodiadol. Ar lwyfan agored, bu siaradwyr gwadd yn rhannu eu straeon, eu meddyliau a’u tystiolaethau – eu rhai nhw, a rhai ffrindiau a theuluoedd sy’n wynebu dyfodol ansicr yn Swdan. Cafwyd perfformiadau dawns hudolus hefyd gan aelodau ifanc o gymuned alltud Swdan. Mewn ystafell sgrinio, gallai mynychwyr wylio ffilm a grëwyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad, a oedd yn dangos casgliad o riliau newyddion byd-eang yn egluro’r sefyllfa ar lawr gwlad a’r digwyddiadau a arweiniodd at hynny. Diddanwyd y plant gyda chastell neidio ac amrywiaeth o weithgareddau lluniadu a lliwio.

Er gwaethaf yr amgylchiadau cythryblus y tu ôl i’r digwyddiad, roedd yn bleser gweld alltudwyr Swdan yn dod at ei gilydd i rannu eu diwylliant gyda’r gymuned ehangach a rhannu gwybodaeth am gyflwr Swdan heddiw. Fe feithrinodd ysbryd cryf o gynghrair tra’n codi arian hanfodol i gefnogi’r rhai sydd angen cymorth meddygol.

“Prynais beth persawr a thriniaeth gwallt mwynol (mwd!) o’r stondinau, a mwynheais ychydig o fwyd. Roedd y siaradwyr yn ddiddorol ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r dawnswyr. Diolch i’ch tîm am drefnu hyn, byddaf yn sicr yn dod eto os ydych yn cynnal digwyddiad arall.”

Os oeddech yn bresennol yn y basâr codi arian hwn, hoffai Hub Cymru Africa a Phanel Cynghori’r Is-Sahara ddiolch i chi am sefyll mewn undod â Swdan, ei phobl a chymuned alltud Swdan yng Nghymru.

I weld lluniau o’r digwyddiad hwn, ewch i’n albwm Flickr.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl