EN
< Newyddion

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Crown Copyright

Cafodd Polisi Cenedl Noddfa Cymru ei gyhoeddi am y tro cyntaf gan Lywodraeth Cymru yn 2019. Er nad oes gan Gymru ei rheolaeth ei hun dros bolisi lloches (San Steffan sydd yn gyfrifol am hynny), mae gennym reolaeth dros lawer o’r pethau sy’n helpu pobl sy’n ffoi rhag erledigaeth a pherygl i integreiddio: addysg, iechyd, tai, cymunedau, diwylliant. Felly yn rhaglen mis Ionawr o’r Podlediad Cymru, Affrica a’r Byd, siaradais gyda Beth Kidd, pennaeth llywodraethu ac effaith yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru a Dr Numair Masud, cyd-gadeirydd a thrysorydd Glitter Cymru ynghylch y polisi hwn.

Rydym yn dechrau drwy ofyn beth yn union ydy’r Polisi Cenedl Noddfa.  Meddai Beth:

 “Wrth ei galon, mae ynghylch galluogi pobl i integreiddio’n gyflym. Felly, un o’r prif egwyddorion ydy ‘integreiddio o’r diwrnod cyntaf’, ac mae’n eu galluogi i gyrraedd eu potensial ac ailadeiladu eu bywydau.”

Mae hi’n egluro beth mae polisi lloches y DU yn ei olygu i Gymru; rydym yn croesawu tua 3,000 o geiswyr lloches bob blwyddyn (tua 3% o Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd). Gyda hyn mewn golwg, nod y Polisi Cenedl Noddfa ydy sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan yn yr economi, a hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol a sefydlogrwydd cymunedol. Felly gofynnais i Beth beth ydy rôl Cyngor Ffoaduriaid Cymru:

 “Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yno i gefnogi pobl i helpu i lywio systemau, fel cael mynediad at addysg neu ofal iechyd neu bethau felly, a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu ailadeiladu eu bywydau a bod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain.”

Mae ynghylch cefnogi’r bobl hyn i gael mynediad at wersi iaith (yn Gymraeg a Saesneg), rhaglen wirfoddoli sy’n eu galluogi i ddefnyddio’r sgiliau sydd ganddynt ac i ymarfer yr iaith, fel eu bod nhw’n cael caniatâd i aros, ac yn gallu dechrau ar y trywydd iawn.

Maen nhw yno hefyd yno i gefnogi ar ôl i geisiadau ceiswyr noddfa gael eu clywed; a’u helpu i ddod o hyd i swyddi a thai. Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn aml yn cadw’r perthnasoedd hyn am gyfnod hir.

Maen nhw yno i helpu’r bobl hyn yn ystod amseroedd mwyaf bregus yn eu bywydau ac felly, mae gallu ymddiried yn rhywun yn bwysig dros ben er mwyn iddynt allu integreiddio’n llwyddiannus yng Nghymru. Yn wir, mae tua 60% o’u staff yn gyn ceiswyr noddfa eu hunain, ac mae dros 30 o ieithoedd yn cael eu siarad yn y sefydliad. Mae Beth yn esbonio:

“…rydym yn aml y lle dibynadwy ble mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu deall eu derbyn a’n cael croeso, yn eithaf aml, rydym yn cael pobl yn dod nôl gyda chwestiynau sydd ddim yn gyfrifoldeb arnom ni i’w hateb. Ond mae’n braf gwybod eu bod nhw’n teimlo bod ganddyn nhw’r cymorth hwnnw os ydyn nhw ei angen”…

Mae rhywfaint o ymosodiadau mawr gan yr adain dde wedi bod ar y Polisi Cenedl Noddfa ac ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru yn ddiweddar; rhan o dueddiad byd-eang o wrth-ddynoliaeth. Mae gwrthwynebwyr yn honni ei fod yn wastraff arian, bod elusennau yn dechrau gartref, yr holl rethreg arwynebol a moesegol wag arferol sydd yn honni bod ots ganddynt am bobl (wyn) yn y wlad hon er mwyn ymosod ar dramorwyr, a phobl ddu a brown. Mae Beth yn egluro, er gwaethaf y gwaith da a phwerus maen nhw a’r polisi’n ei gyflawni, ei fod yn gyfran fechan o gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru:

 “Cafodd 90% o’r gyllideb honno ei gwario ar raglen yr Wcráin, pan ddechreuodd y rhyfel yn Wcráin. Felly, mae’n 0.05% o gyllideb gyffredinol [Llywodraeth Cymru].”

Er gwaethaf y propaganda o ragfarn gan yr adain dde, mae gan Beth hyder yn rhinweddau dynol naturiol. Pan rwy’n gofyn iddi “pam” pan ddaw i roi lloches, mae hi’n egluro:

“…mae ynghylch yr hanes o groesawu pobl… rydym yn siarad am y Croeso Cymreig mawr. Mae jyst o fewn DNA pobl, dwi’n meddwl, i weld pobl fel bodau dynol eraill ac nid dim ond fel rhifau neu ystadegau… ac mae Cymru wedi bod trwy gyfnodau caled, reit? A dwi’n meddwl yn aml, po fwyaf profiadol ydy rhywun, yr hawsaf yw hi i ddod ymlaen gyda rhywun arall.”

Mae’r linell olaf honno gan Beth yn gwneud i chi feddwl go iawn, ac yn siarad gyda’r mudiad undod byd-eang ehangach. Ym mhennod mis Rhagfyr, croesawyd Amber Demetrius o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru i siarad am Ddinasyddiaeth Fyd-eang. Mae gwaith Amber yn ymwneud â helpu pobl ifanc i brofi amrywiaeth a chyfoeth rhyfeddol y byd. I roi’r profiadau sydd eu hangen arnyn nhw i ddeall ac i gyfeirio at y ffaith ein bod ni gyd yn rhan o gymuned fyd-eang, a’r cyfrifoldeb sydd gennym tuag at ein gilydd.

Mae profiad bywyd Numair ei hun yn ychwanegiad amhrisiadwy at y bennod hon, fel cyn geisiwr lloches a ffoadur erbyn hyn.  Mae’n cytuno gyda Beth, ac yn esbonio nad oedd yn gallu byw’n agored fel dyn hoyw yn ei gartref ym Mhacistan, ac yn bwysicaf oll, nad oedd yn gallu byw’n agored gyda’i bartner bywyd (ei ddyweddi bryd hynny a’i ŵr erbyn hyn, sydd o Nigeria).

Mae’r ddwy wlad yn gyn drefedigaethau Prydeinig, ond yn dal i frifo o ganlyniad i’r etifeddiaeth honno. Yn y cyd-destun penodol hwn, mae’r deddfau gwrth-gyfunrhywiol a wnaeth fygwth bodolaeth Numair yn fewnforion trefedigaethol eu hunain, wedi’u gosod gan y Prydeinwyr. Mae’n esbonio’r cymhlethdod o fod yn ddyn LHDTC+, a’r anawsterau croestoriadol unigryw hynny sydd yn dod law yn llaw gyda bod yn ffoadur hefyd.

“…mae bod yn ffoadur hoyw, neu’n geisiwr lloches hoyw, fel yr oeddwn yn 2015, yn rhywbeth sydd ddim yn cael ei siarad amdano’n aml…. mae mwy na 60 o wledydd yn y byd heddiw gyda pholisïau gwrth-LHDTC+.”

“Felly, hoffwn gredu bod fy stori i yn un sydd yn ddynol iawn. Ac ar yr un pryd, rwy’n credu ei bod yn ein hatgoffa o’r cymhlethdod rhyngweithiol rhwng nodweddion wedi’u diogelu, y gallech chi fod yn geisiwr noddfa a hefyd, yn berson LHDTC+, felly weithiau, gallwch brofi’r gwahaniaethu’n fwy o ganlyniad i’r croestoriad hwnnw.”

Gofynnais i Numair sôn ychydig mwy am ei brofiad personol ei hun gyda’r Genedl Noddfa, sut y dechreuodd ryngweithio â hi, beth arweiniodd at ei gais am noddfa:

“Fe wnes i ddod i’r DU fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Bryste… a doeddwn i ddim rili’n teimlo fel fy mod i wedi cael cymaint o groeso â hynny yn Lloegr, i fod yn hollol onest. Fe wnes i gael trafferth mawr yn gwneud ffrindiau. Rwy’n cofio bod yr unig berson nad oedd yn wyn yn fy nosbarth pan oeddwn yn astudio sŵoleg. Rwy’n cofio, chi’n gwybod, pobl yn tynnu lluniau o bethau rhyfedd amdanai yn fy dorm, chi’n gwybod, ar y wal. Rwy’n cofio nad oeddwn yn teimlo fel bod llawer o groeso i mi. Felly, es i nôl i Bacistan.”

Roedd Numair ym Mhacistan pan sylweddolodd ddau beth: un, ei fod yn caru gwyddoniaeth ac eisiau bod yn wyddonydd a dau, nad oedd unrhyw obaith o gwbl y byddai’n gallu byw’n agored. Dychwelodd i’r DU a daeth i Gymru y tro yma, i astudio gradd meistr ac yna, PhD ym Mhrifysgol Caerdydd.

“…i ddweud y gwir, dim ond wrth astudio fy ngradd meistr y  dechreuais archwilio sut beth oedd hi i fod yn ddyn hoyw gyda swm cymharol fawr o  ryddid… Rydym yn cymryd rhyddid yn ganiataol.  A’r rhyddid hwnnw, mae cymaint o bobl heb y rhyddid [hwnnw]. Teimlais y Croeso Cymreig hwnnw.

Ar y pwynt hwn, fe wnaeth Numair wneud cais am loches ac yn y pen draw, dyfarnwyd statws noddfa iddo. Mae bellach yn byw yn rhydd ac yn agored gyda’i ŵr ac o ganlyniad i’w brofiad, mae nawr yn gyd-Gadeirydd ac yn drysorydd Glitter Cymru. Mae Numair yn edrych nôl ar sut y cafodd ei sefydlu:

“Fe wnes i gyfarfod Vishal Gaikwad… ac roeddem yn sôn am ba mor anodd yw hi i bobl LHDTC+ sydd wedi cael eu lleiafrifo i ddod o hyd i gymuned. Ac o fy Nuw, faint o hilioldeb agored rydych chi’n ei brofi ar-lein… Felly awgrymodd Vishal eu bod nhw eisiau dechrau grŵp ar gyfer pobl LHDTC+ sydd wedi cael eu lleiafrifo gan gymdeithas.

” Daeth yn ffurfiol, mewn ffordd, i fodolaeth yn 2016 gyda rili, tri neu bedwar o bobl ac ers hynny, mae wedi tyfu i fod, buaswn i’n dadlau, yn gymuned LHDTC+ fwyaf y mwyafrif byd-eang yng Nghymru. Ac mae’n cynrychioli’r math o ysbryd cymunedol Cymreig o undod. Mae’n bodoli i ddarparu cymorth cymdeithasol a chymunedol i bobl leiafrifol.”

Mae Glitter Cymru yn gwneud gwaith anhygoel ar y croestoriad hwnnw o geisio noddfa a LHDTC+. Trwy weithgarwch ar lefel gymunedol, maen nhw’n darparu cymorth integreiddio cymdeithasol, cymorth ymarferol fel er enghraifft, gyda thalebau bwyd, cymorth urddas tai. Mae Numair yn crynhoi safbwynt llawer o geiswyr noddfa:

“Y peth rydym i gyd eisiau ei wneud fel bodau dynol, fel ceiswyr noddfa, ydy integreiddio, perthyn.”

Cafodd gwaith Glitter Cymru ei gydnabod y llynedd yng Ngwobrau Cenedl Noddfa Cyngor Ffoaduriaid Cymru – drwy ennill Gwobr yr Hyrwyddwr Cydraddoldeb oherwydd ei fod yn cael ei arwain yn llwyr gan wirfoddolwyr ac yn gweithredu yn y gofod croestoriadol hwnnw; dod yn eiriolwyr ac yn gefnogwyr amhrisiadwy i grŵp o bobl sy’n agored iawn i niwed. Wrth edrych nôl, mae Numair yn dweud wrthyf:

 “Roedd hi wir yn noson anhygoel oherwydd i mi, ar lefel bersonol, roeddwn yno gyda fy ngŵr… Mae ynghylch sylweddoli pa mor bwysig ydy hi i werthfawrogi gwaith, dywedwch, gwirfoddolwyr ar draws Cymru. Oherwydd… Rwy’n gwneud hyn am ei fod y peth iawn i’w wneud. Rydym yn helpu pobl, ac mae’n rhywbeth rwy’n cael gymaint o foddhad ohono – ar lefel foesol, foesegol a phersonol. Ac rwy’n annog mwy o bobl i weithredu yn y gofod hwnnw.”

Mae’r pwnc noddfa yn alinio’n agos â’r cysyniad o undod byd-eang a’r gwaith y mae Hub Cymru Africa yn ei wneud. Mae undod byd-eang yn ymwneud â chydnabod a gweithredu yn y gymuned ryngwladol. I sylweddoli bod materion neu broblemau sy’n bell i ffwrdd yn effeithio arnom ni. Ac fel rhan o gymuned fyd-eang, bod gennym gyfrifoldeb tuag at ein gilydd.

Mae’r sgwrs yn symud ymlaen i drafod yr heriau sy’n wynebu noddfa yng Nghymru. Mae etholiad yn cael ei gynnal yn y wlad ym mis Mai wrth i ni ethol Senedd newydd (Welsh Parliament). Rwy’n gofyn i fy ngwesteion beth sydd yn y fantol o ran ymrwymiad Cymru i undod a noddfa. Mae Beth yn dadlau:

 “Os byddwn yn colli’r weledigaeth o genedl noddfa, bydd yn gam enfawr yn ôl ar lefel moesegol, cymdeithasol ac economaidd hefyd. Ac rwy’n credu bod pobl angen deall hynny a meddwl yn galed os ydy hynny’n rhywbeth maen nhw rili eisiau.”

Ychwanegodd Numair:

 “Rwy’n meddwl i mi, i Glitter Cymru, a’r holl geiswyr noddfa, yr hyn sydd mewn perygl yw bywydau pobl, dim mwy na dim llai na bywydau pobl, oherwydd dyna beth rydym yn siarad amdano heddiw. Rydym yn siarad am fodau dynol.”

Mae Numair yn gwneud pwynt craff hefyd, ac yn pontio’r rhaniad ffug hynny rhwng pobl sydd yma’n barod a’r rhai sy’n ceisio noddfa. Mae’n esbonio:

 “Mae’r gwahaniaeth rhwng ceisiwr noddfa a dinesydd Prydeinig yn aml yn ddarn o bapur, yn ddogfen… Yr unig beth mae’n ei gymryd yw i bobl sydd mewn pŵer sylweddoli’n sydyn nad yw eu diddordebau’n alinio â’ch diddordebau chi. Ac yn sydyn, dydy’r darn hwnnw o bapur ddim mor bwysig.”

Doeddwn i ddim eisiau i’r sgwrs ddod i ben o dan gwmwl tywyll o fygythiad, felly gofynnais i Beth a Numair beth sy’n rhoi gobaith iddyn nhw.

Dywedodd Beth mai iddi hi, pobl ifanc, sy’n sylweddoli bod ganddynt bŵer ac sy’n cymryd camau i wneud eu cymuned, gwlad a’r byd yn well. Mae gwydnwch pobl yn rhoi gobaith iddi hefyd, a’r buddugoliaethau bychain sy’n cael effaith enfawr. Mae hi’n cofio siarad gydag un ceisiwr noddfa yn ddiweddar:

“Roeddwn i’n siarad gyda rhywun y diwrnod o’r blaen, a ddywedodd nad ydynt wedi prynu wardrob ers iddynt gael statws [ffoadur] am ychydig flynyddoedd… Ac er bod ganddynt gartref sefydlog erbyn hyn, dydyn nhw dal ddim yn gallu stopio rhoi’r gorau i fyw allan o siwtces oherwydd yr amgylchedd gelyniaethus a’r teimlad y bydd yn cael ei gymryd oddi wrthych mewn amrantiad.

“Ond maen nhw wedi cael swydd arall yn ddiweddar, ac maen nhw’n ystyried efallai prynu wardrob ac mae hynny… Mae’n rhoi gobaith i mi y bydd pawb yn gallu teimlo felly yn y pen draw, eu bod nhw yma ac yn ddiogel ac y gallant ymlacio.”

Mae Numair yn ateb trwy ofyn beth yw’r dewis arall:

“Beth ydy’r dewis arall i obaith? Digalondid. Does gennym ddim dewis i ildio i hynny… Ac rwy’n credu bod Glitter Cymru yn enghraifft o grŵp cymorth cymunedol sy’n ceisio gwneud hynny.

Mae Polisi Cenedl Noddfa Cymru yn deillio o’r gwerthoedd pwysig a hanfodol: cydymdeimlad, caredigrwydd, y dyhead am ddiogelwch, ffyniant a byd gwell i bawb. Ond y realiti yw nad ydy’r byd yn garedig, yn ddiogel nac yn ffyniannus yn gyffredinol. Pan mae eich teulu mewn angen, rydych yn eu helpu. Pan fydd llifogydd yn taro eich pentref cyfagos, rydych yn rhoi bwyd a chyflenwadau i’r dioddefwyr. Pan fydd pobl yn cael eu herlid a’u bywydau mewn perygl dim ond am fodoli, rydym yn rhoi lloches iddynt.

Gallwch wrando ar y bennod lawn ac ar fewnwelediadau Beth a Numair yn eu geiriau eu hunain ar y Podcast Cymru, Affrica a’r Byd ar eich hoff wasanaeth ffrydio neu ar wefan Hub Cymru Africa.

Nodiadau

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi bod yn cefnogi ceiswyr noddfa yng Nghymru ers 35 mlynedd, i adeiladu dyfodol newydd yng Nghymru.

Mae Gwobrau Cenedl Noddfa Cyngor Ffoaduriaid Cymru ar hyn o bryd, yn derbyn enwebiadau, sydd ar agor tan y 14eg o Chwefror, ac yn cynnwys deg categori, gan gynnwys gwirfoddolwr y flwyddyn, person ifanc y flwyddyn, a mwy!

Mae Glitter Cymru yn grŵp cymunedol LHDTC+ sy’n cefnogi unigolion mwyafrif byd-eang LHDTC+, gan gynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Cysylltwch â Glitter Cymru i gymryd rhan yn eu gwaith drwy e-bostio glittercymru@gmail.com.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl
Blog, Newyddion

O Khartoum i Gaerdydd: Israa Mohammed a Rhyfel Cartref Swdan

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl