EN
< Newyddion

‘Cymorth y DU yn cael ei dorri mewn ergyd ddinistriol i bobl fwyaf tlawd y byd’ – Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru

Polisi ac Ymgyrchoedd
Niokolo Network
Niokolo Network
Ymateb i ddatganiad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu, yn torri cyllideb Cymorth Datblygu Tramor. Mae Cymorth Datblygu Tramor yn achub bywydau. Mae'n ymrwymiad ac yn gyfrifoldeb na ddylem fyth gerdded i ffwrdd ohono. Dyna pam mae'r cyhoeddiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu, yn ergyd drom i bobl fwyaf tlawd y byd. Ar ôl canrifoedd o elwa oddi wrth echdynnu cyfoeth drwy wladychu, o ddatblygu carbon-ddwys, gan ddinistrio natur, mae'n ddyletswydd ar wledydd incwm uchel fel ein un ni i ysgwyddo'n cyfrifoldeb, fel y gall pob un ohonom sicrhau dyfodol cynaliadwy a chyfiawn. Mae gan Gymru draddodiad o ddarparu undod byd-eang y dylai ymfalchïo ynddo. Mae Interburns, sy’n elusen flaenllaw yng Nghymru, yn ddim ond un enghraifft o'r gwaith sy'n achub bywydau y mae cyllideb cymorth y DU yn ei gefnogi lle mae, drwy ei waith gyda phartneriaid, wedi dangos gwelliannau pendant a mesuradwy ar draws yr holl wasanaethau llosgiadau sydd yn cael eu cefnogi mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Mae Cymru a'r DU yn falch o'r gwaith achub bywydau y mae’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Yn 2015, pasiodd y Llywodraeth Glymblaid bryd hynny ddeddf i ddyrannu 0.7% o GNI i gymorth datblygu tramor. "Byddwn yn cynnal ein hymrwymiad i wario 0.7 y cant o GNI ar ddatblygu gyda balchder, ac yn gwneud mwy i helpu gwledydd sy'n cael cymorth i ddod yn hunangynhaliol" - dyna a addawodd llywodraeth y DU i'r bobl dim ond 16 mis yn ôl. Heddiw, mae'r addewid balch hwnnw wedi cael ei dorri. Eleni, yng nghanol pandemig byd-eang ac argyfwng hinsawdd, bydd Llywodraeth y DU yn cynnal uwchgynadleddau G7 a COP26. Mae’n rhaid iddynt fanteisio ar y cyfle hwn i ddangos arweiniad byd-eang drwy gamu ymlaen ac ymrwymo i fesurau brys a chymorth datblygu tramor, a sicrhau bod cenedlaethau tlotaf y byd a chenedlaethau'r dyfodol yn gallu sicrhau cydraddoldeb. Meddai Claire O’Shea, Cyd-gadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru: "Mae Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru wedi gofyn am sicrwydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mai gostyngiad dros dro yw hwn. Bydd yr effaith tymor byr ar fywydau yn ddinistriol, ond mae angen i'r sector a'r bobl sy'n dibynnu ar y cymorth hwn gael map clir yn ôl i'n hymrwymiad o ddyrannu 0.7% o GNI iddynt. "Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i egluro'r 'trothwy' lle bydd y DU yn dychwelyd at ei haddewid maniffesto i ddyrannu 0.7% o GNI i Gymorth Datblygu Tramor." Nodiadau i’r golygydd
  • Os hoffech wneud ceisiadau am gyfweliadau yn Gymraeg neu’n Saesneg, cysylltwch â:
Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu petergilbey@hubcymruafrica.org.uk | 07812 991 566
  • Aelodau o Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru:
  Cafod Cymorth Cristnogol DEC Cymru Anabledd yng Nghymru ac Affrica Oxfam Cymru Y Groes Goch Achub y Plant Maint Cymru Tearfund UP Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru Hub Cymru Affrica Mae Cymorth Datblygu Tramor yn achub bywydau. Mae'n ymrwymiad ac yn gyfrifoldeb na ddylem fyth gerdded i ffwrdd ohono. Dyna pam mae'r cyhoeddiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu, yn ergyd drom i bobl fwyaf tlawd y byd. Ar ôl canrifoedd o elwa oddi wrth echdynnu cyfoeth drwy wladychu, o ddatblygu carbon-ddwys, gan ddinistrio natur, mae'n ddyletswydd ar wledydd incwm uchel fel ein un ni i ysgwyddo'n cyfrifoldeb, fel y gall pob un ohonom sicrhau dyfodol cynaliadwy a chyfiawn. Mae gan Gymru draddodiad o ddarparu undod byd-eang y dylai ymfalchïo ynddo. Mae Interburns, sy’n elusen flaenllaw yng Nghymru, yn ddim ond un enghraifft o'r gwaith sy'n achub bywydau y mae cyllideb cymorth y DU yn ei gefnogi lle mae, drwy ei waith gyda phartneriaid, wedi dangos gwelliannau pendant a mesuradwy ar draws yr holl wasanaethau llosgiadau sydd yn cael eu cefnogi mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Mae Cymru a'r DU yn falch o'r gwaith achub bywydau y mae’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Yn 2015, pasiodd y Llywodraeth Glymblaid bryd hynny ddeddf i ddyrannu 0.7% o GNI i gymorth datblygu tramor. "Byddwn yn cynnal ein hymrwymiad i wario 0.7 y cant o GNI ar ddatblygu gyda balchder, ac yn gwneud mwy i helpu gwledydd sy'n cael cymorth i ddod yn hunangynhaliol" - dyna a addawodd llywodraeth y DU i'r bobl dim ond 16 mis yn ôl. Heddiw, mae'r addewid balch hwnnw wedi cael ei dorri. Eleni, yng nghanol pandemig byd-eang ac argyfwng hinsawdd, bydd Llywodraeth y DU yn cynnal uwchgynadleddau G7 a COP26. Mae’n rhaid iddynt fanteisio ar y cyfle hwn i ddangos arweiniad byd-eang drwy gamu ymlaen ac ymrwymo i fesurau brys a chymorth datblygu tramor, a sicrhau bod cenedlaethau tlotaf y byd a chenedlaethau'r dyfodol yn gallu sicrhau cydraddoldeb. Meddai Claire O’Shea, Cyd-gadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru: "Mae Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru wedi gofyn am sicrwydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mai gostyngiad dros dro yw hwn. Bydd yr effaith tymor byr ar fywydau yn ddinistriol, ond mae angen i'r sector a'r bobl sy'n dibynnu ar y cymorth hwn gael map clir yn ôl i'n hymrwymiad o ddyrannu 0.7% o GNI iddynt. "Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i egluro'r 'trothwy' lle bydd y DU yn dychwelyd at ei haddewid maniffesto i ddyrannu 0.7% o GNI i Gymorth Datblygu Tramor." Nodiadau i’r golygydd
  • Os hoffech wneud ceisiadau am gyfweliadau yn Gymraeg neu’n Saesneg, cysylltwch â:
Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu petergilbey@hubcymruafrica.org.uk
  • Aelodau o Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru:
Cafod Cymorth Cristnogol DEC Cymru Anabledd yng Nghymru ac Affrica Oxfam Cymru Y Groes Goch Achub y Plant Maint Cymru Tearfund UP Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru Hub Cymru Affrica  

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Datganiadau i'r Wasg

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Carwyn Howell Jones, who served as First Minister of Wales and Leader of Welsh Labour from 2009 to 2018 appears on the podcast Wales Africa and the World.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cyn Brif Weinidog yn cefnogi Rhaglen Cymru ac Affrica mewn cyfweliad eang ei gwmpas

Polisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl