Fe wnaeth elusennau, grwpiau ac unigolion sy’n cynrychioli’r sector undod byd-eang yng Nghymru ddod at ei gilydd yn y Senedd i nodi diwedd rhaglen waith tair blynedd Hub Cymru Africa, sy’n cefnogi cymuned Cymru ac Affrica.
Mewn digwyddiad prysur a lliwgar yn y Senedd, fe ddaeth grwpiau ac unigolion sy’n gweithio mewn meysydd gwahanol, o ddatblygu cynaliadwy a newid hinsawdd, i rymuso menywod ac addysg fyd-eang at ei gilydd i nodi diwedd rhaglen waith tair blynedd gan Hub Cymru Africa.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Hub Cymru Africa wedi cefnogi 402 o wahanol sefydliadau, ac wedi gweithio mewn mwy na 40 o wledydd yn Affrica, drwy gymorth datblygu a digwyddiadau am ddim.
Mae Rhaglen Wirfoddoli Hub Cymru Africa wedi gweld cryn lwyddiant dros y blynyddoedd hefyd, gyda dros 40 o wirfoddolwyr o Gymru a’r diaspora Affricanaidd yn ennill profiad mewn datblygu rhyngwladol.
Fe wnaeth digwyddiad Dathlu Cymru ac Affrica arddangos elusennau o bob cwr o’r wlad, a chlywed gan arweinwyr gwleidyddol a mwynhau perfformiadau gan Gôr Merched eiconig Simbabweaidd o Gasnewydd, ZimVoices, a N’famady Kouyaté, prif gerddor o Guinea (Conakry), sydd bellach wedi’i leoli yng Nghaerdydd, gydag ensemble gan Successors of the Mandingue.
Roedd rhai o’r grwpiau oedd yn bresennol yn cynnwys Maint Cymru; roedd eu gwaith yn grymuso menywod yn Wganda yn ceisio mynd i’r afael â newid hinsawdd, trwy ddarparu hyfforddiant mewn cynllunio defnydd tir, amaethgoedwigaeth a diogelu pridd a dŵr.
Fe wnaeth y digwyddiad groesawu Cymru Masnach Deg hefyd, sy’n dathlu 15 mlynedd ers i Gymru ddod yn Genedl Masnach Deg, drwy gyfrwng grantiau cymunedol sy’n cefnogi grwpiau masnach deg lleol i hyrwyddo cynnyrch cynaliadwy sy’n blaenoriaethu masnach deg, a chyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol.
Meddai Pennaeth Hub Cymru Africa, Claire O’Shea:
“Rwy’n falch iawn o allu nodi diwedd ein rhaglen tair blynedd o waith undod byd-eang, yma yn y Senedd. Rydym wedi gweld grwpiau o bob rhan o Gymru yn dod i Gaerdydd ac yn arddangos y goreuon yn y sector.
“Wrth i ni ddechrau gweithio ar raglen tair blynedd newydd, rwy’n gyffrous ynghylch y ffaith y bydd Hub Cymru Africa yn cael ei letya gan SSAP – prif sefydliad diaspora Affricanaidd Cymru.
Meddai Prif Weithredwr Panel Cynghori Is-Sahara, Fadhili Maghiya:
“Mae Rhaglen Cymru ac Affrica wedi tyfu o nerth i nerth dros y blynyddoedd. Mae’r rhaglen wedi’i hadeiladu ar gydfuddiannu, cysylltiadau gydol oes, a dysgu oddi wrth ein gilydd, ac mae hi wedi tyfu i fod yn sector bywiog, sy’n gweithio mewn undod byd-eang. Drwy’r agenda cynhwysiant a phrosiectau pwysig fel y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, mae’r sector yn gwthio ffiniau bob amser, ac yn cynnwys cymunedau ar draws Cymru.
“Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r gwaith hwn, ac adeiladu ar ein llwyddiannau fel sefydliad lletya newydd Partneriaeth Hub Cymru Africa.”