EN
< Newyddion

Cynllun Grant Cymru ac Affrica: Rownd Tri Ar Agor

Mae cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn gronfa grantiau ar gyfer grwpiau cymunedol a mudiadau ledled Cymru sy’n gweithio mewn partneriaethau yn Affrica Is-Sahara. Mae'n fenter flaenllaw gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru ac mae'n galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica. Ewch I wefan CGGC am gyfarwyddyd, diweddariadau, adroddiadau ac I wneud cais Mae cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn fenter flaenllaw gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica. Gall Hub Cymru Africa eich cynorthwyo gyda’r gwaith o gefnogi a datblygu prosiectau a sicrhau bod gennych yr holl ddogfennau ategol cywir yn eu lle ar gyfer eich sefydliad. Rydym hefyd yn gallu eich helpu i chwilio am arian o ffrydiau ariannu eraill ar gyfer prosiectau sy’n cysylltu Cymru ac Affrica. Gallwch gysylltu â thîm Datblygu a Chefnogi Hub Cymru Africa yn: advice@hubcymruafrica.co.uk

Grantiau sydd ar gael

Gall ymgeiswyr wneud cais am gyllid rhwng £1,000-£25,000 a rhaid iddynt wneud cyfraniad diriaethol at o leiaf 1 o’r 4 thema a ddisgrifir isod: 1. Iechyd Rydym yn ceisio cyfrannu at y gwaith o ddiogelu iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol cymunedau yn Affrica drwy ein grantiau. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys:
  • Cefnogi’r gwaith o rannu gwybodaeth a sgiliau rhwng sefydliadau iechyd yng Nghymru ac Affrica fel bod y ddwy ochr yn dysgu ac yn cael budd;
  • Cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn Affrica i gael ychydig o hyfforddiant a chymorth gan Gymru; a
  • Chynorthwyo cymunedau yng Nghymru ac Affrica i gael gafael ar ofal iechyd mwy cyfartal o ansawdd
2. Dysgu Gydol Oes O dan Dysgu Gydol Oes, byddwn ni’n cynorthwyo unigolion neu grwpiau o bobl ifanc neu oedolion yng Nghymru a/neu Affrica i ennill sgiliau a gwybodaeth. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys:
  • Cysylltu cymunedau yng Nghymru gyda phartneriaid yn Affrica er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o ddatblygiadau byd-eang a materion rhyngwladol;
  • Cefnogi anghenion addysgol plant dan anfantais yn Affrica a rhannu’r profiad hwnnw gyda disgyblion ysgol yng Nghymru, gan gyfrannu at eu haddysg ddinasyddiaeth fyd-eang; a
  • Chynorthwyo pobl yn Affrica i ddysgu sgiliau ymarferol / galwedigaethol / artistig er mwyn gwella eu bywoliaeth.
3. Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd O dan ein ffrwd grant newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, byddwn yn cefnogi mentrau sy’n lleihau dirywiad amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth yn Affrica yn ogystal â gwaith strategol ac ymarferol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac i amddiffyn pobl rhag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar gyflenwadau bwyd, y dŵr sydd ar gael neu ddiogelwch. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys:
  • Gweithgareddau sy’n cynorthwyo ffermwyr yn Affrica i addasu i hinsawdd sy’n newid;
  • Prosiectau sy’n galluogi’r defnydd o ynni adnewyddadwy yn Affrica;
  • Prosiectau sy’n ymhél pobl yng Nghymru â materion newid hinsawdd fel y maen nhw’n effeithio ar Affrica; neu
  • Waith sy’n ceisio cynorthwyo partneriaid yn Affrica i roi arferion datblygu cynaliadwy ar waith
4. Bywoliaeth gynaliadwy Rydyn ni’n ceisio hybu cyfleoedd bywoliaeth realistig a chynaliadwy yng Nghymru ac Affrica, gan sicrhau bod unigolion wedi’u hymyleiddio yn cael eu cynnwys mewn datblygiadau economaidd a chymdeithasol llawr gwlad. Mae’r mentrau rydyn ni’n eu cefnogi yn cynnwys:
  • Mentrau cydweithredol sy’n cynhyrchu incwm ac sy’n cael eu harwain gan y gymuned sy’n cyflwyno budd i Gymru ac Affrica;
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd drwy ymgyrchoedd Masnach Deg, eiriolaeth neu bolisi;
  • Gweithgareddau sy’n dod â’r defnyddiwr yn agosach at y cynhyrchydd mewn modd cynaliadwy;
  • Cymorth i brosiectau a gweithgareddau amaethyddol bach; a
  • Chymorth i weithgareddau cynhyrchu incwm llawr gwlad.
Y dyddiad can ar gyfer cyflwuno yw dydd Gwener 24ain Mawrth. Ni fydd modd cyflwyno ceisiadau ar ôl y dyddiad cau hwn.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Datganiadau i'r Wasg

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Carwyn Howell Jones, who served as First Minister of Wales and Leader of Welsh Labour from 2009 to 2018 appears on the podcast Wales Africa and the World.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cyn Brif Weinidog yn cefnogi Rhaglen Cymru ac Affrica mewn cyfweliad eang ei gwmpas

Polisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl