EN
< Newyddion

Prosiect Grymuso Menywod: Datblygu gydag Urddas

Cydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod
Teams4U

Galluogi pobl ifanc i dyfu heb gywilydd nac ofn

Mae’r blogbost hwn yn rhan o gyfres ar brosiectau a ariennir gan Grant Grymuso Merched. Yma, mae Teams4U, a dderbyniodd grant o £25,000, yn adlewyrchu ar lwyddiant ei brosiect.

Mae Teams4U a Teams4U Wganda wedi bod yn gweithredu mewn partneriaeth ers 16 mlynedd, gan gyflawni prosiectau yn WASH (dŵr, glanweithdra a hylendid), iechyd mislif, hawliau iechyd atgenhedlu rhywiol, actifiaeth AIDS, ac addysg. Mae Teams4U Wganda yn gweithredu yn ardal Kumi, lle mae 20% o ferched mewn perygl o gael trafferth i aros mewn addysg; yn 2020, roedd beichiogrwydd yn yr arddegau yn cyfrif am 22.3% o’r rhai a oedd yn gadael yr ysgol ymhlith merched 14-18 oed. Yn ogystal, roedd absenoldebau o’r ysgol yn gyffredin, gyda merched yn colli 3-5 diwrnod y mis ar gyfartaledd oherwydd tlodi mislif a diffyg mannau diogel ar gyfer defnydd preifat o gynhyrchion misglwyf.

Prif nod y prosiect hwn oedd i’r merched mewn perygl aros yn yr ysgol i barhau â’u haddysg. Ariannodd y Grant Grymuso Menywod y prosiect am flwyddyn rhwng Mawrth 2022 a Mawrth 2023.

Hyfforddodd Teams4U Wganda 21 o athrawon benywaidd a 21 o athrawon gwrywaidd ar draws 21 o ysgolion yn ardaloedd Bukedea, Kumi a Katakwi i roi cymorth rhwng cymheiriaid a chynlluniau gwersi dan arweiniad ar waith. Byddai’r rhain yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael â: tabŵau ynghylch mislif, hawliau iechyd rhywiol ac atgenhedlu; meithrin hunan-barch; trais ar sail rhywedd; cynllunio bywyd; a hylendid ac iechyd mislif. Cyflwynwyd hyn i 1,680 o bobl ifanc 11–18 oed (70% yn merched a 30% yn bechgyn) mewn 21 o glybiau allgyrsiol yn yr ysgol.

Cyfarfu pob clwb bob pythefnos am gyfanswm o 16 sesiwn. Etholodd y myfyrwyr chwe hyrwyddwr i fod yn gyfrifol am y clwb a darparu crynodebau o’u dysgu ar gyfer cymuned ehangach yr ysgol trwy wasanaethau a dosbarthiadau.

Hwyluswyd hyfforddiant undydd ar gyfer swyddogion addysg ardal, arolygwyr ysgolion, pwyllgorau rheoli ysgolion, cynrychiolwyr cymdeithasau rhieni ac athrawon a phenaethiaid. Roedd yn cynnwys trosolwg o gynnwys y prosiect i alluogi monitro a gwerthuso, ac i annog mabwysiadu agweddau ac ymddygiadau mwy cefnogol tuag at ferched yn eu harddegau. Darparwyd padiau mislif y gellir eu hailddefnyddio a gynhyrchwyd yn lleol i ddisgyblion o oedran mislif.

Canlyniadau’r prosiect:

  • Mae 97% o ferched wedi cynyddu eu gwybodaeth a’u hyder am eu cyrff, gan arwain at well lles a gwydnwch a thebygolrwydd uwch o aros yn yr ysgol. Mae gan y merched ddealltwriaeth well o’u cylchoedd mislif ac maent yn cydnabod bod glasoed yn gam twf arferol.
  • Mae 83% o ddisgyblion ysgol wedi cynyddu eu gwybodaeth am sut mae diwylliant yn effeithio ar gredoau am eu hiechyd atgenhedlu rhywiol. Maent bellach yn gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus wrth ymwneud â pherthnasoedd rhywiol.
  • Mae gan 79% o rieni ac 83% o fechgyn a’r gymuned ehangach agweddau ac ymddygiadau mwy cefnogol tuag at ferched glasoed yn dychwelyd i’r ysgol.
  • Cwblhaodd 100% o’r merched a’r bechgyn yr ysgol. Tra bod tri myfyriwr yn feichiog, cawsant eu hannog gan yr ysgol a’u rhieni i barhau â’u haddysg. Dewisasant sefyll eu harholiadau terfynol, gyda dau ohonynt yn pasio ac yn symud ymlaen i addysg bellach.

Heriau

  • Roedd myfyrwyr na chafodd eu dewis ar gyfer y prosiect yn teimlo’n chwithig ac yn anfodlon.
  • Roedd adnoddau’n gyfyngedig, gan ei gwneud yn anodd cynnal hyfforddiant ac addysgu cynhwysfawr ym mhob un o’r 21 ysgol.
  • Bydd angen lobïo swyddogion addysg ardal ac arolygwyr ysgolion i sicrhau bod penaethiaid ac uwch reolwyr yr ysgolion yn parhau i addysgu disgyblion ar y materion hyn.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Datganiadau i'r Wasg

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Carwyn Howell Jones, who served as First Minister of Wales and Leader of Welsh Labour from 2009 to 2018 appears on the podcast Wales Africa and the World.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cyn Brif Weinidog yn cefnogi Rhaglen Cymru ac Affrica mewn cyfweliad eang ei gwmpas

Polisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl