EN
< Newyddion

Datganiad ar gydsoddiad DFID a’r FCO

Polisi ac Ymgyrchoedd
Daw’r newyddion bod yr Adran Datblygu Rhyngwladol a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn bwriadu uno ar adeg ddinistriol i bobl dlotaf y byd. Nawr yw’r amser i’r DU gynyddu ei hymdrechion i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf y mae’r byd yn eu hwynebu heddiw; yn cynnwys newid hinsawdd, tlodi ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae COVID-19 wedi bod yn ddinistriol i bobl ar draws y byd.  I lawer o bobl dlotaf y byd, roedd y problemau oedd yn bodoli cyn y pandemig byd-eang yn ymddangos yn anorchfygol, a nawr, wrth i lawer o wledydd wynebu’r clefyd, bydd anghydraddoldebau enfawr yn dod yn fwy di-syfl byth. Mae’n anodd credu, ar adeg pan mae degawdau o gynnydd o dan fygythiad yn sgîl COVID-19, bod y Prif Weinidog wedi penderfynu diddymu DFID – arweinydd byd yn y frwydr yn erbyn tlodi. Nawr yw’r amser i gynyddu ein huchelgais i weithio’n fyd-eang a DFID yw’r offeryn gorau ar gyfer gwneud hyn. Nododd 2020 ddechrau degawd o gyflawni, lle’r oedd camau byd-eang yn cael eu cymryd i sicrhau nad oedd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.  Mae DFID yn esiampl o dryloywder ac effeithiolrwydd, gydag enw da yn rhyngwladol fyddai’n gallu arwain y gwaith hwn. Gallai’r uniad hwn erydu ‘Prydain Fyd-eang’. Ni all diplomyddiaeth gymryd lle cymorth.  Ni ellir rhoi blaenoriaeth i wledydd incwm canolig fel Tsieina neu India dros wledydd incwm is fel Ethiopia neu Somalia. Ni eir i’r afael â materion byd-eang os byddwn yn canolbwyntio ar fuddiannau cenedlaethol y DU yn unig. Nid ydym yn ddiogel rhag y materion sy’n effeithio ar gymunedau gweddill y byd, ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn barod ac yn meddu ar yr adnoddau ar gyfer gweithredu’n fyd-eang. Rachel Cable a Claire O’Shea (Cyd-gadeiryddion Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru)

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A diverse group of people holds a vibrant "Equal Namibia" banner at a pride event, displaying joy and unity. The banner reads, "Equal Namibia: There is no freedom, if there is no equality."
Blog

Lleisiau Balchder: Adeiladu Cymuned a Gweithredu yn Affrica

Amrywiaeth a ChynhwysiantCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod Gweld yr erthygl
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl