EN
< Newyddion

Hub Cymru Africa yn Chwilio am Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth

Mae Hub Cymru Africa yn chwilio am Gadeirydd annibynnol ar gyfer ei Fwrdd Partneriaeth

Hub Cymru Africa yw prif sefydliad datblygu rhyngwladol ac undod byd-eang Cymru. Fe’i ffurfiwyd ym mis Ebrill 2015 i ddwyn ynghyd waith Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Cymru Masnach Deg, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica a Phanel Cynghori Is-Sahara. Rydym yn cefnogi sefydliadau ar draws Cymru i adeiladu cysylltiadau a phrosiectau cynaliadwy mewn partneriaeth â sefydliadau yn Affrica Is-Sahara. Y llynedd, fe ddechreuon ni strategaeth newydd, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgon ni dros y saith mlynedd flaenorol. Aethom drwy broses gyfunol i fynegi’r hyn sy’n bwysig a’r hyn yr ydym am ei gyflawni nesaf. Eleni, rydym yn gwreiddio ein strategaeth newydd, ac yn edrych am gyfleoedd i wireddu ein huchelgeisiau. Rydym yn bartneriaeth fach gyda chymhelliant, felly mae arnom angen rhywun sy'n gallu ymrwymo amser ac egni i rôl unigryw. Byddwch yn gweithio gyda Phennaeth y Bartneriaeth a Bwrdd y Bartneriaeth, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'n holl bartneriaid. Ar hyn o bryd, mae’r bwrdd partneriaeth yn cynnwys dau ymddiriedolwr o bob sefydliad sy’n cymryd rhan, ac mae’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol a goruchwylio rhaglen o weithgareddau i gefnogi mentrau datblygu rhyngwladol yng Nghymru. Mae gwaith y bwrdd yn cael ei amlinellu mewn dogfen cytundeb partneriaeth fanwl sydd wedi cael ei llofnodi gan bob parti. Yn benodol, mae’r cytundeb partneriaeth yn amlinellu swyddogaethau penodol y Cadeirydd, sef:
  • Sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni ei gyfrifoldebau
  • Cynrychioli’r Bwrdd lle bo angen ar gyfer unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, Bwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru neu fusnes swyddogol arall
  • Trefnu a chadeirio cyfarfodydd y Bwrdd
  • Dyfarnu lle y gofynnir amdano mewn anghydfodau rhwng Partneriaid
  • Gweithredu fel Rheolwr Llinell Pennaeth y Bartneriaeth
Ochr yn ochr â swyddogaethau penodol y cadeirydd, mae set o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen yn ein barn ni, i sicrhau bod y Cadeirydd yn gallu ein helpu i gyflawni ein Gweledigaeth, Cenhadaeth a Strategaeth. [fusion_button link="https://hubcymruafrica.cymru/wp-content/uploads/2023/02/HCA-Chair-Candidate-Pack-Feb-2023-Cym.pdf" title="Cliciwch yma i weld y pecyn ymgeisydd" target="_self" link_attributes="" alignment_medium="" alignment_small="" alignment="" modal="" hide_on_mobile="small-visibility,medium-visibility,large-visibility" sticky_display="normal,sticky" class="" id="" color="default" button_gradient_top_color="" hue="" saturation="" lightness="" alpha="" button_gradient_bottom_color="" button_gradient_top_color_hover="" button_gradient_bottom_color_hover="" gradient_start_position="" gradient_end_position="" gradient_type="" radial_direction="" linear_angle="180" accent_color="" accent_hover_color="" type="" bevel_color="" bevel_color_hover="" border_top="" border_right="" border_bottom="" border_left="" border_radius_top_left="" border_radius_top_right="" border_radius_bottom_right="" border_radius_bottom_left="" border_color="" border_hover_color="" size="" padding_top="" padding_right="" padding_bottom="" padding_left="" fusion_font_family_button_font="" fusion_font_variant_button_font="" font_size="" line_height="" letter_spacing="" text_transform="uppercase" stretch="yes" margin_top="" margin_right="" margin_bottom="20px" margin_left="" icon="" icon_position="left" icon_divider="no" animation_type="" animation_direction="left" animation_speed="0.3" animation_offset=""]Pecyn Ymgeisydd[/fusion_button] Manyleb Person H = hanfodol; D = dymunol
  • Gwybodaeth am faterion rhyngwladol, datblygu rhyngwladol neu ddatblygu dan arweiniad lleol (H)
  • Gwybodaeth am y trydydd sector yng Nghymru (D)
  • Ymrwymiad cryf i gydraddoldeb hiliol ac arferion gwrth-hiliol (H)
  • Sgiliau arwain profedig, gan gynnwys profiad sylweddol o weithio gyda Byrddau (H)
  • Sgiliau broceriaeth/negodi (H)
  • Profiad profedig o weithio gyda sefydliadau cymhleth gyda chyllidwyr lluosog (H)
  • Y gallu i neilltuo amser, brwdfrydedd ac egni i gefnogi Partneriaeth Hub Cymru Africa, gan gynnwys mynychu digwyddiadau a chynadleddau yn ogystal â gwaith y bwrdd. Amcangyfrifir y bydd y rôl yn cymryd tua 8 awr y mis. (H)
  • Y gallu i gynrychioli’r bartneriaeth yn gyhoeddus, yn glir ac yn hyderus (H)
  • Profiad o reoli adroddiadau uniongyrchol (H)
Oherwydd natur annibynnol y swydd hon, ni chaiff y Bwrdd Partneriaeth ystyried ceisiadau gan bobl sydd wedi bod yn staff neu’n ymddiriedolwyr unrhyw un o’r sefydliadau partner a restrir uchod o fewn y 2 flynedd ddiwethaf, neu gan staff presennol neu ymddiriedolwyr grwpiau sy’n derbyn cyllid gan unrhyw un o’r sefydliadau hyn. Mae’n rhaid i’r person fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru fel prif roddwr y Bartneriaeth hefyd. Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y swydd hon ddarparu CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu pam eu bod yn gwneud cais am y rôl a chan ddefnyddio'r fanyleb person amlinellu'r sgiliau a fydd ganddynt. Dylid anfon y rhain at cathiejackson@hubcymruafrica.org.uk erbyn 31 Mawrth 2023. Yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr, bydd ymgeiswyr yn cael gwybod a ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer ar 12 Ebrill, gyda chyfweliadau'n cael eu cynnal ar-lein ar 17 a 18 Ebrill. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr du ac ymgeiswyr wedi’u hilioli, yn enwedig gan y rheini sy’n nodi eu hunain fel bod yn rhan o’r gymuned diaspora Affricanaidd sy’n byw yng Nghymru. I drafod y rôl, cysylltwch â Cathie, a fydd yn gallu trefnu amser cyfleus i chi siarad â naill ai Claire O’Shea, Pennaeth Partneriaeth neu ddeilydd swydd blaenorol.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl