EN
< Newyddion

Mae ymchwil yn cadarnhau bod Cymru’n genedl ofalgar

Polisi ac Ymgyrchoedd

Mae Cymry yn ymgysylltu mewn materion tlodi byd-eang a datblygiad cynaliadwy na phobl yng ngweddill Prydain Fawr

< Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Hub Cymru Africa yn olrhain ymgysylltiad cyhoeddus pobl mewn tlodi byd-eang a datblygu cynaliadwy wedi canfod bod Cymru’n fwy ymgysylltiedig na gweddill Prydain Fawr. Ystyrir bod 22% o gyhoedd Cymru ‘Wedi Ymgysylltu’n Bwrpasol’, o gymharu â 19% yng ngweddill Prydain Fawr. Comisiynodd Hub Cymru Africa, partneriaeth rhwng Cymuned Cymru Affrica, yr ymchwil i ddeall yr hyn sy’n ysgogi pobl yng Nghymru’n well i feithrin undod byd-eang a’r hyn sy’n bwysig i ni fel cenedl. Mae ystadegau nodweddiadol eraill yn cynnwys bod cyhoedd Cymru 11% yn fwy tebygol o ymgysylltu â thlodi byd-eang drwy ei drafod gyda ffrindiau, teulu neu bobl eraill. Maent hefyd yn fwy ystyriol yn foesegol ac yn gynaliadwy gyda 3% yn fwy tebygol o brynu neu wrthod prynu nwyddau’n seiliedig ar ymgysylltiad y cynnyrch neu’r cwmni â thlodi byd-eang. Mae 63% o bobl Cymru’n pryderu neu’n pryderu’n ddybryd am lefelau tlodi mewn gwledydd tlawd ac mae 58% yn meddwl y dylem gadw neu gynyddu ein cyllideb cymorth gyfredol. Mae cymorth wedi codi’n sylweddol ers y toriadau i’r gyllideb cymorth ym mis Ebrill 2021, o 44% ym mis Ionawr 2021 i 57% ym mis Mehefin 2022.
"Mae yna un gwahaniaeth arwyddocaol rhwng ymgysylltiad y Cymry a phobl weddill Prydain Fawr: Mae'r Cymry'n 11% yn fwy tebygol i ymgysylltu mewn tlodi byd-eang drwy ei drafod â ffrindiau, teulu neu bobl eraill." - Paolo Morini, Development Engagement Lab
Meddai Claire O'Shea, pennaeth Partneriaeth Hub Cymru Africa, “Dengys yr ymchwil yr hyn rydym eisoes yn ei wybod, bod Cymru’n genedl ofalgar a thosturiol. Mae ein gwaith a’n partneriaethau gyda chymuned Cymru ac Affrica yn golygu ein bod yn gweld ac yn cefnogi llawer o sefydliadau ac unigolion anhygoel sy’n integreiddio yn eu cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn”. “Mae llawer o sefydliadau Affricanaidd yn ffynnu yng Nghymru oherwydd eu bod yn cael mynediad a chymorth er mwyn llwyddo, ynghyd â’r penderfyniad i wella llesiant eu cymuned a dod ag Affrica i Gymru”. Un grŵp o’r fath yw Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru wedi’i sefydlu gan Dr Salamatu Fada. Elusen a grŵp aelodaeth ar gyfer cymunedau Affricanaidd a Charibïaidd ar wasgar yn ogystal â chyfeillion Affrica yng ngogledd Cymru ydyw. Dr Salamatu Fada (canol) gyda Maggie Ogunbanwo (chwith) a Glory Williams (de) ar banel sgwrs yn #SummerUndod2022 ym Mangor, Gorffennaf 2022 Gadawodd Salamatu Nigeria ym mis Ionawr 2011 gyda’i phedwar o blant er mwyn astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Bangor. Cwblhaodd ei PhD mewn Bioleg Cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor yn 2015 ac ôl-ddoethuriaeth yn 2018. Mae’n teimlo fel ei bod wedi cael croeso yn yr ardal ac wedi cael cymorth gan ei heglwys, ei chymuned ac ysgolion y plant. Mae Salamatu bellach yn gynghorydd yng nghyngor sir Bangor. Meddai Salamatu “Mae Cymru’n lle hyfryd i fyw. Mae pobl Cymru’n groesawgar, yn gyfeillgar ac yn gynnes. Mae fy mhlant a minnau’n ystyried Bangor fel ein cartref ac rydym yn dwlu arno. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn meddwl am roi yn ôl i’r lle wnaeth roi cymaint i mi. Dyma pam y gwnes i sefydlu Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica a dyna pam dwi’n gynghorydd". Mae Hub Cymru Africa yn bwriadu cynnal gweithgareddau ynghylch undod byd-eang gyda Chymru ac Affrica gan gynnwys podlediadau Solidari-Tea, arddangosfa ym Mhafiliwn y Grange a mwy. Cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr er mwyn cael y newyddion diweddaraf. Gallwch weld yr ymchwil lawn yma.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl