EN
< Newyddion

Edrych yn Ôl ar y Drafodaeth Banel Boicotio, Prynu a Chefnogi

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau Dynol
Yn ystod ein Marchnad Nadoligaidd Moesegol a gynhaliwyd ar y 26ain o Dachwedd 2022, cynhaliwyd trafodaeth banel yn y Deml Heddwch, ar y thema Cydsefyll, gan ofyn "A allwn ni wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd?" Mae dewis beth i'w brynu a sut i wario ein harian mewn ffordd sy'n cael effaith gadarnhaol ar ein cymuned leol a byd-eang, yn aml yn gallu teimlo'n heriol. O deimlo wedi'n gorlethu gan y materion niferus a welwn heddiw, i fod yn bryderus am ein cyllid personol ein hunain – nid yw penderfynu sut i weithredu er ein lles ni, a’r byd ehangach – mor syml ag yr hoffem iddo fod. Fe wnaethom ofyn i aelod o'r gynulleidfa, Kirsty Luff, mam sy'n gweithio o Gaerffili, i ysgrifennu am ei phrofiad o'r digwyddiad: "Fel y rhan fwyaf ohonom, mae prynu anrhegion i’n hanwyliaid ar flaen fy meddwl yn y cyfnod anhrefnus a lliwgar wrth ddynesu at y Nadolig. Wrth gwrs, buaswn yn gallu gorwedd ar y soffa, yn sipian fy nghoffi mewn un llaw a phrynu fy anrhegion i gyd ar fy ffôn ar y llall! Y cwbl mae'n ei gymryd yw ychydig o gliciau, a gellir gwneud popeth mewn awr neu ddwy. Wrth gwrs, mae hynny'n demtasiwn, oherwydd fy mod yn fam brysur sy'n gweithio. Yn hytrach, dwi eisiau i'r arian rydym yn ei wario fel teulu wneud gwahaniaeth positif, ac nid dim ond chwyddo elw corfforaethau byd-eang. Rwy'n gyfarwydd â'r mudiad masnach deg, ac rwy'n dewis prynu coffi a siocled masnach deg o'r archfarchnad, pan alla i. Ro'n i jest angen rhywfaint o gymhelliant - a rhywfaint o arweiniad – i fy llywio i'r cyfeiriad cywir a fy stopio rhag cymryd y ffordd hawdd allan. Dyna pam nes i lusgo fy ngŵr hir-ddioddefus a fy merch ddeuddeg oed i drafodaeth banel ar ddiwrnod oer a glawog yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd, oedd wedi ei drefnu gan Hub Cymru Affrica. A hwn oedd y penderfyniad cywir. Oherwydd does dim byd tebyg na chlywed o lygad y ffynnon gan bobl y mae eu busnesau a'u prosiectau'n cael effaith mor gadarnhaol i wneud i chi fod eisiau gwneud y peth iawn! Fel Donna Ali o BE Xcellence a'r BOMB, sy'n gweithio mor galed i gefnogi pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol i lwyddo mewn busnes a chael eu cynrychioli mewn swyddi o bŵer. Neu Martha Musanonza Holman, y mae ei busnes 'Love Zimbabwe' yn helpu pobl sy'n gwneud celf a chrefft Affricanaidd i ddechrau eu busnesau eu hunain a chael pris teg am eu cynnyrch. Roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn dysgu am BAFTS Fair Trade Network UK gan ei gadeirydd Lenshina Hines, sydd hefyd yn gydberchennog ar fusnes o'r enw Fair a Fabulous. Doeddwn i ddim wedi clywed am BAFTS o'r blaen, ond mae'n hanfodol mewn hyrwyddo masnach deg yn y DU, drwy weithio gyda siopau a chyflenwyr annibynnol yn y DU sy'n partneru gyda chynhyrchwyr difreintiedig. Mae stori Wendy Kirkman yn drymio adref pa mor bwysig y gall y manteision fod i gymuned leol. Mae Wendy’n un o gyd-sylfaenwyr Giakonda Solar Schools, elusen sy'n gosod paneli solar mewn ysgolion yn Zambia. Mae'r prosiect hwn yn trawsnewid bywydau plant, ac yn sicrhau nad ydynt yn colli allan ar y cyfleoedd addysgol enfawr sydd yn cael eu cyflwyno gan y Rhyngrwyd. Ond beth fedrwn ni ei wneud yma yn y DU? Un peth syml y gallwn i gyd ei wneud yw newid ein cyfrifon banc. Siaradodd Alex Bird am bwysigrwydd defnyddio banciau sydd ddim yn buddsoddi mewn tanwyddau ffosil ac yn hytrach, sydd yn cymryd agwedd foesegol at fuddsoddi, fel y Cooperative Bank neu Triodos. Mae'n lansio Banc Cambria, banc moesegol a fydd yn eiddo i'w aelodau ac yn cael ei reoli ganddynt, drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bu Ophelia Dos Santos, dylunydd tecstilau sy'n ymgyrchu dros ffasiwn gynaliadwy, yn cadeirio'r drafodaeth trwy gwestiynu sensitif a beirniadol. Helpodd hyn i ehangu profiadau'r panelwyr, a chanolbwyntio ar y materion fel y gallem archwilio gyda'n gilydd beth mae'r cyfan yn ei olygu i ddefnyddwyr sy'n byw yn y DU. Wrth gwrs, yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, mae'n anodd cyfiawnhau costau uwch masnach deg a nwyddau cynaliadwy, ond fel mae Ophelia yn ddweud, gallwch arbed arian drwy brynu llai yn gyffredinol a chadw'r hyn rydych chi'n berchen arno cyhyd ag y bo modd. Gallwch hyd yn oed ei drwsio os yw'n torri. Mae prynu'n ail-law yn ffordd dda o arbed arian sy'n well i'r amgylchedd. Mae hyn yn rhyddhau arian ar gyfer prynu nwyddau o ansawdd uwch sy'n para'n hirach ac sy’n cael eu cynhyrchu mewn ffordd sydd ddim yn brifo pobl, cynyddu anghydraddoldeb byd-eang, a gwaethygu newid hinsawdd, ond yn hytrach, sy’n cael effaith gadarnhaol ar y byd. I mi, helpodd y drafodaeth banel hon i droi masnach deg o fod yn gysyniad haniaethol yn rhywbeth mwy real, diriaethol, a dychmygol – ac felly'n anoddach i'w anwybyddu! Cawsom gipolwg ar fyd gwahanol, ac fe wnaeth i mi fod eisiau teimlo'n rhan ohono. Fe wnaethom adael wedi'n hysbrydoli i chwilio am opsiynau masnach deg ac opsiynau cynaliadwy yn fwy, ac i ddarganfod mwy am sut mae cynnyrch yn cael eu cynhyrchu a phwy sy'n eu cynhyrchu, cyn i ni eu prynu. Dwi mewn!” Awgrym Lenshina Ceisiwch brynu cynnyrch Masnach Deg fel bod eu premiwm yn cefnogi gwydnwch cropiau a phroses dryloyw. Awgrym Wendy Mae helpu mudiad bach yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr, ac mae beth sydd i'w weld fel swm bach o arian yn gallu mynd yn bell iawn. Awgrym Martha Gofynnodd Martha i ni ystyried y stori y tu ôl i'r cynnyrch rydyn ni'n eu bwyta bob dydd, a gofyn cwestiynau am eu tarddiad a phwy wnaeth nhw. Fe wnaeth ein hatgoffa nad oes planhigfa bananas yn Abertawe! Awgrym Alex Ceisiwch siopa o gwmpas ar gyfer banciau, gofynnwch gwestiynau fel'yn lle ydych chi'n buddsoddi eich arian? gofynnwch fwy i ddarparwyr pensiwn presennol am eu rhinweddau moesegol. Edrychwch ar Triodos, banc cynaliadwy o’r Iseldiroedd. Awgrym Donna Fe wnaeth trafodaeth ddilyn ynghylch rhwystrau, gan gynnwys y defnydd o iaith a mynediad at arian a ffurflenni cais. Cynghorodd Donna i wneud cais yn y cyd-destun cywir – defnyddio geiriau pwysig a beth yw fy 'edrych ar adroddiadau'r llywodraeth, a dewis y geiriau pwysig.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl