EN
< Newyddion

Meddyliau ar #SummerUndod2022 Bangor

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod

Parhaodd #SummerUndod2022 yn Storiel yng nghalon Bangor

Ar 7fed Gorffennaf, aethon ni ar daith â'n cyfres o uwchgynhadledd ranbarthol i Storiel, sef oriel gelfyddyd ac amgueddfa wedi ei lleoli rhwng eglwys gadeiriol a phrifysgol y ddinas. Thema'r digwyddiad hwn oedd rhywedd (gender). Roedd o’n ddathliad o arweinyddion benywaidd wrth i ni glywed gan dair dynes anhygoel o’r gymuned Affricanaidd yng Nghymru. Rhoesom ni groeso i Dr Salamatu Fada o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Tallafi, Maggie Ogunbanwo o Maggie’s African Twist, a Glory Williams o BAWSO i siarad am eu profiadau a’u gwaith yng Nghymru. Clywsom ni straeon arswydus ac esboniadau gan bob un o’r tair dynes sydd wedi eu hymdoddi i ddiwylliant Cymru ac i’w cymunedau, ac erbyn hyn yn arwain o flaen y gad. [caption id="attachment_63853" align="alignnone" width="800"] Cynrychiolwyr Maggie's African Twist, Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru/Tallafi a BAWSO yn siarad am rywedd. O chwith i dde: Maggie Ogunbanwo, Dr Salamatu Fada a Glory Williams[/caption] Maggie Ogunbanwo Daeth Maggie i Gymru 18 blynedd yn ôl a defnyddiodd hi ei brwdfrydedd am fwyd Affricanaidd greu cysylltiadau â’i chymuned ac i gyflwyno Affrica i Gymru. Roedd Maggie yn gwybod ei bod hi eisiau ymdoddi ei hun i’w chymuned ym Mhenygroes a dechreuodd dysgu Cymraeg dau fis yn unig ar ôl cyrraedd. Yn gyntaf fe redodd hi gaffi a chynhaliodd nosweithiau Affricanaidd, ac ymhen yr hir a'r hwyr fe ddechreuodd hi werthu nwyddau o gwmpas Cymru gyfan.
“Mae gennyf awch am ddadrwymo dwylo gwragedd” - Maggie Ogunbanwo
Erbyn hyn, mae Maggie yn awdures sydd wedi ennill gwobrau am ei llyfrau coginio. Mae The Melting Pot: World Recipes from Wales African yn rhannu ryseitiau a straeon gan 18 pobl o leiafrifoedd ethnig. Roedd Maggie eisiau codi uwchlaw y cred cyfyngol yn ei rhywedd a’i diwylliant: “Mae rhywbeth ynof i, gall arweinyddiaeth bodoli ym mhob un ohonom.” Mae’n frwd i gefnogi merched sy’n dioddef camdriniaeth ac mae’n partneru ag elusennau yng Nghymru ac Affrica. Dr Salamatu Fada Gadawodd Sali Nigeria yn 2011 i fyw yn y DU ac yn 2014 fe symudodd i Fangor gyda’i phedwar plant. Erbyn hyn mae’n astudio am radd doethuriaeth ym Mioleg gadwraethol ym Mhrifysgol Bangor. Wnaeth hi deimlo croeso mawr a chafodd cefnogaeth gan ei heglwys, ei chymuned a’i hysgol. Roedd hi eisiau helpu pobl eraill fel hi oedd yn symud i Gymru ac felly fe sefydlodd hi’r Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru a chewch elusen arall. Mae ei gwaith elusennol yn eang, ac yn ystod y pandemig COVID-19 bu’n rhoi cymorth i gymunedau drwy roi parseli bwyd a dyfeisiau digidol i blant er mwyn iddynt barhau eu haddysg.
“Dwi’n mynd i sicrhau dyfodol merched - plant heddiw a’r cenhedliad i ddod” - Dr Salamatu Fada
Mae Sali hefyd yn cefnogi myfyrwyr sydd wedi dioddef anghyfiawnder a chamdriniaeth hiliol, ac yn gweithio’n agos â’r heddlu. Mae hi bellach yn gynghorydd yng Nghyngor Dinas Bangor. Mae hi’n ymhyfrydu yn siarad dros rheini sydd heb lais eu hunain ac yn cydnabod nad oes digon o gynrychioliad o fenywod a phobl fel hi. Yn yr ardal yng ngogledd Nigeria mae’n dod oddi, nad yw benywod yn siarad yn gyhoeddus ac nad ydynt yn cymryd rhan mewn penderfyniadau teuluol. Glory Williams Symudodd Glory o Gamerŵn i Fangor i astudio ym Mhrifysgol y ddinas Penderfynodd aros yna ar ôl graddio i weithio yn labordy haematoleg Ysbyty Gwynedd ond fe ddechreuodd hi deimlo bydd well ganddi weithio’n agosach at bobl.
“Mae Gogledd Cymru wedi rhoi gymaint o gyfleoedd imi - Trwy fynd am dro yn ei glendid, mae wedi fy iachau” - Glory Williams
Dechreuodd hi weithio gyda BAWSO, elusen sy’n cefnogi pobl o leiafrif ethnig sydd wedi dioddef trais ac ymelwad. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar brosiectau o gwmpas camdriniaeth ddomestig, priodasau gorfodol, anffurfiad organau cenhedlu benywod (FGM) a chaethiwed cyfoes. [caption id="attachment_63910" align="alignnone" width="800"] Stondin Bangor Dinas Masnach Deg[/caption] Yn y prynhawn, roedd dau sesiwn cyfochrog: un gyda Masnach Deg Cymru, lle atebodd Kadun Rees cwestiynau am ddyfodol masnach deg, ei rôl mewn newid hinsawdd, caffaeliad yng Nghymru, a sut gall bobl cymryd rhan yn lleol; a’r llall gyda THET, lle'r oedd Dr Kit Chalmers yn helpu gweithwyr a phartneriaid iechyd rhwydweithio a rhannu profiadau, heriau a llwyddiannau. [Darllenwch mwy am ein Sesiwn Partneriaethau Iechyd yma] Cawsom ni fwyd Affricanaidd blasus dros ben gan Maggie’s African Twist i orffen.

Pum pwynt dysg:

  • Mae gwasanaethau benywod gan gymunedau lleiafrif ethnig yn hollbwysig - mae canlyniadau positif yn dod o addysg ac ymyriad.
  • Cymunedau lleol yw asgwrn cefn Cymru - mae cefnogaeth gan sefydliadau fel eglwysi ac ysgolion yn amhrisiadwy.
  • Mae bwyd yn ffordd i ymdoddi i gymdeithas a chael eich derbyn a’ch deall gan rheini o ddiwylliannau eraill.
  • Mae angen mwy o fenywod du a brown fel arweinyddion er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
  • Mae angen cydraddoldeb ar fenywod er mwyn iddynt ffynnu - mae’n rhaid i ddiwylliannau bod yn fwy agored i newid.
Gwelwch mwy o luniau o'r digwyddiad yn ein halbwm Flickr.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl