EN
< Newyddion

Meddyliau ar #SummerUndod2022 Caerdydd

Newid Hinsawdd a'r AmgylcheddDiaspora
Pafiliwn Grange

Dechreuodd #SummerUndod2022 yng Nghaerdydd ym Mhafiliwn Grange

Ar ôl dwy flynedd o uwchgynadleddau rhithwir, roedden ni wrth ein boddau i gynnal ein digwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol mewn person unwaith eto, yn dechrau yng Nghaerdydd ar 2ail y thema Cyfiawnder Hinsawdd. Mae Pafiliwn Grange yn lle cymunedol gwyrdd a bywiog sy’n cefnogi prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned. Mae’n lle agored a braf gyda gardd â phum pwll glaw, dôl flodau gwyllt, gardd gwenyn, gardd gymunedol ar osod a lawnt ar gyfer awyr iach a rhwydweithio. Clywsom gan leisiau o’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio’r mwyaf gan yr argyfwng hinsawdd ac am yr ymateb iddo gan Gymru. Dechreuodd y digwyddiad drwy gyflwyno cadeirydd newydd Hub Cymru Africa, Tina Fahm. Dywedodd Tina ei hanes am ei hetifeddiaeth Nigeriaidd a’i gobeithion ar gyfer gwaith a datblygiad Hub Cymru Africa yn y dyfodol. Dadleuodd am bwysigrwydd yr alltudiaeth i bontio’r hen Affrica a’r un newydd, gan fod 2.5 miliwn o Affricanwyr alltud yn y DU. Mae Affrica ar ei hol hi gyda brechlynnau coronafeirws a thlodi bwyd ond cawson wedi ein hysbrydoli gan y dyfyniad hwn gan Nelson Mandela:
Mae heriau o’r fath yn teimlo’n amhosib tan eu bod wedi gorffen.
Cawson ein hymuno gan siaradwragedd gwych yn ein sesiwn am Gyfiawnder Hinsawdd, a rhannodd y rheini eu gwaith a’u profiad o bontio Cymru ac Affrica. [caption id="attachment_63806" align="alignnone" width="600"]Panel siarad Caerdydd Panel siarad: O'r chwith i'r dde: Claire O'Shea, Clare James, Mari McNeill, Barbara Davies Quy, Beth Kidd; O'r chwith i'r dde ar y sgrîn: Lorna Alum, Deborah Wekesa[/caption] Ymunodd Lorna Alum o Mount Elgon Tree Growing Enterprise a Deborah Wekesa o Bumaena Tree Nursery Group â ni o Wganda drwy’r we. Gwnaethon nhw ddweud wrthym am y problemau yn eu gwlad oherwydd newid hinsawdd: mae glaw yn anghyson, sy’n arwain at lifogydd neu sychderau; mae torri coed yn achosi erydiad pridd ac yn atal planhigion rhag cael digon o faetholion i dyfu; mae gwyntoedd cryf yn chwythu tai ac adeiladau i lawr; nad oes digon o fwyd neu dŵr glân; ac mae cymunedau yn ymdrechu i fyw bywydau pob dydd. Dywedodd Mari McNeill, Pennaeth Cymru Cymorth Cristnogol, am sut mae ei helusen hi yn canolbwyntio yng Nghymru ar roi platfform i brofiadau eu partneriaid yn Affrica a’u model o “Rhoi/Gweithredu/Gweddu” fel ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Siaradodd Clare James o Climate Cymru am y prosiectau yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar adeiladu cymunedau gwydn, er enghraifft ynni cynaliadwy a thyfu bwyd i daclo newid hinsawdd. Mae’r Great Big Green Week yn digwydd yr hydref hwn, sy’n ddathliad o weithgareddau cymunedol i daclo newid hinsawdd ac i amddiffyn natur. Siaradodd Barbara Davies Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru, am sut mae ei helusen hi yn gweithio gyda chymunedau yn Affrica a’r Amason i blannu 25 miliwn goed erbyn 2025 a’i fod eisiau Cymru bod y “genedl dim datgoedwigo” gyntaf. Mae yna symudiad mewn sut rydym ni’n gwario ein harian, yn ôl hi, gan ein bod ni’n prynu mwy o gynhyrchion moesegol a chynaliadwy. [caption id="attachment_63808" align="alignnone" width="600"] Brodwaith gan Ophelia Dos Santos[/caption] Yn sesiynau’r prynhawn, rhedodd Daisy Rees o’r Centre for African Entrepreneurship gylch trafod ar bwnc alltudiaeth a newid hinsawdd, a rhedodd Ophelia Dos Santos, artist gwehyddu a gweithredwraig leol, weithdy ar gynaliadwyedd yn y diwydiant ffasiwn gan ddysgu brodwaith i’r rhai oedd yn cymryd rhan. Roedd cyfle i weld lluniau buddugol y Gystadleuaeth Ffotograffiaeth 2022 ar y thema “Ailffurfio’r Naratif”, ac arddangosfa ar y thema “Cyfiawnder Hinsawdd” gan Ieuenctid Masnach Deg Bro Morgannwg. Gwnaethom ni gofyn i bawb sut mae cydymddibyniad bydol yn edrych iddyn nhw. Roedd yr atebion yn cynnwys: cydgenedlaetholdeb, cyfrifoldeb, dod o hyd i dir a chryfder cyffredin, empathi, dewrder, tegwch, cydnabod ein dynoliaeth gyffredin, dad-drefedigaethu elusennau a phartneriaethau. Cawsom ni cerddoriaeth arbennig gan Blank Face a N’famady Kouyaté a bwyd Nigeriaidd blasus dros ben gan Id’s Place. [caption id="attachment_63810" align="alignnone" width="600"]N’famady Kouyaté yn chwarae'r balaffon N’famady Kouyaté yn chwarae'r balaffon[/caption]

Pum pwynt dysg:

  • Erbyn 2100, Affricanwr/aig bydd un o bob tri pherson.
  • Mae pobl yn canolbwyntio mwy ar dyfu eu bwyd eu hun er mwyn dysgu sgiliau newydd a lleddfu costau byw.
  • Mae gan fenywod rhan fawr i chwarae i daclo newid hinsawdd yn Affrica gan eu bod nhw’n casglu dŵr a choed tân, magu plant a choginio. Mae hyfforddiant garddwriaeth yn angenrheidiol i’u dyfodol.
  • Mae addysg cyllid hinsawdd yn bwysig, gan fod sawl buddsoddwr yn cefnogi cynlluniau sy’n groes i gyfiawnder hinsawdd.
  • Dillad yw’r diwydiant mwyaf llwglyd ar ôl olew. Mae’n creu a chyweirio dillad a’u prynu’n ail law yn bethau pwysig gallwn ni gwneud fel unigolion i helpu taclo’r broblem hon.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl
Blog, Newyddion

O Khartoum i Gaerdydd: Israa Mohammed a Rhyfel Cartref Swdan

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl