EN
< Newyddion

Partneriaethau Iechyd yn 2022

Iechyd
Dr Kit Chalmers from THET leads a session on partnerships for global health.

Meddyliau ar sesiwn Partneriaethau Iechyd #SummerUndod2022 Bangor

Yn y digwyddiad #SummerUndod2022 ym Bangor ar 7fed Gorffennaf, wnaeth Dr Kit Chalmers, Pennaeth Polisi a Dysg gyda THET, hwyluso sesiwn awr er mwyn i bartneriaethau iechyd gallu rhwydweithio a rhannu eu profiadau, heriau a’u llwyddiannau. Roedd yna gynrychiolwyr o ddolennau Betsi-Quthing (Lesotho), Glan Clwyd-Hossana (Ethiopia), Betsi-Busia (Cenia), Fferyllwyr Gwrthfeicrobaidd (Malaŵi), partneriaeth iechyd meddwl newydd yn São Tomé a Príncipe, a phrosiectau sy’n gweithio ar dloty mislif ac iechyd a glanweithdra mislif, gan gynnwys y Network of Women for Sustainable Development Nigeriaidd. Roedd yna hefyd pobl o bartneriaethau tu allan i iechyd a wnaeth cyfrannu i’r sgyrsiau.
“Diolch am drefnu cyfarfod ardderchog. Roedd hi’n dda cwrdd â phobl, sgwrsio am ddatblygiadau a gwneud cysylltiadau newydd" - Cyfranogwr o ddolen Glan Clwyd-Hossana
Rhannodd y dolennau eu profiadau o weithio drwy’r pandemig COVID-19, yr heriau, llwyddiannau a’r ddysg. Roedd gan y rheini a oedd yn bresennol cyfle i rwydweithio a chyfnewid manylion cyswllt ar ôl y sesiwn, a’r farn oedd ei fod wedi bod yn un defnyddiol dros ben ar ôl gymaint o amser ers yr un diwethaf.

Pedwar pwynt dysg:

  • Her oedd ymdopi â phwysau eithafol gwaith clinigol drwy’r pandemig a chadw ffocws ar bartneriaeth
  • Cyfleoedd a daeth o’r pandemig i roi mwy o berchenogaeth ar weithrediad i’r partneriaid, dibynnu ar eu gwybodaeth a’u profiad i ymateb yn briodol, a’r llwyddiannau a daeth o’r ffordd hon o weithio
  • Pwysigrwydd cysylltiadau y gellir ymddiried ynddi, yn enwedig cael aelodau’r alltudiaeth Affricanaidd yng Nghymru fel presenoldeb galluogi
  • Pwysigrwydd cael y gymuned i arwain y gwaith a gweithio gyda gweithwyr iechyd cymuned ar gyfer canlyniadau iechyd cyhoeddus.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un