EN
< Newyddion

Pennaeth Partneriaeth wedi ei henwi fel Ysgogwraig Newid 100

Mae pobl sy’n gwneud newid cadarnhaol i’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru wedi cael sylw arbennig gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf, Sophie Howe, wrth iddi ddod i ddiwedd ei thymor saith mlynedd. Mae’r beirdd, gweithwyr y sector cyhoeddus, actifyddion, dylanwadwyr, busnesau, ysgolion a gwirfoddolwyr sy’n helpu i ymgorffori’r nodau llesiant ledled Cymru yn ymddangos ochr yn ochr â’r actor Michael Sheen ar restr Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100, a chafodd ei chyhoeddi am y tro cyntaf heddiw mewn digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ymusg y cant Ysgogwyr New yw Claire O'Shea, Pennaeth Partneriaeth Hun Cymru Africa. Yn esbonio pan y chafodd Claire ei chynnwys ar y rhestr, dywedodd y Comisiynynn Cenedlaethau'r Dyfodol: [caption id="attachment_65985" align="alignright" width="400"] Claire O'Shea yn digwyddiad cyhoeddi'r Ysgogwyr Newid 100[/caption] "Mae Claire wedi bod yn hyrwyddwr hirdymor dros undod rhyngwladol, cyfiawnder cymdeithasol a chyfrifoldeb byd-eang yng Nghymru. Yn ei rôl bresennol yn Hub Cymru Affrica, mae hi’n arweinydd cryf ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd i fod yn genedl ofalgar. Mae Claire yn hyrwyddwr llesiant cenedlaethau’r dyfodol, gan hyrwyddo datblygu cynaliadwy a mynd i’r afael â newid hinsawdd, gan gynnwys fel gwirfoddolwr yn ei rôl fel Cadeirydd Grŵp Asiantaeth Dramor Cymru a Chadeirydd Grŵp Cynghori ar Bolisi Sustrans Cymru. Mae hi hefyd ar fwrdd Samaritans Cymru." Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, a aeth i'r digwyddiad cyhoeddi ym Mae Caerdydd: “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi amlgu maint yr heriau byd-eang sy’n ein hwynebu.Y prif rai yw’r angen dybryd i weithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. I wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach mae angen i ni sicrhau’n barhaus bod ein dulliau o weithio mewn llywodraeth yn gyrru yn ei blaen y weledigaeth gadarnhaol sydd gennym ar gyfer y dyfodol a luniwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Hyfyd ar y rhestr o 100 Ysgogwyr Newid yw'r Athro Kelechi Nnoaham, cyn-Gadeirydd ein sefydliad partner, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica; a Susie Ventris-Field, Hayley Richards a Hannah Harvey, Prif Weithredwraig a Phenaethiaid Polisi a Datblygu Rhaglenni ar y cyd yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, sy'n ein llywyddu ni yn y Deml Heddwch. Cafodd Wanjiku Ngotho Mbugua, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro BAWSO, a Dr Salamatu Jidda-Fada, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr, Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru, eu cydnabod am eu gwaith i gefnogi Affricanwyr alltud yng Nghymru.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
BAFTS Logo
Newyddion

BAFTS a’r Siarter Gwrth-hiliaeth: Astudiaeth Achos

Gwrth HiliaethMasnach Deg Gweld yr erthygl