EN
< Newyddion

Stori Harry

Newid Hinsawdd a'r AmgylcheddBywoliaethau CynaliadwyGwirfoddoli

“Mae gwirfoddoli wedi newid fy agwedd ar fywyd, ac mae wedi fy ngwthio i fynd allan o fy mharth cysur ac i fod yn onest, ni fuaswn i’n newid dim nawr.”

Cafodd angerdd Harry am wirfoddoli ei sbarduno gan amser a dreuliwyd yn gwirfoddoli yn Zambia. Ar ôl symud i Gymru, dechreuodd Harry astudio MA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, gyda’r bwriad o ddilyn gyrfa yn y sector rhyngwladol.

“Dwi wedi treulio amser yn gwirfoddoli ac yn gweithio yn Zambia o’r blaen, felly pan symudais i Gymru, roeddwn i eisiau dod ynghlwm gydag elusen sy’n gweithio yn Zambia. Cysylltais â Hub Cymru Africa, a roddodd fi mewn cysylltiad yn gyflym gydag Ysgolion Solar Giakonda.

Dechreuodd Harry wirfoddoli i Hub Cymru Africa yn ystod tymor yr Haf 2022, gan helpu Giakonda gyda’u cyfryngau cymdeithasol. Hyd yn hyn, mae taith Harry gyda Giakonda wedi mynd ag ef yn ôl i Zambia i helpu gyda gweithdy ar godio yn Siavonga.

“Roedd yn anhygoel cael cyfle i fynd yn ôl i Zambia, roeddwn i’n ddigon ffodus i weld gwaith anhygoel Ysgolion Giakonda Solar Schools yn uniongyrchol. Fel gwirfoddolwr newydd sy’n helpu gyda’r cyfryngau cymdeithasol yn bennaf, roedd yn daith berffaith i gwrdd â’r tîm yn Zambia, dysgu mwy am eu prosiectau, a chael lluniau a fideos ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Rwy’n credu ei bod yn bwysig dros ben i wirfoddolwyr ymweld â phrosiectau a chwrdd â’r bobl leol dan sylw. Yn fy marn i, ni allwch gael darlun cywir heb ymweld â’r prosiectau y mae eich elusen yn helpu i’w cefnogi.”

Ers dod yn ôl o Zambia, mae Harry wedi parhau i wirfoddoli gyda Giakonda, ac mae’n meddwl ei fod yn ffit gwych iddo. Mae Harry wedi penderfynu symud draw i wirfoddoli i Giakonda yn barhaol, gan nodi diwedd ei amser gyda Hub Cymru Africa.

“Mae Hub Cymru Africa wedi gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi elusennau fel Giakonda, roeddwn bob amser yn teimlo fy mod i’n cael fy nghefnogi gan y tîm yn Hub Cymru Africa, a buaswn yn argymell gwirfoddoli mewn unrhyw ffordd y gallwch chi gyda nhw.”

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl