EN
< Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli
Fair Trade Wales / Cymru Masnach Deg

Os ydych chi’n bwriadu torri i mewn i’r trydydd sector fel gyrfa, efallai mai gwirfoddoli yw’r ffordd hawsaf o gael rhywfaint o brofiad a mewnwelediad gwerthfawr i’ch CV.

Roedd Saffron, gwirfoddolwr Hub Cymru Africa, yn astudio ar gyfer ei gradd meistr mewn Amgylchedd a Datblygu pan benderfynodd gael rhywfaint o brofiad gwirfoddoli.

“Roeddwn i’n gobeithio dysgu mwy am faterion amgylcheddol a datblygu byd-eang mewn amgylchedd proffesiynol, a chael rhywfaint o brofiad mewn sefydliad oedd yn cynnwys y gwerthoedd hyn”.

Estynnodd Saffron allan i Hub Cymru Africa, a chyfarfod â’r cydlynydd gwirfoddoli, a wnaeth baru ei diddordebau a’i chais am rôl sy’n seiliedig ar ymchwil, gyda chyfle gwirfoddoli gyda Cymru Masnach Deg. Yn 2023, gwirfoddolodd Saffron am 6 awr yr wythnos am 6 mis gyda Cymru Masnach Deg.

“Roedd fy rôl yn canolbwyntio ar greu a hyrwyddo cyrsiau hyfforddi cynaliadwyedd ar gyfer y sector cyhoeddus. Roedd y cyrsiau’n ymdrin â phynciau fel newid hinsawdd, cymhlethdodau cadwyni cyflenwi, ac effaith y pethau rydym yn eu prynu, deddfwriaeth Gymreig a chyfiawnder masnach. Roedd rhywfaint o fy ngwaith yn cynnwys datblygu cynnwys ar gyfer y cyrsiau hyn drwy ymchwilio i’r pynciau, darparu syniadau, awgrymu gweithgareddau ac adnoddau i’w cynnwys, ac ysgrifennu adrannau.

Hefyd, fe wnes i baratoi llwythi o ddeunydd marchnata, gan gynnwys creu rhestrau targed o sefydliadau (undebau llafur, ysgolion, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, prifysgolion, cylchgronau), ysgrifennu testun marchnata, negeseuon ar gyfer y dudalen lanio a thempledi e-bost marchnata, yn ogystal â chysylltu â llawer o wahanol bobl yn uniongyrchol i hyrwyddo’r cyrsiau.”

Agwedd allweddol ar raglen hyfforddi Hub Cymru Africa yw’r gefnogaeth barhaus rydym yn eu cynnig ar leoliadau. 

 “Fe wnes i gydweithio gydag arweinydd y prosiect yn Masnach Deg; cefais gyfarfodydd dal i fyny wythnosol ag ef, ac roedd wrth law bob amser i roi arweiniad.” 

Roedd hi’n gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau Cymru Masnach Deg hefyd, ac fe wnaeth hi hyd yn oed gysylltu â grŵp ymgyrchu Masnach Deg yn ei phentref lleol. 

“Fe wnes i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu a datrys problemau, a phrofi sut y gall gweithredu ar y cyd wneud gwahaniaeth. Fe wnaeth [gwirfoddoli] fy ngalluogi i ddod i adnabod criw gwych o bobl ym maes Masnach Deg a thu hwnt”.

Fe wnaeth y profiad hwn atgyfnerthu diddordeb Saffron mewn cyfiawnder hinsawdd a chymdeithasol, ac roedd yn ddefnyddiol i’w helpu i benderfynu beth hoffai ei wneud ar ôl graddio. Mae Saffron bellach yn gweithio fel Swyddog Newid Hinsawdd i gyngor dinas yng Nghymru.

Mae Saffron yn annog eraill sydd eisiau torri mewn i’r sector i ystyried gwirfoddoli:

“Mae’r profiad wedi rhoi profiad uniongyrchol i mi mewn sector newydd. Buaswn yn argymell yn gryf i unrhyw un i weithio/wirfoddoli gyda Hub Cymru Africa / Cymru Masnach Deg, a chyfrannu at wneud byd tecach wrth ddysgu rhywbeth newydd a chwrdd â phobl wych.”

Rydym yn croesawu ceisiadau gwirfoddoli gan bobl o bob cefndir, a gallwn helpu i ddod o hyd i leoliad i gyd-fynd â’ch sgiliau a’ch profiad. Os hoffech siarad gyda’n tîm ynghylch gwirfoddoli, e-bostiwch enquiries@hubcymruafrica.org.uk i ddechrau’r sgwrs.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Datganiadau i'r Wasg

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Carwyn Howell Jones, who served as First Minister of Wales and Leader of Welsh Labour from 2009 to 2018 appears on the podcast Wales Africa and the World.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cyn Brif Weinidog yn cefnogi Rhaglen Cymru ac Affrica mewn cyfweliad eang ei gwmpas

Polisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl