EN
< Newyddion

Penodwyd Tina Fahm yn Gadeirydd Hub Cymru Africa

Tina Fahm

Mae Hub Cymru Africa wedi penodi Tina Fahm yn Gadeirydd Annibynnol newydd ei Fwrdd Partneriaeth.

Mae Tina Fahm wedi creu gyrfa hynod lwyddiannus fel arbenigwraig mewn llywodraethu, risg a chydymffurfiaeth, gan weithio ar draws amrywiol sectorau diwydiant, sefydliadau a seneddau. Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad yn helpu sefydliadau i gynnal fframweithiau llywodraethu a sicrwydd cadarn, ac i reoli risg yn effeithiol. Mae ei gwaith yn cefnogi ecwiti preifat a buddsoddiadau ar draws Affrica. Mae Tina hefyd wedi gwasanaethu ar fyrddau sefydliadau elusennol sy'n ymwneud â thai cymdeithasol, cydraddoldeb rhywiol a buddiannau pobl ag anableddau dysgu. Wedi ei heni yn Nigeria, bu Tina yn byw yn Lloegr am gyfnod byr yn blentyn ifanc cyn symud i Sambia, lle cafodd ei magu a threuliodd ei blynyddoedd ffurfiannol. Aeth ymlaen i astudio am radd baglor a meistr yn Birkbeck, Prifysgol Llundain. Mae hi bellach yn byw yn y Coed Duon, Cymru. Dywedodd Tina Fahm, Cadeirydd Annibynnol newydd Hub Cymru Affrica: “Rwy’n gyffrous iawn i gael cael y cyfle hwn i ddefnyddio fy ngwybodaeth, fy sgiliau a’m harbenigedd i wasanaethu yn y modd hwn, yn enwedig ar y munud hollbwysig yma i Affrica. “Mae’r sector undod byd-eang dan fygythiad. Mae democratiaeth a chymaint o’r gwerthoedd a’r hawliau sydd wedi’u hennill yn galed yr ydym yn eu caru mewn perygl. Mae angen inni fod yn wyliadwrus, gan na ddylai unrhyw un ohonom eu cymryd yn ganiataol. Mae rhan o hynny’n cynnwys ymrwymo i bartneriaethau. Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd, cofleidio ein gilydd a dyfnhau ein dealltwriaeth o'n gilydd. Rwy’n gobeithio y bydd Hub Cymru Africa yn tyfu mewn cryfder fel hwylusydd a grym gyrru ar gyfer partneriaethau undod byd-eang.” Dywedodd Claire O’Shea, Pennaeth Partneriaeth Hub Cymru Africa: “Mae gan Hub Cymru Africa ran bwysig i’w chwarae wrth adeiladu undod rhwng Cymru ac Affrica. Ar adeg pan fo heriau newid hinsawdd a’r angen am bartneriaeth fyd-eang yn fwy dybryd nag erioed, rydym yn falch iawn o fod wedi penodi Cadeirydd sy’n rhannu ein gwerthoedd ac sydd â gwybodaeth ddofn o gyd-destunau’r DU ac Affrica. “Mae Tina eisoes wedi dangos ei gweledigaeth a’i brwdfrydedd dros y sector undod byd-eang yng Nghymru, gan gyflwyno ei gweledigaeth yn ein huwchgynhadledd haf ddiweddar yng Nghaerdydd. Edrychwn ymlaen at ei chyfraniad parhaus.” Mae Tina yn ymuno â Hub Cymru Africa ar adeg gyffrous gyda lansiad ar fin digwydd o strategaeth newydd a Siarter Gwrth-Hiliaeth sy'n addas ar gyfer ein byd ôl-bandemig. Bydd yn helpu Hub Cymru Africa i gyflawni ei weledigaeth gyfunol ar gyfer y bartneriaeth ac ar gyfer y sector undod byd-eang yng Nghymru.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Datganiadau i'r Wasg

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Carwyn Howell Jones, who served as First Minister of Wales and Leader of Welsh Labour from 2009 to 2018 appears on the podcast Wales Africa and the World.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cyn Brif Weinidog yn cefnogi Rhaglen Cymru ac Affrica mewn cyfweliad eang ei gwmpas

Polisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl