EN
< Newyddion

Tom Baker yn cael ei benodi fel Cadeirydd newydd Hub Cymru Africa

New Chair of Hub Cymru Africa meeting with the co-Chair of SSAP, Fred Zimba.
Hub Cymru Africa

Mae Hub Cymru Africa wedi penodi Tom Baker yn Gadeirydd newydd y Bwrdd Partneriaeth.

Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae Tom wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag eraill. Mae’n ymgyrchydd ac arweinydd arobryn, ac yn ystod ei yrfa, mae wedi gweithio gyda Cymorth Cristnogol, yr ymgyrch Make Poverty History, Bond ac, yn fwyaf diweddar, fel Cyfarwyddwr Gwleidyddiaeth, Cyfranogiad ac Ymgyrchoedd Save the Children UK, yn swyddfa Caerdydd yr elusen.

In addition to this, Tom also served on the boards of charitable organisations, most recently Results UK.

Meddai Tom Baker, Cadeirydd Annibynnol newydd Hub Cymru Africa:

“Rwy’n gyffrous dros ben fy mod yn cael y cyfle hwn i ddefnyddio fy mhrofiad a fy ngwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd i wasanaethu sefydliad undod byd-eang blaenllaw Cymru.

“Mae’r sector undod byd-eang yng Nghymru yn fach ond yn tyfu, ac rwy’n falch iawn o allu ei gefnogi fel Cadeirydd Hub Cymru Africa. Mae’r gwaith y mae’r bartneriaeth yn ei wneud, o ran dod â Cymru Masnach Deg, Panel Cynghori Is-Sahara, Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru at ei gilydd yn bwysig,  ac rwyf yn gyffrous i gael gweithio i gefnogi ein holl bartneriaid yng Nghymru ac Affrica. Fy ngobaith yw y bydd Hub Cymru Africa yn tyfu mewn nerth fel hwylusydd ac fel y sbardun ar gyfer partneriaethau undod byd-eang.”

Meddai Claire O’Shea, Pennaeth Partnerieth, Hub Cymru Africa:

“Mae gan Hub Cymru Africa rôl bwysig mewn adeiladu undod rhwng Cymru ac Affrica. Ar adeg lle mae heriau newid hinsawdd a’r angen am bartneriaeth fyd-eang yn fwy brys nag erioed, rydym yn falch iawn o fod wedi penodi Cadeirydd sy’n rhannu ein gwerthoedd ac sydd â gwybodaeth ddofn o’r cyd-destunau rydym yn gweithio ynddynt.

“Bydd profiad Tom fel arweinydd yn y sector ac fel ymgyrchydd medrus yn ei wneud yn ased amhrisiadwy fel Cadeirydd Hub Cymru Africa. Rydym yn edrych ymlaen at weld ei gyfraniad yn y blynyddoedd i ddod.”

Mae Tom yn ymuno â Hub Cymru Africa ar adeg gyffrous, gyda’n strategaeth sydd newydd ei lansio a’n Siarter Gwrth-Hiliaeth. Bydd yn helpu Hub Cymru Africa i gyflawni ei weledigaeth ar y cyd ar gyfer y bartneriaeth ac ar gyfer y sector undod byd-eang yng Nghymru.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth sy’n cynnwys Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Cymru Masnach Deg, Panel Cynghori Is-Sahara a Phartneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru.

Hub Cymru Africa yw prif sefydliad datblygu rhyngwladol ac undod byd-eang Cymru. Fe’i ffurfiwyd ym mis Ebrill 2015 i ddod â gwaith ei bartneriaid ynghyd ac i gefnogi sefydliadau ar draws Cymru i adeiladu cysylltiadau a phrosiectau cynaliadwy mewn partneriaeth â sefydliadau yn Affrica ac ar draws y byd. Mae’n cefnogi grwpiau ac unigolion amrywiol a bywiog yng Nghymru – ymgyrchwyr masnach deg, y gymuned ddiaspora, staff y GIG, sefydliadau cymunedol a ffydd, ac elusennau – i gyfrannu at ddatblygiad byd-eang sy’n gyfrifol ar lefel gymdeithasol.

Mae gwaith Hub Cymru Africa yn canolbwyntio’n bennaf ar iechyd, addysg, bywoliaeth a’r amgylchedd. Trwy godi ymwybyddiaeth, polisi ac eiriolaeth, gweithio gyda chymunedau a chymorth mentora a datblygu, mae’n helpu’r sector gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru i gyfrannu at y Nodau Datblygu Cynaliadwy trwy ddatblygu rhyngwladol.

Mae Hub Cymru Africa yn cael ei ariannu drwy grantiau gan Raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru a Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Llywodraeth y DU.

I gael cyfweliadau yn Gymraeg neu’n  Saesneg, cysylltwch â:

Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu
petergilbey@hubcymruarica.wales
+44 (0) 7495 008 927

Tom Baker, Independent Chair of Hub Cymru Africa
Hub Cymru Africa

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Datganiadau i'r Wasg

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Carwyn Howell Jones, who served as First Minister of Wales and Leader of Welsh Labour from 2009 to 2018 appears on the podcast Wales Africa and the World.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cyn Brif Weinidog yn cefnogi Rhaglen Cymru ac Affrica mewn cyfweliad eang ei gwmpas

Polisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl