EN
< Newyddion

Datganiad GATC ar y Bil Gwrth-gyfunrhywioldeb yn Wganda

Hawliau Dynol
Mae aelodau Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru (GATC) yn bryderus iawn ynghylch pasio’r Bil Gwrth-gyfunrhywioldeb yn Wganda. Rydym yn sefyll mewn undod ag Wgandiaid LHDTC+, a oedd eisoes wedi’u troseddoli ac sydd bellach yn wynebu cosbau llymach fyth am ddim ond bod pwy yr ydynt. Bydd deddfu'r Bil hwn yn torri sawl rhwymedigaeth hawliau dynol y wlad, sydd wedi’u hymgorffori yng nghyfansoddiad Wganda ac o dan gyfraith ryngwladol. Rydym felly'n annog yr Arlywydd Museveni i ddefnyddio ei ddisgresiwn a rhoi feto ar y Bil hwn. Pe bai’n cael ei ddeddfu, byddai’r Bil Gwrth-gyfunrywioldeb yn troseddoli rhywun yn syml am ddatgan ei fod yn lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol neu’n drawsrywiol. Byddai hefyd yn troseddoli unigolion a sefydliadau sy'n darparu cymorth i bobl LHDTC+. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sy'n ymgymryd â phrosiectau a gefnogir o Gymru yn cael eu trin â pharch a heb anffafriaeth. Safwn mewn undod â chymuned LHDTC+ Wganda ac ymrwymwn i adeiladu byd lle mae hawliau dynol pawb yn cael eu parchu, eu hamddiffyn a'u cynnal. Claire O'Shea a Sarah Rees, Cyd-gadeiryddion GATC

Erthyglau Eraill

Gweld pob un