Mae cadw gwenyn yn gallu cefnogi bywoliaethau cynaliadwy a’r amgylchedd. Mae Bees for Development yn Nhrefynwy wedi bod yn cefnogi cadw gwenyn ar draws y byd am fwy na 30 mlynedd, i frwydro yn erbyn tlodi, i adeiladu bywoliaethau gwydn, ac i wella bioamrywiaeth.
Ymunwch â rheolwyr prosiect Bees for Development o Gymru a phartneriaid o Ghana ac Uganda i ddysgu am eu prosiectau gwaith a’r effaith maen nhw’n ei chael.
Will Van Blyderveen a Chris Keywood, Rheolwyr Prosiect Bees for Development
Gideon Zege, Bees for Development Ghana Rheolwr Canolfan Fasnach Mêl a Chŵyr Gwenyn. Bydd Gideon yn ymhelaethu ar effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gwaith BfD Ghana yn Afram Plains dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae Gideon Zege yn rheoli Canolfan Fêl Bees for Development Ghana, ac yn arwain hyfforddiant ar gadw gwenyn. Mae’n adeiladu perthnasau gyda gwenynwyr lleol, ac yn sicrhau eu bod mewn cysylltiad â marchnadoedd.
Dennis Amena, cynghorydd hyfforddiant a busnes TUNADO.
Mae Dennis Amena o The Uganda National Apiculture Development Organisation yn sicrhau bod gwasanaethau yn cyrraedd aelodau TUNADO a gwenynwyr newydd mewn prosiectau. Mae hefyd yn delio gyda materion sy’n gysylltiedig â busnes, fel cynnig gwasanaethau cynghori ar ddatblygu busnesau i aelodau TUNADO.
Bees for Development yw’r elusen fyd-eang sy’n gwneud bywyd yn well gyda gwenyn. Rydym yn hyrwyddo cadw gwenyn yn gynaliadwy. i frwydro yn erbyn tlodi, i adeiladu bywoliaethau gwydn, ac i wella bioamrywiaeth.
Mae Bees for Development yn rhannu sgiliau cadw gwenyn gyda phobl yng nghymunedau mwyaf tlawd y byd, ac yn darparu incwm dibynadwy, cynaliadwy am oes. Rydym yn defnyddio sgiliau lleol, deunyddiau lleol a gwenyn lleol.