EN

Canolbwyntio ar Ofal Teulu: Adeiladu mudiad dros newid

Hawliau DynolPolisi ac YmgyrchoeddGweminar Digwyddiad ar-lein Zoom Cofrestru

Ym mis Gorffennaf, trefnodd SWIDN, Hub Cymru Africa, a Hope and Homes for Children ddigwyddiad gyda’i gilydd ar-lein, oedd yn agored i bawb, a oedd yn canolbwyntio ar ofal i blant sydd wedi’u hymyleiddio. Roedd y digwyddiad hwn yn ddigwyddiad wedi’i gynllunio i gysylltu a chefnogi elusennau a rhoddwyr yn y DU sydd yn gweithio gyda phlant mewn perygl yn rhyngwladol, ac i annog sgyrsiau am arferion gorau ac i glywed gan Lywodraeth y DU am eu hymgyrch dros ofal teulu.

Gallwch wylio’r recordiad o’r digwyddiad yma.

Mae’r digwyddiad hwn yn ddigwyddiad sydd yn dilyn ymlaen o’r gweminar ym mis Gorffennaf. Mae wedi’i gynllunio i annog sefydliadau i barhau â’r sgwrs, ac rydym yn awyddus i adeiladu mudiad sy’n ymwneud â darparu gofal seiliedig ar deulu i blant, ac i symud arferion hanesyddol i ffwrdd o anfon plant sydd wedi’u hymyleiddio i fyw mewn cartrefi gofal. Unwaith eto, bydd y digwyddiad hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ar-lein, ac ar gael i elusennau, rhoddwyr a gweithwyr datblygu rhyngwladol.  Bydd yn cynnwys straeon gan bob sydd â phrofiad bywyd, a chanllawiau ymarferol a hygyrch i gefnogi taith eich sefydliad.

P’un a ydych chi newydd ddechrau ystyried symud i ffwrdd o ddefnyddio cartrefi plant, neu yn gweithio yn y maes diogelu plant yn barod, dewch i ymuno â ni i ddysgu, cysylltu, a helpu i adeiladu dyfodol lle mae pob plentyn yn tyfu i fyny o dan ofal teulu.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y digwyddiad hwn, e-bostiwch info@swidn.org.uk.

Gwyliwch weminar o Fis Gorffenaf