EN

Cysylltu’r Diaspora: Rhannu profiadau ym maes undod byd-eang

DiasporaRhwydweithio Digwyddiad ar-lein Zoom Cofrestru

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon?

Mae’r sesiwn hon yn gyfle i aelodau o’r diaspora Affricanaidd yng Nghymru sy’n ymwneud â gwaith undod byd-eang i gysylltu â’i gilydd, rhannu profiadau, ac archwilio sut y gallwn gydweithio’n fwy effeithiol.

Mae’r digwyddiad hwn yn adeiladu ar ddigwyddiadau blaenorol Cysylltu’r Diaspora Affricanaidd, ac mae’n ddigwyddiad rhwydweithio anffurfiol ar-lein ar gyfer cymunedau diaspora yng Nghymru sy’n gweithio ym maes undod byd-eang a datblygu rhyngwladol.

Beth ydy pwrpas y digwyddiad hwn?

Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i rannu profiadau, dysgu oddi wrth gymheiriaid, gwneud cysylltiadau a thrafod syniadau ar gyfer rhwydweithio a chydweithio yn y dyfodol.

Bydd y digwyddiad hwn, sydd yn cael ei gynnal dan arweiniad Hub Cymru Africa a’r Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP), yn tynnu sylw at y cymorth, yr hyfforddiant a’r cyfleoedd cyllido sydd ar gael, ac yn darparu lle i drafod yr heriau a’r anghenion sy’n wynebu’r sector.

Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael y cyfle i gyflwyno eu hunain, rhannu profiadau am eu gwaith, a chyfrannu at gyfleoedd rhwydweithio ac ymgysylltu yn y dyfodol.

Agenda

Croeso a threfniadau’r sesiwn  (5 mun)

Jalia Packwood, Rheolwr Cymorth Datblygu

  • Trosolwg byr o strwythur y sesiwn
  • Trefniadau’r sesiwn (troi’r meicroffon ymlaen/i ffwrdd, defnyddio’r chat, disgwyliadau o ran cymryd rhan)

Cyflwyniad i Hub Cymru Africa (5 un)

Jalia Packwood a Sarra Ibrahim, Rheolwyr Cymorth Datblygu

  • Eu rôl yn Hub Cymru Africa a gwybodaeth am y bartneriaeth
  • Y cymorth sydd ar gael i grwpiau diaspora
  • Cyfleoedd hyfforddi, cyllido a rhwydweithio
  • Prif brosiectau a chydweithrediadau (a’r berthynas gyda Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP))

Cyflwyniadau a disgwyliadau’r cyfranogwyr (1 awr)

5 munud fesul sefydliad ac amser i drafod ar ben hynny

  • Cyflwyniadau byr (enw, sefydliad a sector, rôl) – 1 munud
  • Rhannu’r pethau a ddysgwyd ac arferion da (beth sydd wedi gweithio’n dda? Sut ydych chi wedi mynd i’r afael â heriau?)
  • Oes gennych chi unrhyw gwestiynau i’ch cymheiriaid? (Pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch?)

Y camau nesaf a’r sylwadau cloi (5 mun)

  • Sut i gadw mewn cysylltiad (e-byst, cyfryngau cymdeithasol, gweithgareddau dilynol)
  • Cyfleoedd ymgysylltu yn y dyfodol
  • Diolch a sylwadau terfynol.