Rhannu 10 blaenoriaeth y sector Cymru ac Affrica ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru
Mae elusennau bach, partneriaethau iechyd a grwpiau cymunedol ar draws Cymru yn chwarae rôl bwerus mewn adeiladu partneriaethau ystyrlon a hirdymor gyda sefydliadau a chymunedau mewn gwledydd Affricanaidd. Maen nhw hefyd yn ymgyrchu’n effeithiol dros Fasnach Deg a thros fwy o undod a heddwch ar draws y byd.
Eto, mae llawer ohonom yn cael trafferth cael mynediad at y cyllid, y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru sydd eu hangen arnom i gadw’r gwaith hwn yn ffynnu. Mae Hub Cymru Africa wedi gweithio gydag elusennau bach a grwpiau cymunedol ar draws Cymru sy’n cysylltu gyda sefydliadau a chymunedau mewn gwledydd Affricanaidd, i greu 10 argymhelliad ar gyfer Llywodraeth bresennol Cymru a Llywodraeth nesaf Cymru. Mae’r argymhellion hyn yn gefnogi anghenion grwpiau bach dan arweiniad gwirfoddolwyr yn gryf, ac yn tynnu sylw at werth undod byd-eang a’ch gwaith chi.
O ehangu’r Rhaglen Cymru ac Affrica i gryfhau partneriaethau iechyd moesegol, i gefnogi mentrau dan arweiniad y gymuned ddiaspora, ymrwymiadau Masnach Deg, cyfiawnder hinsawdd ac addysg ar ddinasyddiaeth fyd-eang — mae’r awgrymiadau hyn wedi’u cynllunio i helpu eich elusen i barhau i wneud gwahaniaeth go iawn.
Bydd y sesiwn yn archwilio:
Dewch i ymuno â ni i gymryd rhan mewn trafodaeth glir ac ysbrydoledig am sut y gall eich llais, fel ymddiriedolwyr, sylfaenwyr a gwirfoddolwyr, helpu i greu Cymru sy’n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod Llywodraeth nesaf Cymru yn cefnogi eich partneriaethau i barhau i ffynnu am flynyddoedd i ddod.