EN

Ffair Undod Byd-eang 2026

Cynhadledd Digwyddiad mewn person Undeb Myfyrwyr Caerdydd Plas y Parc Caerdydd CYMRU CF10 3QN Cofrestru

Mae digwyddiad undod byd-eang blaenllaw Cymru yn ôl ar gyfer 2026! Eleni, rydym yn newid ein cynhadledd draddodiadol am Ffair, a fydd yn cael ei chynnal yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd!

Eleni, rydym eisiau  codi ymwybyddiaeth ac adeiladu  cefnogaeth ar gyfer undod byd-eang a datblygu rhyngwladol, gyda phobl sydd yn frwdfrydig dros weithredu ar newid hinsawdd, cyflawni cyfiawnder cymdeithasol a gwneud y byd yn lle mwy diogel.

Dewch i ymuno â chyffro’r Ffair yn yr arddangosfa fywiog. Dewch i gwrdd â sefydliadau ac elusennau sydd yn gweithio yn y sector, a dod o hyd i gyfleoedd i gymryd rhan – trwy wirfoddoli, ymgyrchu neu drwy newid eich dewisiadau prynu.

Ochr yn ochr â’r arddangosfa, rydym wedi rhoi rhaglen gyffrous at ei gilydd sy’n cynnwys cyflwyniadau i faterion a gwaith ein sector, gweithdai mwy manwl ar gyfer gweithwyr profiadol mewn Cyrff Anllywodraethol Rhyngwladol, trafodaethau panel ysgogol, a phrif areithiau ysbrydoledig gan arweinwyr ym maes undod byd-eang.

Mae ein prif siaradwyr cyffrous yn cynnwys:

  •         Mpho Tutu van Furth – merch yr Archesgob Desmond Tutu – yn trafod gwerth Ubuntu
  •         Arweinwyr Brodorol y Guarani o Frasil – yn rhannu eu brwydr i ddiogelu eu tir a’u coedwigoedd
  •         Sioned Williams, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

 Gallwch archwilio’r rhaglen lawn yma.

Rhaglen

Mae gennym raglen lawn o weithdai a seminarau cyflwyniadol yn ogystal â sesiynau mwy manwl, sy'n trafod ystod eang o themâu a phynciau ym maes undod byd-eang, datblygu rhyngwladol a chymorth tramor. Yn ogystal, bydd ein gofd arddangos yn cynnal stondinau gan sefydliadau, partneriaethau ac elusennau sy'n gweithio yn y sector, ac yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan drwy wirfoddoli, ymgyrchu neu newid dewisiadau prynwyr.

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu'n ddwy sesiwn lawn gyda phrif areithiau a phedair prif sesiwn a fydd yn cynnwys amrywiaeth eang o weithdai a seminarau.

Er y bydd y diwrnod yn caniatáu i fynychwyr fynd i mewn ac allan i unrhyw sesiwn neu bob sesiwn sydd o ddiddordeb iddynt, bydd y digwyddiad yn dechrau gyda chyfle i gysylltu â Hub Cymru Africa, cwrdd â chydweithwyr a chefnogwyr undod byd-eang, ac i bori’n hamddenol drwy stondinau’r Ffair sy’n arddangos sefydliadau, partneriaethau ac elusennau sydd yn gweithio yn y sector.

Mae Mpho Tutu van Furth yn offeiriad Anglicanaidd ac yn siaradwraig, awdures, diwinydd, artist, mam, ac yn ferch ieuengaf yr archesgob a’r ymgyrchydd hawliau dynol enwog o Dde Affrica, Desmond Tutu. Astudiodd Mrs Tutu van Furth beirianneg drydanol yn Washington, bu’n gweithio gyda ffoaduriaid yn Efrog Newydd, a sefydlodd ac arweiniodd The Tutu Institute for Prayer and Pilgrimage. Bu hefyd yn gyfarwyddwr sefydliad etifeddiaeth Desmond a Leah Tutu, sy’n ymgyrchu dros heddwch a chyfiawnder.

 

Priododd yr Athro Marceline van Furth, pediatregydd o’r Iseldiroedd, yn 2015. Ar ôl iddynt briodi yn yr Iseldiroedd, gorfodwyd hi gan eglwys De Affrica i ymddiswyddo o’i swydd fel offeiriad oherwydd iddi briodi menyw.

 

Mae Mpho Tutu van Furth yn hyrwyddo athroniaeth Ubuntu, sy’n helpu pobl i ddeall eu hunain a’u cysylltiad ag eraill. Ystyr llythrennol y gair yw “dynoliaeth”. Mae Ubuntu yn seiliedig ar y syniad mai dim ond drwy bobl eraill y mae person yn dod yn berson. Mewn geiriau eraill, dim ond mewn perthynas ag eraill y gallwn fod yn hollol ddynol. Mae ein bywydau wedi’u cysylltu’n ddwfn, a phan fydd y cysylltiadau hynny’n cael eu difrodi, rhaid inni weithio gyda’n gilydd i’w hadfer, fel y gall pawb ffynnu. Dyma sy’n ffurfio sail pwy ydym ni.

Mae Sioned Williams yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac yn Weinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb yn Llywodraeth Cymru. Mae hi wedi bod yn y swydd ers etholiad y Senedd 2026, ac mae hi’n gyfrifol am Raglen Cymru ac Affrica.

Sesiwn cyflwyniadol 30-munud

Ystafell F

Oes gennych chi ddiddordeb mewn modelau gofal teuluol a chymunedol neu ddatblygiad iach plant? Ydych chi’n cefnogi cartrefi plant amddifaid ac eisiau dysgu mwy am yr opsiynau eraill?

Ar hyn o bryd, mae o leiaf 5.4 miliwn o blant yn byw mewn cartrefi plant amddifaid neu sefydliadau preswyl ar draws y byd. Mae llawer o sefydliadau ac unigolion yn cefnogi cartrefi plant amddifaid drwy wirfoddoli neu roi rhoddion gyda’r bwriad gorau, gan gredu eu bod yn helpu plant i fyw mewn amgylchedd diogel ac i wella eu bywydau.

Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth ynghylch effaith cartrefi plant amddifaid ar ddatblygiad plant yn ymestyn nôl mwy na 120 mlynedd ac yn croesi cyfandiroedd, systemau gwleidyddol a diwylliannau. Mae’n cyrraedd yr un casgliad dro ar ôl tro: sef bod cartrefi plant amddifaid yn niweidio datblygiad iach plant.

Amcangyfrifir fod gan dros 80% o blant sy’n byw mewn cartrefi plant amddifaid o leiaf un rhiant sy’n fyw, a bod gan y rhan fwyaf deulu a allai efallai ofalu amdanynt gyda chefnogaeth.

Ond mae newyddion da! Mae mudiad byd-eang ar y gweill i gael gwared ar gartrefi plant amddifaid.  Ond nid ynghylch cau sefydliadau yn unig mae hyn, ond ynghylch mynd i’r afael â’r rhesymau pam mae plant yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd yn y lle cyntaf, ac adeiladu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sy’n gwneud teuluoedd a chymunedau’n fwy diogel, yn iachach ac yn gryfach. Mae llawer o gartrefi plant amddifaid ar draws y byd wedi cydnabod hyn, ac wedi newid eu ffordd o weithio i roi plant yn gyntaf, a darparu gwasanaethau eraill yn lle hynny.

Yn y sesiwn hon, bydd Mark Riley o Hope and Homes for Children yn sôn am ei brofiad o fyw a gweithio yn Nwyrain Affrica ar yr hyn a elwir yn ‘care reform’, sydd yn helpu gwledydd i symud oddi wrth systemau cartrefi plant amddifaid tuag at systemau gofal teuluol a chymunedol mwy iach i blant.”

Bydd Mark yn trafod:

  • Pam nad yw cartrefi plant amddifaid fel model datblygu yn cyflawni’r canlyniadau gorau i blant.
  • Dilyn yr arian: sut y gall ailgyfeirio cyllid oddi wrth gartrefi plant amddifaid drawsnewid systemau gofal cyfan.
  • Diwygio gofal fel sbardun ar gyfer newid ehangach, nid fel maes arbenigol yn unig.
  • Astudiaethau achos o Kenya a Rwanda.
  • Straeon am y broses o symud.
  • Pobl sydd wedi gadael y system ofal fel arbenigwyr
  • Cymru yn y byd: o fod yn rhoddwr i fod yn bartner mewn diwygio gofal.

Ynghylch Mark Riley

Mae Mark Riley yn arbenigwr ym maes amddiffyn a diogelu plant, ac mae ganddo fwy nag 20 mlynedd o brofiad yn arwain mentrau diwygio gofal a diogelwch dyngarol ar draws Affrica ac Asia, gan gynnwys 13 mlynedd yn byw ac yn gweithio ar reng flaen y gwaith yn Nwyrain Affrica. Mae ei waith yn cwmpasu gofal amgen, dad-sefydliadoli, ymchwiliadau diogelu, a chydlynu rhwng asiantaethau. Mae ganddo hanes profedig o weithio mewn partneriaeth ag UNICEF, USAID, Caritas a llywodraethau cenedlaethol i gryfhau systemau amddiffyn plant ar lefel bolisi ac ar lefel weithredol. Ymunodd Mark â Hope and Homes for Children yn 2016. Yn y rôl hon, mae’n darparu arweiniad strategol a rhaglennol byd-eang ar draws portffolio’r sefydliad, ac yn arwain yr ymdrechion diwygio gofal yn India a Dwyrain Affrica.

Sesiwn manwl 50-munud

Ystafell C

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill statws Masnach Deg Lefel 1. Yn y gweithdy hwn, gallwch ddarganfod beth mae hyn yn ei olygu, a blasu rhai o’r opsiynau Masnach Deg blasus sydd ar gael yng nghyfleusterau arlwyo’r brifysgol.

Bydd cyfle hefyd i chi ychwanegu eich syniadau am sut y gellir integreiddio Masnach Deg ymhellach i fywyd staff a myfyrwyr y brifysgol, gan gynnwys ym maes arlwyo, ymgyrchu ac ymchwil. Byddwch yn archwilio sut y gallwch chi gymryd rhan yn bersonol i hyrwyddo Masnach Deg ymhellach yn y brifysgol a thu hwnt.

Bydd y gweithdy’n cael ei arwain gan Dr Maryam Lotfi, Cadeirydd Cymru Masnach Deg. Mae Maryam yn Uwch Ddarlithydd (Athro Cyswllt) mewn Rheoli Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy yn Ysgol Fusnes Caerdydd hefyd. Bydd Annabel Hurst, Pennaeth Arlwyo, Cynadleddau a Digwyddiadau ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymuno â hi a Tristan Cairns, Swyddog Moeseg ac Amgylcheddol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Sesiwn manwl 50-munud

Ystafell E

Bydd y sesiwn hon yn cael ei hailadrodd drwy gyfrwng y Gymraeg am 4.10pm.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei arwain gan Chloe Tuck, Rheolwr Adrodd Straeon Climate Cymru.

Pan fo’r byd yn teimlo ar wahân a diffyg ymddiriedaeth, mae’n demtasiwn i wthio’n galetach, i ddadlu, perswadio, neu alw allan. Dyw newid ddim bob amser yn dechrau gyda phwysau; gall ddechrau gyda chysylltiad.

Mae’r Pecyn Dychmygwch Weithredu yn gasgliad o 10 adnodd syml, ymarferol i’ch helpu i gyfathrebu’n ofalus, adrodd straeon cyffrous, ac ysbrydoli gweithredu yn eich cymuned.

Maent yn gyflym i’w dysgu ac yn hawdd i’w defnyddio; p’un a ydych chi’n rhoi cyflwyniad, yn cynnal digwyddiad, yn ysgrifennu datganiad i’r wasg, neu jyst yn cael sgwrs.

Nid oes angen unrhyw brofiad mewn cyfathrebu na chefndir mewn gwaith hinsawdd arnoch. P’un a ydych chi’n ymgyrchydd, addysgwr, artist, arweinydd ffydd, neu’n aelod gweithredol o’ch cymuned, mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau siarad am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw gyda mwy o hyder ac effaith.

Wedi’i gynllunio i’ch helpu i gyfleu’r hyn sy’n bwysig gyda mwy o effaith, a chysylltu â mudiad ehangach sy’n gweithio tuag at yr un nod: sef llunio dyfodol i Gymru sy’n cynnwys pawb.

Sesiwn cyflwyniadol 30-munud

Ystafell G

Rydym i gyd wedi clywed am waith dyngarol, ond beth yn union yw hyn mewn gwirionedd? Bydd y sesiwn hon yn archwilio’r mathau o sefyllfaoedd y mae sefydliadau dyngarol yn ymateb iddynt. Byddwch yn dysgu am yr egwyddorion sy’n llywio’r gwaith hwn, sut mae sefydliadau byd-eang yn gweithio gyda phartneriaid lleol, a sut y gall pobl gymryd rhan yn y sector.

Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Hayley Morgan. Treuliodd Hayley bron i ddeng mlynedd yn gweithio gyda Médecins Sans Frontières (Doctors Without Borders) mewn ardaloedd o wrthdaro ac ôl-wrthdaro. Yn ystod y cyfnod hwn, gwelodd effeithiau gwrthdaro a therfysgoedd, mudo gorfodol, a’r gwytnwch rhyfeddol a ddangoswyd gan y bobl y gwnaeth hi eu cyfarfod a byw ochr yn ochr â nhw. Arweiniodd Hayley Cymru Global (Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru gynt) rhwng 2024 a 2026.

Sesiwn cyflwyniadol 30-munud

Ystafell A

Dylai pob un ohonom gael y cyfle i fyw bywyd iach, ond mae tlodi, grym a braint yn cael effaith enfawr ar iechyd unigolion a phoblogaethau ar draws y byd. Mae effeithiau dirywiad amgylcheddol a chlefydau heintus yn dangos yn glir bod angen mynd i’r afael â llawer o faterion iechyd ar lefel ryngwladol. Mae iechyd byd-eang yn faes astudio, ymchwil ac ymarfer, sy’n ceisio gwella iechyd a sicrhau tegwch iechyd i bobl ar draws y byd.

Bydd y sesiwn hon yn cael ei harwain gan Israa Mohammed, Cadeirydd Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru. Mae Israa yn gweithio fel Gwyddonydd Epidemiolegol Uwch yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle mae hi’n cefnogi gwaith gwyliadwriaeth ar gyfer clefydau heintus ac ymchwiliadau i achosion. Gyda chefndir mewn fferylliaeth ac iechyd cyhoeddus, mae ganddi dros wyth mlynedd o brofiad amlddisgyblaethol o weithio ym meysydd epidemioleg, fferylliaeth glinigol ac addysg uwch yn Swdan a’r DU. Mae ganddi radd Baglor mewn Fferylliaeth (Anrhydedd) o Brifysgol Khartoum, MSc mewn Fferylliaeth Glinigol, ac MSc mewn Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Datblygu o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.

Sesiwn cyflwyniadol 30-munud

Ystafell C

Hoffech chi gymryd rhan yn y sector undod byd-eang yng Nghymru a chael sgiliau a phrofiad gwerthfawr mewn Datblygu Rhyngwladol neu ymgyrchu?

Dewch i glywed gan fyfyrwyr a phobl ifanc sydd wedi gwirfoddoli gyda phartneriaethau Cymru Affrica, a gan sefydliadau sydd wedi croesawu gwirfoddolwyr, i glywed beth enillon nhw o’r profiad, a’u hawgrymiadau ar gyfer gwneud y gorau o’r cyfle. Bydd Hub Cymru Africa yn rhannu manylion am ein rhaglen wirfoddoli a sut y gallwch gymryd rhan.

Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r panel ac i gwrdd â sefydliadau sydd â diddordeb mewn croesawu gwirfoddolwyr ar ddiwedd y sesiwn.

Bydd y digwyddiad yn cael ei redeg gan Cathie Jackson, Cydlynydd Gwirfoddoli Hub Cymru Africa. Bydd gwirfoddolwyr blaenorol a sefydliadau sy’n lletya yn ymuno â hi i rannu eu profiadau.

Sesiwn cyflwyniadol 30-munud

Ystafell A

‘We cannot keep peace when there is no peace to keep’ meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, ym mis Awst. Mae adeiladu heddwch yn rhan hanfodol o undod byd-eang. Mae heddwch yn hanfodol er mwyn sicrhau cyfiawnder a datblygiad cynaliadwy. Bydd y sesiwn hon yn archwilio ystyr heddwch ac yn ystyried yr adnoddau a’r technegau sydd yn cael eu defnyddio i adeiladu heddwch, ac yn edrych ar sut y gall pob un ohonom gymryd rhan.

Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Jane Harries, Rheolwr Addysg Heddwch Cymru Global. Mae Jane, sydd wedi cael ei hysbrydoli gan ei chredoau Crynwrol (Quaker), wedi bod yn weithgar mewn gwaith i hyrwyddo heddwch a hawliau dynol ers nifer o flynyddoedd. Yn yr 1980au, ymunodd â grŵp o’r enw Women to Women for Peace, a oedd yn ceisio adeiladu pontydd rhwng pobl o wledydd â systemau gwleidyddol ac ideolegau gwahanol. Ers 2004, mae hi wedi bod yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau sy’n ymgyrchu dros heddwch yn Israel a Phalesteina. Mae Jane wedi bod yn gweithio gyda Cymru Global ers 2015.

Sesiwn cyflwyniadol 30-munud

Ystafell F

Mae trefedigaethu wedi llywio bywydau pob un ohonom, gan adael ei ôl ar wleidyddiaeth, economïau a chymdeithasau ar draws y byd. Mae’r sector datblygu rhyngwladol yn gweithio i fynd i’r afael ag etifeddiaethau trefedigaethol anghydraddoldeb, tlodi a dirywiad amgylcheddol. Yn rhy aml, fodd bynnag, mae sefydliadau datblygu rhyngwladol wedi cael eu harwain yn ddiarwybod gan ffyrdd trefedigaethol o feddwl, ac wedi ail-greu problemau’r gorffennol. Bydd y cyflwyniad hwn yn edrych ar rai o’r problemau yn y sector datblygu, yn hanesyddol a nawr,, ac yn ystyried sut y gallwn ni gyd chwarae rhan mewn dad-drefedigaethu datblygiad.

Bydd y sesiwn hon yn cael ei harwain gan Fadhili Maghiya. Mae Fadhili yn Gyfarwyddwr Panel Cynghori Is-Sahara, sef  rhwydwaith o gymunedau Affricanaidd yng Nghymru sydd yn  gweithio ym maes datblygu rhyngwladol ac ar draws ystod eang o weithgareddau yng Nghymru. Mae Fadhili yn Sylfaenydd ac yn Gyfarwyddwr Watch-Africa Cymru hefyd, sef: Gŵyl Ffilmiau Affricanaidd Cymru. Ers sefydlu’r ŵyl yn 2013, mae hi wedi tyfu i fod yn un o’r gwyliau mwyaf blaenllaw yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar sinema Affricanaidd.

Sesiwn cyflwyniadol 30-munud

The Lodge

Dewch draw i sesiwn flasu rygbi cadair olwyn, a rhowch gynnig ar y cadeiriau olwyn eich hun.

Galwch heibio i stondin Wales 5s Wheelchair Rugby Union yn y Ffair, a fydd yno  drwy’r dydd.. Dysgwch fwy am gysylltiad y Wheelchair Rugby Union gydag Uganda yn eu sesiwn am 4.10pm.

Y Plas

Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan arweinwyr Brodorol y Guaraní o Frasil am eu diwylliant, eu brwydr dros dir a choedwigoedd, a’u gobeithion ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae eu tiriogaethau wedi’u lleoli yng Nghoedwig yr Iwerydd, ecosystem o bwysigrwydd byd-eang sy’n gartref i tua 5% o fioamrywiaeth y byd. Fodd bynnag, dim ond 7% o’r goedwig sydd wedi goroesi’n gyfan. O dan bwysau colli tir ac amaethyddiaeth ddiwydiannol, gan gynnwys cynhyrchu soia, mae cymunedau’r Guaraní yn adennill eu tiroedd hynafol, yn adfer coedwigoedd ac yn amddiffyn eu hawliau a’u diwylliant. Mae’r pwysau hyn yn gysylltiedig â Chymru, lle mae soia wedi’i fewnforio yn cael ei ddefnyddio’n eang fel bwyd anifeiliaid, yn enwedig yn y diwydiant dofednod. Drwy weithio mewn partneriaeth â’r elusen Gymreig Maint Cymru, byddant yn trafod arweinyddiaeth frodorol, undod byd-eang, a sut y gellir adeiladu partneriaethau rhyngwladol teg.

Ganwyd Ju Kerexu (Juliana Kerexu Mirim Mariano) yn Nhiriogaeth Frodorol Ilha da Cotinga yn Paranaguá, a hi yw’r pennaeth benywaidd cyntaf yn y rhanbarth. Fel arweinydd cymuned Tekoa Takuaty, mae hi wedi gwasanaethu fel Cydlynydd Tenondé y Comissão Guarani Yvyrupa ers 2022. Mae hi’n athrawes Guaraní ac yn fardd, arweinydd ysbrydol, crefftwraig ac actores. Mae hi’n defnyddio ysbrydolrwydd a gwybodaeth ei hynafiaid i gefnogi a chryfhau ei chymuned. Fel arweinydd benywaidd blaenllaw, mae Ju Kerexu yn dod â menywod at ei gilydd drwy gyfarfodydd cenedlaethol, yn amddiffyn tiriogaethau’r Guaraní a biomau Pampa a  Choedwig yr Iwerydd, ac yn gweithio i sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol dyfu i fyny yn siarad yr iaith Guaraní a pharhau i fod yn gysylltiedig â’u hysbrydolrwydd, eu diwylliant a’u hymdrechion i amddiffyn eu bywyd a’u tir. Dan arweiniad doethineb y nhaneramõi (henuriaid y Guaraní), mae hi’n gweithio i gadw traddodiadau a gwybodaeth ei phobl yn fyw ac ar yr un pryd, yn helpu ei chymuned i ymateb i heriau’r byd modern. Mae ei harweinyddiaeth yn parhau i ysbrydoli nid yn unig ei chymuned ei hun ond hefyd, rhwydweithiau o fenywod Brodorol a chynghreiriaid ar draws Brasil a thu hwnt.

Ganwyd Vilma Verá Rios ym Mhentref Pirajuí, tiriogaeth frodorol a gydnabyddir yn swyddogol yn Paranhos (MS), lle treuliodd ei phlentyndod a’i harddegau cynnar dan ofal a gwyliadwriaeth barhaus ei rhieni i’w hamddiffyn rhag trais ar sail rhywedd. Pan oedd hi’n 16 oed, symudodd gyda’i theulu i Dir Brodorol Guasu Guavirá, ym Mhentref Yvy Okaju, Guaíra, Paraná, lle dechreuodd wynebu’r heriau sy’n deillio o fyw mewn tiriogaeth sy’n destun anghydfod. Yn 17 oed, gwnaeth ei datganiad cyhoeddus cyntaf am realiti pobl ifanc a menywod Brodorol, a dechrau ei thaith fel ymgyrchydd ymroddedig dros hawliau’r Avá-Guaraní. Yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei heiriolaeth gadarn, mae Vilma yn gweithio mewn fforymau cenedlaethol a rhyngwladol i dynnu sylw at y camweddau a’r hawliau sy’n cael eu torri yn erbyn ei phobl. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar effaith ehangu amaeth-fusnes, y defnydd o blaladdwyr, hiliaeth a thrais ar sail rhywedd, ac mae hi hefyd yn hyrwyddo cynrychiolaeth ac arweinyddiaeth menywod Brodorol. Ar hyn o bryd, mae hi’n athrawes yn ei mamiaith ac yn gydlynydd rhanbarthol i’r Comissão Guarani Yvyrupa.

Trafodaeth banel 50-munud

Y Plas

Bydd y drafodaeth hon yn cael ei chynnal yn Gymraeg, a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael i siaradwyr di-Gymraeg.

Beth yw dyfodol undod byd-eang mewn Cymru sydd yn polareiddio mwy a mwy? O ymgyrchoedd yn erbyn caethwasiaeth i ddod yn Genedl Masnach Deg, mae pobl Cymru wedi gweithredu ers amser maith i wneud y byd yn lle gwell. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gweithredu ar newid hinsawdd a darparu cefnogaeth i bobl mewn gwledydd incwm isel a chanolig wedi dod dan ymosodiad ar blatfformau ar-lein, ar y strydoedd ac yn y Senedd.

Bydd ein panelwyr yn trafod sut y gallwn ddod â phobl Cymru at ei gilydd mewn undod gyda’r byd ehangach, ac adeiladu mudiad wedi’i adnewyddu i ymateb i’r heriau sydd o’n blaenau.

  • Elen Jones, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Jenipher’s Coffi, cyn bennaeth Cymru Masnach Deg
  • Mari Tutesigensi, pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru
  • Yasmin Begum, ymgyrchydd, ymchwilydd ac awdur
  • Joseff Gnagbo (i’w gadarnhau), actifydd, athro, ieithydd a cherddor Cymreig a anwyd yn Côte d’Ivoire, a chyn-lywydd Cymdeithas yr Iaith
  • Dan gadeiryddiaeth Noam Devey.

Sesiwn manwl 50-munud

Ystafell A

Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn wedi’i anelu at bartneriaethau Cymru ac Affrica sy’n gweithio mewn ysgolion, ynghyd ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan a dysgu mwy. Bydd y gweithdy yn gyfle i rannu dysgu ac arferion da, meithrin cysylltiadau newydd, ac archwilio’r posibilrwydd o greu rhwydwaith i barhau i rannu profiadau.

Bydd y gweithdy yn cael ei arwain gan Amber Demetrius – Pennaeth Dysgu Byd-Eang, Cymru Global, a bydd yn canolbwyntio ar drafod cwestiynau pwysig:

  • Sut ydw i’n dechrau’r berthynas gydag ysgol, a sut ydw i’n sicrhau ei bod yn llwyddiannus?
  • Pa fath o waith y gallaf ei wneud gyda’r ysgol (a beth sy’n gweithio orau)?
  • Sut y gallaf integreiddio gyda nodau’r cwricwlwm?
  • Gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion mewn gwledydd Affricanaidd: beth yw’r heriau a’r cyfleoedd?
  • Ble gallaf rannu fy adnoddau a dod o hyd i adnoddau eraill?
  • Oes rhaglenni, dolenni neu rwydweithiau ar gael y gallaf ymuno â nhw?

Canlyniad y gweithdy fydd adnodd ymarferol sy’n crynhoi’r pethau a ddysgwyd o’r trafodaethau ac os bydd digon o ddiddordeb, bydd cyfle hefyd i greu rhwydwaith o ymarferwyr sydd â diddordeb mewn parhau i rannu profiadau, syniadau a’r pethau a ddysgwyd gyda’i gilydd.

Sesiwn manwl 50-munud

Ystafell C

Bydd y gweithdy yn archwilio sut yr oedd systemau arwahanu hiliol, rheoli tir, dadleoli, cyfyngiadau ar symud a goruchafiaeth wleidyddol yn gweithredu yn Ne Affrica o dan apartheid, a sut mae grwpiau hawliau dynol yn dod o hyd i strwythurau tebyg yn Israel/Palesteina. Bydd y gweithdy’n gwahodd cyfranogwyr i adnabod patrymau drostyn nhw eu hunain, ac i ystyried pa wersi y mae profiad De Affrica yn eu cynnig ar gyfer deall Palesteina heddiw. Bydd hefyd yn ystyried rôl BDS (Boicotio, Dadfuddsoddi a Sancsiynau) wrth hyrwyddo heddwch, a beth y dylem ei wneud i adeiladu undod rhyngwladol.

Bydd y sesiwn hon yn cael ei harwain gan Zahid Noor, Cydlynydd Dros Dro, PSC Cymru (Palestine Solidarity Campaign).

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn ymweld â stondin Tŷ Filasteen yn y Ffair. Wedi’i leoli yn y Mwmbwls ger Abertawe, mae Tŷ Filasteen wedi datblygu’n fan lle gellir dod ar draws diwylliant, hanes a chreadigrwydd Palesteina drwy waith crefftwyr, awduron, ffermwyr, artistiaid a gwneuthurwyr Palesteinaidd. Yn fwy na siop, mae’n ofod diwylliannol sy’n ceisio adeiladu perthnasoedd parhaol rhwng Cymru a Phalesteina trwy gyfrwng treftadaeth, addysg a chymuned. Cymerwch ychydig o amser allan o raglen brysur y Ffair i roi cynnig ar tatreez.

Sesiwn cyflwyniadol 30-munud

Ystafell F

Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn eich cyflwyno i gyfiawnder hinsawdd byd-eang a’i phrif themâu a materion. Ydy pawb yn profi anghyfiawnder hinsawdd yn yr un ffordd? Pa rôl mae ein hanes yn ei chwarae mewn llunio ein cyfrifoldebau heddiw? Pwy sy’n eiriol ar ran y rhai sydd heb eu geni eto ond a fydd yn gorfod byw gyda chanlyniadau ein gweithredoedd?

Mae Cyfiawnder Hinsawdd Byd-eang Cymru yn glymblaid o sefydliadau, grwpiau llawr gwlad ac unigolion sydd yn gweithio gyda’i gilydd i osod cyfiawnder hinsawdd a thegwch wrth galon gweithredu ar yr hinsawdd, yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.

Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Michaela Rohmann, Cydlynydd Gwirfoddoli, Cymru Global.

Sesiwn manwl 50-munud

Ystafell G

Mae’r G20 yn dwyn ynghyd 19 o economïau mwyaf y byd a dau gorff rhyngwladol mawr, sef yr Undeb Ewropeaidd a’r Undeb Affricanaidd. Gyda’i gilydd, mae’r grŵp hwn yn cynrychioli 85% o GDP y byd, 75% o fasnach ryngwladol, a dwy ran o dair o boblogaeth y byd.

Fel Llywydd y G20 yn 2027, bydd y Deyrnas Unedig mewn sefyllfa i ddylanwadu ar y ddadl, a phwyso am ddod i gytundeb ar ryddhau o ddyled, gweithredu ar newid hinsawdd ac economi fyd-eang sy’n gweithio i bawb.

Yn y sesiwn hon, bydd Gideon Rabinowitz, Cyfarwyddwr Polisi ac Eiriolaeth yn Bond, yn sôn am bwysigrwydd llywyddiaeth y DU o’r G20, y newidiadau polisi sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth, a sut y gall grwpiau ac unigolion yng Nghymru ymuno yn yr ymgyrch i annog Llywodraeth y DU i weithredu.

Mae Gideon wedi gweithio ar draws sector datblygu rhyngwladol y DU mewn amrywiaeth o rolau polisi, eiriolaeth ac ymchwil, gan ganolbwyntio ar fasnach, cymorth rhyngwladol y DU, cyllid datblygu, a materion datblygiad cymdeithasol ac economaidd. Mae wedi gweithio nifer o swyddi uwch, gan gynnwys gydag Oxfam GB, ODI ac Agulhas Applied Knowledge. Mae hefyd wedi gweithio gyda UK Aid Network a CUTS International.

Sesiwn cyflwyniadol 30-munud

Ystafell E

Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gall Cymru gefnogi mudwyr LHDTC+ sydd mewn perygl o gael eu herlid, a chryfhau ei rôl fel Cenedl Noddfa. Bydd siaradwr o Glitter Cymru yn rhannu eu profiadau wrth i’r sesiwn archwilio’r heriau y mae mudwyr LHTDC+ yn eu hwynebu wrth geisio diogelwch, cefnogaeth ac ymdeimlad o berthyn. Bydd hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymuned, undod ac at greu amgylchedd croesawgar a chefnogol wrth greu Cymru lle mae pobl LHDTC+ sy’n ceisio noddfa yn teimlo eu bod yn cael croeso, cefnogaeth, a’r cyfle i ailadeiladu eu bywydau.

Sesiwn cyflwyniadol 30-munud

Ystafell G

Beth yw cyfiawnder rhywedd? Pa brofiadau sy’n dangos y pwysigrwydd o ystyried rhywedd ym maes datblygiad rhyngwladol? Mae’r sesiwn hon yn gyfle i archwilio materion rhywedd a datblygu yn fwy manwl, gofyn cwestiynau i siaradwyr arbenigol, a chlywed am Gymuned Ymarfer Rhywedd boblogaidd Hub Cymru Africa, sef gofod i rannu profiadau ac arbenigedd, ac i ddysgu a datblygu gyda’n gilydd.

Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Jalia Packwood a Sarra Ibrahim, Rheolwyr Cymorth Datblygu, Hub Cymru Africa.

Sesiwn manwl 50-munud

Ystafell A

Bydd y sesiwn ryngweithiol hon gydag Amnesty International yn eich cyflwyno i hanfodion trefnu myfyrwyr, o ddod o hyd i bobl o’r un anian ac adeiladu mudiad, i weithredu mewn ffyrdd sy’n arwain at newid go iawn. Galwch heibio, dewch i gwrdd ag ymgyrchwyr eraill, ac archwiliwch sut y gallwch greu newid ar eich campws.

Hannah Stokes yw Uwch Drefnydd Cymunedol – Ieuenctid a Myfyrwyr Amnesty International UK.

Sesiwn manwl 50-munud

Ystafell E

Bydd y sesiwn hon yn Gymraeg. Bydd sesiwn yn cael ei chynnal yn Saesneg am 12:10pm.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei arwain gan Chloe Tuck, Rheolwr Adrodd Straeon Climate Cymru. 

Pan fo’r byd yn teimlo ar wahân a diffyg ymddiriedaeth, mae’n demtasiwn i wthio’n galetach, i ddadlu, perswadio, neu alw allan. Dyw newid ddim bob amser yn dechrau gyda phwysau; gall ddechrau gyda chysylltiad.

Mae Pecyn Dychmygwch Weithredu yn gasgliad o 10 adnodd syml, ymarferol i’ch helpu i gyfathrebu’n ofalus, adrodd straeon cyffrous, ac ysbrydoli gweithredu yn eich cymuned.

Maent yn gyflym i’w dysgu ac yn hawdd i’w defnyddio; p’un a ydych chi’n rhoi cyflwyniad, yn cynnal digwyddiad, yn ysgrifennu datganiad i’r wasg, neu jyst yn cael sgwrs.

Nid oes angen unrhyw brofiad mewn cyfathrebu na chefndir mewn gwaith hinsawdd arnoch. P’un a ydych chi’n ymgyrchydd, addysgwr, artist, arweinydd ffydd, neu’n aelod gweithredol o’ch cymuned, mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau siarad am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw gyda mwy o hyder ac effaith.

Wedi’i gynllunio i’ch helpu i gyfleu’r hyn sy’n bwysig gyda mwy o effaith, a chysylltu â mudiad ehangach sy’n gweithio tuag at yr un nod: llunio dyfodol i Gymru sy’n cynnwys pawb.

Trafodaeth banel 50-munud

Ystafell C

Beth yw rôl Partneriaethau Iechyd Byd-eang wrth i gyllidebau cymorth gael eu torri? 

A allai partneriaethau sy’n cynnig buddion clir i bawb a chyfleoedd i ddysgu oddi wrth ei gilydd ddod yn fwy deniadol i lywodraethau gwledydd cyfoethog wrth i gyllid fynd yn fwy prin? Sut y gall Cymru gydnabod a rhoi rhywbeth yn ôl am y sgiliau a’r arbenigedd y mae gweithwyr iechyd o’r diaspora yn eu cyfrannu at ein GIG? Beth yw rôl ymarferwyr iechyd o Gymru, a pha fath o gefnogaeth sydd ei hangen arnom gan Lywodraeth Cymru?

Bydd y drafodaeth banel hon yn archwilio’r cwestiynau hyn a mwy.

Mae aelodau o’r panel yn cynnwys:

  • Israa Mohammed, Cadeirydd Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru
  • Ben Simms, Prif Weithredwr, Global Health Partnerships (UK)
  • Jane Hutt, Vale for Africa, cyn Aelod o’r Senedd a chyn Weinidog Llywodraeth Cymru
  • Safa Elhassan AS (i’w gadarnhau), ymgynghorydd offthalmoleg ac Aelod o’r Senedd dros Gŵyr Abertawe.

Sesiwn cyflwyniadol 30-munud

Ystafell F

Ymunwch â Paul Lindoewood o #SOS a Justin Griffiths o Wales 5s Wheelchair Rugby Union  i gymryd rhan mewn sgwrs ysbrydoledig am ddatblygiad sy’n cynnwys pobl anabl ac undod rhyngwladol. Bydd Justin yn rhannu mewnwelediadau o’i daith ddiweddar i Uganda, ac yn archwilio sut y gall chwaraeon, gweithio mewn partneriaeth a chynhwysiant herio canfyddiadau, chwalu rhwystrau a chreu cyfleoedd i bobl anabl yng Nghymru ac Affrica.

Galwch heibio stondinau #SOS a’r Wheelchair Rugby Union yn y Ffair, neu rhowch gynnig ar rygbi cadair olwyn eich hun am 1.10pm yn y Lodge.

Cofrestrwch am ddim yma!