Mae’n bleser gan Hub Cymru Africa gyflwyno’r panel cyffrous hwn, sy’n cynnwys menywod rhyngwladol ysbrydoledig sy’n gweithio mewn undod byd-eang i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mewn partneriaeth â Maint Cymru.
Bydd y digwyddiad arbennig hwn yn dwyn ynghyd ein partneriaid byd-eang yn Uganda ac mewn cymunedau diaspora ar draws Cymru, i ddathlu cyflawniadau menywod ac i drafod cydraddoldeb rhywedd ar raddfa ryngwladol.
Yn dilyn y drafodaeth, bydd cyfle i rwydweithio dros wydraid o win gyda menywod o bob rhan o Gymru sy’n mynd ati i siapio rôl ein cenedl fel gwlad sy’n wirioneddol gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Dan arweiniad Claire O’Shea, pennaeth Hub Cymru Africa, byddwn yn croesawu siaradwyr o Gymru ac Affrica.
Yn arweinydd uchel ei pharch gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn gofal cymdeithasol, iechyd, tai a datblygu rhyngwladol. Hi oedd y Prif Swyddog Gweithredol a sefydlodd Bawso, ac mae hi wedi gweithio mewn nifer o rolau arweinyddiaeth sylweddol, gan gynnwys gwasanaethu ar Fwrdd Llywodraeth Cymru fel cyfarwyddwr anweithredol ac fel cyn gyd-gadeirydd Panel Cynghori Is-Sahara.
Yn arweinydd ac ymgyrchydd cymdeithas sifil profiadol, wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, symudodd Claire i Gymru yn 2001 i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers hynny, mae hi wedi gweithio i sefydliadau proffil uchel yn y trydydd sector ac i sefydliadau aelodaeth, gan gyfrannu at newid go iawn yn y byd ar addysg, iechyd, unigrwydd, cynhwysiant a chyfiawnder byd-eang. Ymunodd Claire â Hub Cymru Africa fel Pennaeth yn 2019.
Yn arweinydd cymunedol lleol ysbrydoledig ym Mbale, Uganda, mae Deborah yn cymryd rhan yn Rhaglen Tyfu Coed Mbale. Mae Deborah yn aelod o Grŵp Menywod Bumaena hefyd, sy’n rheoli meithrinfa goed y gymuned leol. Mae hi hefyd yn hyrwyddwr rhywedd, ac yn hyrwyddo hawliau menywod ar draws y gymuned.
Mae Hellen yn cynrychioli Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE), partner cyflawni allweddol ar gyfer Maint Cymru a Rhaglen Tyfu Coed Mbale. Mae Hellen yn aelod allweddol o’r tîm, ac yn goruchwylio gweithredu’r rhaglen ac yn arwain rheolaeth ariannol METGE.
Barbara yw Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru. Ymunodd â Maint Cymru fel Pennaeth Rhaglenni ym mis Ionawr 2020, ac mae hi’n gyfrifol am oruchwylio prosiectau coedwigoedd a gwaith polisi. Mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y corff anllywodraethol datblygu rhyngwladol, CAFOD, lle bu’n Gynrychiolydd Gwlad yr Andes, yn rheoli rhaglenni i hyrwyddo hawliau dynol, diogelu’r amgylchedd a mynd i’r afael â newid hinsawdd.