Adrodd straeon Affricanaidd mewn ffordd foesegol
Mae’r sesiwn ymarferol a rhyngweithiol hon yn cael ei harwain gan Lerato Mogoatlhe, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata Digidol yn Africa No Filter.
Mae pawb yn gwybod bod y ffordd rydym yn cyfathrebu am ein gwaith yn bwysig. Rydyn ni eisiau sicrhau bod y straeon rydym yn eu hadrodd yn foesegol, ac osgoi stereoteipiau dinistriol sy’n canolbwyntio ar Affrica sydd ar chwâl, gyda’i phobl heb reolaeth ac yn dibynnu ar bobl o’r tu allan.
Mae’r weminar hon yn ein tywys trwy arweiniad ymarferol i’n helpu i symud yn ymwybodol oddi wrth y naratifau hyn, ac i geisio cyflawni’r canlynol:
Bydd y digwyddiad hwn yn helpu partneriaethau Cymru ac Affrica i adlewyrchu ar y ffordd maen nhw’n cyfathrebu am yr hyn maen nhw’n gwneud, a pham bod hyn yn bwysig.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynnig lle i ddysgu, myfyrio a thrafod, ac yn creu cyfleoedd i barhau i symud ac i newid y ffordd rydym yn deall ac yn siarad am ein gwaith.
Mae Lerato yn berson proffesiynol sy’n gweithio ym maes y cyfryngau. Mae hi wedi bod yn gweithio mewn amryw o rolau mewn cyhoeddiadau blaenllaw yn Ne Affrica am fwy na deng mlynedd.. Mae hi hefyd wedi gweithio mewn asiantaethau digidol gyda phortffolio o gwsmeriaid a oedd yn cynnwys Facebook, Google a Girl Effect Mobile. Hi yw awdur yr hunangofiant teithio Vagabond: wandering through Africa on faith, sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth.