EN

Sut ydym yn trosglwyddo’r pŵer i bartneriaid Affricanaidd?

Straeon am newid i greu partneriaethau cynaliadwy ac effeithiol.

Digwyddiad Dysgu ar y Cyd Digwyddiad ar-lein Zoom Cofrestru

Mae Hub Cymru Africa yn cefnogi sefydliadau ar draws y sector undod byd-eang i adeiladu partneriaethau teg a chynaliadwy sy’n seiliedig ar egwyddorion gwrth-hiliaeth ac arweinyddiaeth leol. Mae hyn yn golygu gwerthfawrogi a blaenoriaethu arbenigedd, gwybodaeth ac arweinyddiaeth partneriaid lleol, yn ogystal â chynyddu amrywiaeth byrddau, staff a gwirfoddolwyr er mwyn hyrwyddo prosesau gwneud penderfyniadau mwy cynhwysol a chytbwys.

Dewch i ymuno â ni i gymryd rhan mewn digwyddiad dysgu ar y cyd, i archwilio beth mae’n ei olygu i drosglwyddo’r pŵer o  wneud penderfyniadau i bartneriaid lleol, a sut y gall sefydliadau symud o fodelau datblygu rhyngwladol traddodiadol at weithgareddau o dan arweinyddiaeth pobl leol.

Byddwn yn clywed gan ddau sefydliad sydd ar wahanol gamau o’r daith hon:

Mae Money for Madagascar, a sefydlwyd yng Nghymru ym 1986 i gefnogi mentrau gan bobl Madagascar i leihau tlodi ac i amddiffyn yr amgylchedd,  wedi newid yn sylweddol o fod yn cael ei redeg yn bennaf o’r DU i fod yn un sefydliad rhyngwladol cysylltiedig sy’n cael ei arwain gan bobl Madagascar, ac sydd wedi’i gofrestru’n swyddogol ym Madagascar yn ogystal ag yn y DU.

Mae Dolen Cymru Lesotho, a sefydlwyd ym 1985 i feithrin cysylltiadau rhwng Cymru a Lesotho ar sail dealltwriaeth a pharch at ei gilydd, yn gweithio tuag at sicrhau arweinyddiaeth fwy cyfartal a chynrychiolaeth gryfach yn y wlad.

Drwy eu profiadau, bydd ein siaradwyr yn archwilio cwestiynau sy’n cynnwys y canlynol:

  • Pam fod partneriaethau dan arweiniad pobl leol yn fwy cynaliadwy, a beth allai fod y camau cyntaf i greu partneriaethau cynaliadwy?
  • Sut mae trosglwyddo pŵer yn edrych yn ymarferol?
  • Sut mae rhoi mwy o arweinyddiaeth i bartneriaid lleol yn effeithio ar y ffordd y mae sefydliad yn cael ei redeg, ei reoli a’i strwythuro?
  • Pa ystyriaethau cyfreithiol ac ymarferol sy’n codi yn ystod y cyfnod pontio hwn?
  • Sut mae gwahaniaethau diwylliannol, arferion sefydliadol a rhwystrau mewnol yn dylanwadu ar y broses, a beth sy’n helpu i’w goresgyn?
  • Beth yw rôl cyllidwyr mewn cefnogi arweinyddiaeth leol a hunangynhaliaeth?
  • Pa opsiynau cynghori sydd ar gael, a sut y gellid ehangu’r cymorth i sefydliadau sy’n ystyried trosglwyddo pŵer?

Bydd y sesiwn hon yn drafodaeth agored a gonest am y cyfleoedd, yr heriau a’r penderfyniadau cymhleth sy’n gysylltiedig â rhannu pŵer yn fwy cyfartal. Byddwn yn archwilio’r cydbwysedd parhaus rhwng uchelgais a realiti, yn ogystal â’r disgwyliadau a’r systemau gwahanol  mae sefydliadau’n eu hwynebu. Gyda’n gilydd, byddwn yn ystyried beth sydd ei angen i adeiladu partneriaethau sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, tryloywder, dealltwriaeth ar y cyd a chyfathrebu agored, a pham fod yr egwyddorion hyn yn hanfodol er mwyn creu ffyrdd mwy cyfartal, gwrth-hiliol a chynaliadwy o weithio.

P’un a yw eich sefydliad ond yn dechrau archwilio ffyrdd o weithio dan arweiniad pobl leol neu eisoes yn mynd drwy’r cyfnod pontio hwn, mae’r sesiwn hon yn gyfle gwerthfawr i ddysgu gan eraill, rhannu profiadau, gofyn cwestiynau ac i fyfyrio ar eich taith eich hun tuag at greu partneriaethau undod byd-eang mwy teg a chyfartal.

Siaradwyr

Lova Rasoalinoro

Prif Swyddog Gweithredol – Money for Madagascar

Mae Lova Rasoalinoro yn ymarferydd datblygu o Madagascar, sy’n byw ac yn gweithio ym Madagascar ar hyn o bryd. Mae hi’n gwasanaethu fel Prif Swyddog Gweithredol Money for Madagascar, sefydliad sydd yn ddiweddar wedi adleoli ei bencadlys o’r DU i Madagascar fel rhan o ymdrech ehangach i wreiddio prosesau gwneud penderfyniadau, atebolrwydd ac arweinyddiaeth yn y wlad ei hun.  Mae hi’n defnyddio ei phrofiad bywyd a’i harbenigedd proffesiynol, ac yn myfyrio ar sut mae gwaith datblygu byd-eang yn newid pan mae’n cael ei gyfyngu gan wirioneddau, perthnasoedd a lleisiau lleol.

Felicity Jones

Cyn Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Money for Madagascar

Mae Felicity wedi bod yn gweithio am fwy na 30 mlynedd gydag ymrwymiad proffesiynol a phersonol i ddarganfod, siapio a rhannu datrysiadau i gefnogi newid cadarnhaol a theg. Drwy weithio mewn uwch swyddi mewn sefydliadau sy’n cynnwys Ysgol Economeg Llundain  a’r corff anllywodraethol Affricanaidd mothers2mothers, ac yn awr fel ymgynghorydd annibynnol, mae hi wedi helpu i ddatblygu ffyrdd o sicrhau bod adnoddau a phenderfyniadau yn cael eu harwain gan y bobl a’r cymunedau sy’n dychmygu ac yn cyflwyno  newid. Daeth yn Gadeirydd  Money for Madagascar yn 2022, a  bu’n gweithio’n agos gyda Lova Rasoalinoro i gefnogi’r newidiadau llywodraethu, gweithredol a diwylliannol, i wireddu’r nod strategol o ddod yn sefydliad sydd yn cael ei arwain gan bobl Madagascar a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Joanna M. Jonas (Adv.)

Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Dolen Cymru Lesotho

Mae Joanna wedi bod yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Dolen Cymru Lesotho ers mis Tachwedd 2024, a hi ydy’r Mosotho cyntaf i ddal y rôl. Er ei bod hi wedi gorfod cymryd saib o’r Bwrdd i ddilyn diddordebau academaidd eraill, mae Joanna’n edrych ymlaen at ddychwelyd ym mis Medi i gyfrannu ei gwybodaeth a’i sgiliau, tra’n parhau i ddysgu a datblygu o fewn arweinyddiaeth yr elusen. Ar lefel broffesiynol, mae gan Joanna radd Baglor yn y Gyfraith ac ar hyn o bryd, mae hi’n astudio ar gyfer ei gradd Meistr yn y Gyfraith. Mae ganddi brofiad helaeth yn y meysydd ymarfer cyfreithiol, llywodraethu a datblygu sefydliadol.

Catherine Moulogo

Cyfarwyddwr Gweithredol,  Dolen Cymru Lesotho

Fel Cyfarwyddwr Gweithredol Dolen Cymru Lesotho, mae Cath yn arweinydd sydd yn cael ei harwain gan werthoedd ac sy’n cefnogi partneriaethau rhwng Cymru a Lesotho ym maes Iechyd ac Addysg. Mae hi wedi bod yn gweithio yn y maes datblygu cymunedol am fwy na 17 mlynedd, wedi helpu i lunio polisi’r sector, hyrwyddo tegwch a chynhwysiant, ac wedi cefnogi nifer fawr o elusennau i gryfhau eu gwaith o gysylltu Cymru ac Affrica.