Mae Cymdeithasau Cynilo a Benthyciadau mewn Pentrefi (VSLA) yn un o’r modelau llawr gwlad mwyaf effeithiol mewn perthynas â chynhwysiant ariannol a lleihau tlodi mewn cymunedau a ymyleiddiwyd.
Ymunwch â’r sesiwn dysgu ysbrydoledig ac addysgol hon i glywed gan arbenigwyr yn y maes, a straeon o lwyddiant.
Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal ar rolau rhywedd mewn cynlluniau Cymdeithasau Cynilo a Benthyciadau mewn Pentrefi ac ar ddulliau arloesol at gynhwysiant ariannol. Mae’r digwyddiad yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn undod byd-eang. Bydd yn gyfle i ddysgu, cysylltu, a bod yn rhan o fudiad dros newid, sy’n tyfu.
Mewn ardaloedd gwledig yn Affrica, mae bancio ffurfiol yn parhau i fod yn her oherwydd amseroedd teithio hir i gyfleusterau, trafnidiaeth anhygyrch / dim ar gael, neu lle mae’r gymuned wedi’i hamddifadu; mae cynlluniau Cymdeithasau Cynilo a Benthyciadau mewn Pentrefi, fodd bynnag, yn trawsnewid bywydau. Maen nhw’n wasanaethau ariannol cymunedol, sy’n berchen i aelodau, sy’n caniatáu i unigolion, yn enwedig menywod ac aelwydydd bregus, gynilo, cael credyd, a buddsoddi mewn busnesau bach. Maen nhw’n agor cyfleoedd lle nad oes llawer ohonynt, neu dim, ar gael.
Mae Dr Nyagah yn gweithio fel Cydlynydd Rhaglenni fel rhan o Raglen Fenter Fursa yn Kenya, sy’n hyrwyddo datblygiad cynhwysol ymhlith yr anabl. Mae ganddi brofiad o weithio ym meysydd anabledd cymunedol a VSLA cynhwysol, mewn hyrwyddo cymunedau a ymyleiddiwyd trwy fywoliaethau cynaliadwy a hefyd, mewn meithrin gallu a chynhwysiant cymdeithasol.
Zebbie Nengholya yw Cydlynydd Bywoliaeth, PONT ym Mbale, Uganda. Yn ei rôl, mae hi’n cefnogi ac yn mentora cyrff anllywodraethol lleol sy’n rhedeg prosiectau rhoi geifr a phrosiectau hunangymorth. Mae gan Zebbie arbenigedd ymarferol mewn rhaglenni bywoliaeth llawr gwlad, a bydd yn rhannu ymwybyddiaeth ar sut mae dulliau VSLA wedi’u teilwra’n lleol yn adeiladu ymddiriedaeth, gwytnwch ac effaith barhaol.
Mae Judith Richards yn athrawes, codwr arian, ac wedi bod yn cefnogi gwaith PONT ym Mbale, Uganda ers amser maith. Mae Judith wedi bod yn ymweld ag Uganda ac yn gweithio gyda chymunedau lleol am flynyddoedd lawer, ac mae hi’n cynnig straeon bywyd go iawn a mewnwelediadau mewn perthynas â sut y gall gweithio mewn partneriaeth a gweithredu ar lawr gwlad, er enghraifft, trwy gyfrwng cynlluniau Cymdeithasau Cynilo a Benthyciadau mewn Pentrefi, newid bywydau pobl.
Arbenigwr datblygu cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus arbenigol, gyda mwy nag wyth mlynedd o brofiad yn arwain prosiectau cryfhau cartrefi ar lefel economaidd yn Affrica. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Rheolwr Cymorth Datblygu yn Hub Cymru Africa. Mae’n arbenigo mewn cynlluniau Cymdeithasau Cynilo a Benthyciadau mewn Pentrefi, bywoliaethau cynaliadwy, a rhaglenni cynhwysol. Mae ei ymwybyddiaeth yn cynnig strategaethau ymarferol, seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer adeiladu gwytnwch cymunedol.