EN

Digwyddiadau i ddod

The ZimVoices Choir performing at an event in the Welsh Parliament.

Cymru, Affrica a Menywod

Dathliad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod Digwyddiad mewn person Y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd, CF10 3AP

Rydym yn falch i gyhoeddi noson o ddathlu ac yn cydnabod menywod fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda pherfformiadau, stondinau, bwyd Affricanaidd, diodydd, rhwydweithio a mwy. Byddwn hefyd yn cofio cyn-Brif Swyddog Hub Cymru Africa, Claire O’Shea, arweinydd cymdeithas sifil brwd ac ymgyrchydd dros gyfiawnder i fenywod.

Gweld y Digwyddiad
Safeguarding Surgery by Hub Cymru Africa

Diogelu Hanfodol

Digwyddiad ar-lein Zoom

Bydd yr hyfforddiant hwn yn tywys cyfranogwyr drwy'r arferion a'r gofynion diogelu hanfodol ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio mewn undod byd-eang â phartneriaid yn Affrica.

Gweld y Digwyddiad

Eiriol dros eich elusen

Rhannu 10 blaenoriaeth y sector Cymru ac Affrica ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru Polisi ac Ymgyrchoedd GweminarDigwyddiad ar-lein Zoom

Dewch i ymuno â ni i gymryd rhan mewn trafodaeth glir ac ysbrydoledig am sut y gall eich llais, fel ymddiriedolwyr, sylfaenwyr a gwirfoddolwyr, helpu i greu Cymru sy'n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod Llywodraeth nesaf Cymru yn cefnogi eich partneriaethau i barhau i ffynnu am flynyddoedd i ddod.

Gweld y Digwyddiad

Aros yn ddiogel ac yn hyderus yn ystod cyfnod etholiad y Senedd

Beth sydd angen i elusennau undod byd-eang bychain, partneriaethau iechyd, ac ymgyrchwyr Masnach Deg ei wybod Polisi ac Ymgyrchoedd GweminarDigwyddiad ar-lein Zoom

Dewch i ymuno â Hub Cymru Africa i gymryd rhan mewn gweminar ymarferol, cyfeillgar, awr o hyd gyda Chomisiwn Etholiadol Cymru. Byddwn yn egluro'r prif reolau sy'n berthnasol i elusennau yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, gydag esboniadau syml ac enghreifftiau o'r byd go iawn sy'n berthnasol i sefydliadau bychain, dan arweiniad gwirfoddolwyr, sy'n gweithio ar brosiectau undod byd-eang.

Gweld y Digwyddiad
Safeguarding Surgery by Hub Cymru Africa

Hyfforddiant Diogelu i swyddogion diogelu ac ymddiriedolwyr

Digwyddiad ar-lein Zoom

Mae hwn yn hyfforddiant gorfodol ar gyfer swyddogion diogelu sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru ac Affrica, sy’n cynnwys swyddogion diogelu partneriaid yn Affrica.

Gweld y Digwyddiad

Digwyddiadau'r Gorffennol

Wedi colli un o’n digwyddiadau? Dim problem! Porwch drwy ein harchif, a dal i fyny ar yr eiliadau cyffrous, sgyrsiau mewnweledol, a gweithgareddau difyr o’n digwyddiadau blaenorol.

Digwyddiadau'r Gorffennol