Beth sydd angen i elusennau undod byd-eang bychain, partneriaethau iechyd, ac ymgyrchwyr Masnach Deg ei wybod
Mae rhedeg elusen fechan yn aml yn golygu ceisio jyglo llawer o gyfrifoldebau, ac mae bod yn ymwybodol o reolau elusennau a chyfreithiau etholiadol yn gallu teimlo’n frawychus, yn enwedig yn ystod blwyddyn etholiad. Os ydych chi erioed wedi meddwl sut i rannu eich safbwyntiau gwleidyddol personol heb groesi llinellau cyfreithiol, sut y gall eich elusen siarad am etholiadau yng Nghymru, neu beth mae’r cyfnod cyn etholiad yn golygu i’ch gwaith, yna mae’r sesiwn hon yn berffaith i chi.
Dewch i ymuno â Hub Cymru Africa i gymryd rhan mewn gweminar ymarferol, cyfeillgar, awr o hyd gyda Chomisiwn Etholiadol Cymru. Byddwn yn egluro’r prif reolau sy’n berthnasol i elusennau yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, gydag esboniadau syml ac enghreifftiau o’r byd go iawn sy’n berthnasol i sefydliadau bychain, dan arweiniad gwirfoddolwyr, sy’n gweithio ar brosiectau undod byd-eang.
Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu’r canlynol:
Byddwn yn gorffen gyda thrafodaeth fer am beth mae’r canllawiau hyn yn ei olygu mewn ymarfer i elusennau bychain fel eich un chi, yn enwedig y rhai heb staff cyflogedig, sy’n dymuno parhau i fod yn gydwybodol ac ar yr un pryd, parhau i eiriol dros eu cymunedau a’u partneriaid.
Siaradwyr:
Mae’r weminar ar-lein hon yn gysylltiedig hefyd gyda digwyddiad sydd yn cael ei gynnal ar 20 Mawrth 2025 am 10am, lle byddwn yn archwilio 10 peth y mae sector undod byd-eang Cymru yn eu hargymell i Lywodraeth nesaf Cymru er mwyn i Gymru adeiladu dyfodol gwell.