Mewn cyfweliad eang ei gwmpas ar y podlediad Cymru, Affrica a’r Byd, mae Carwyn Jones, cyn Brif Weinidog Cymru o 2009 i 2018, wedi dweud y canlynol:
Fe wnaeth y cyfweliad drafod pynciau yn amrywio o darddiad Rhaglen Cymru ac Affrica, esgyniad y de eithaf, gwaith a gwerth am arian y rhaglen, a’i obaith am ddyfodol y sector.
O ran pwysigrwydd y rhaglen a pham y dylid ei chynnal ar adeg pan fod cyllidebau’n cael eu gwasgu, a phan fod llawer o flaenoriaethau domestig yn denu sylw yng Nghymru, meddai:
“Hyd yn oed petasech yn tynnu’r holl arian hwnnw i ffwrdd a’i roi mewn i iechyd ac addysg, byddai’r effaith yn gymharol finimol oherwydd bod y cyllidebau mor fawr.
”Mae’n swm bach o arian yn nhermau’r llywodraeth, o ystyried bod y gyllideb yn filoedd o filiynau. Dwi’n credu bod hon yn enghraifft o sut mae Cymru, mewn ffordd fechan, yn dylanwadu’n gadarnhaol ar y byd ac yn gallu dweud, edrychwch, rydym yn cydnabod ein bod ni gyd yn bodoli ar y blaned hon gyda’n gilydd, ac rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu.”
Wrth i’r cyfweliad droi at y sector ehangach, rydym wedi gweld Gweinyddiaeth Trump yn yr UD yn dileu USAID, ac ym mis Chwefror eleni, fe wnaeth y Prif Weinidog Keir Starmer bron haneru’r gyllideb cymorth dramor, yn sgil toriad sylweddol arni yn 2019 gan y Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson. O ran y toriad diweddaraf hwn gan Lywodraeth Lafur y DU, dywedodd Jones:
“Wel, dwi’n gresynu at y toriad a wnaed.”
Ond rhybuddiodd yn erbyn mynd lawr y llwybr hwn, gan ddadlau nad yw’r wlad wedi “troi’n ddidostur yn sydyn dros nos” ac mae hi’n dal i fod yn awyddus i helpu’r rhai sydd mewn angen. Rhybuddiodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd yn erbyn caniatáu i leiafrif huawdl “lywio polisi’r llywodraeth”.
Yn wir, roedd y dadleuon a ddefnyddiwyd ar gyfer torri cymorth tramor yn gynharach eleni ar sail rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch cenedlaethol, a dadleuodd Jones ei fod yn wrthgynhyrchiol a bod cymorth:
“Heb os nac oni bai, yn bositif yn nhermau diogelwch.”
Yn ogystal, dywedodd y gellid defnyddio’r cymorth hwn fel adnodd i ddelio â materion yn ymwneud â mudo, a’r llwybrau peryglus y mae pobl yn eu cymryd i geisio diogelwch a ffyniant yng Nghymru a’r DU.
“Buaswn yn dadlau mai cymorth tramor ydy’r ffordd orau o ddelio â mudo.
“Os gallwch ddarparu cyfleoedd i bobl, diogelwch yn y gwledydd lle maen nhw’n byw, maen nhw’n llai tebygol o ddod yn fudwyr.”
Gyda phleidlais y Senedd yn agosáu’r flwyddyn nesaf, a’r posibilrwydd o weinyddiaeth newydd yn arwain Llywodraeth Cymru ar y gorwel, cyflwynodd Jones ei gefnogaeth i’r Rhaglen Cymru ac Affrica i barhau.
“Mae’n swm bach o arian. Mae’n darparu llawer mwy na’r swm gwirioneddol o arian sy’n cael ei gyfrannu. Dwi wedi gweld y gwahaniaeth mae’n ei wneud i fywydau pobl.
“Os ydym o ddifrif am newid hinsawdd, rydym o ddifrif am weithredu rhaglenni sy’n mynd i helpu pobl sydd yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd, ac mae hynny’n wir yn Affrica fel y mae yng Nghymru.”
Wrth orffen y ddadl, edrychodd y cyfweliad tuag at y tymor hir, ac ynghylch gobeithion Jones ar gyfer y dyfodol a threftadaeth Rhaglen Cymru ac Affrica. Cynigiodd ei gefnogaeth, ac roedd yn gobeithio y byddai’n parhau:
“Felly, dwi’n meddwl [fy mod i eisiau gweld] estyniad ac ehangiad ar yr hyn rydym yn ei weld yn barod, pobl yn gallu cael bywoliaeth na fuasen nhw’n ei chael fel arall oni bai am raglen Cymru ac Affrica.”
Nodiadau i olygyddion
Cafodd y podlediad hwn ei recordio ar ddydd Gwener 16 Gorffennaf 2025 yn Hayman Media yng Nghasnewydd.
Gallwch wrando ar y bennod hon yma: https://hubcymruafrica.wales/podcast
Cliciwch yma i weld trawsgrifiad o’r cyfweliad.
Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth, sy’n cynnwys Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), Cymru Masnach Deg, Panel Cynghori Is-sahara a Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica.
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar iechyd, addysg, bywoliaeth a’r amgylchedd. Drwy godi ymwybyddiaeth, polisi ac eiriolaeth, symud cymunedol a chymorth mentora a datblygu, rydym yn helpu’r sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyfrannu at y nodau datblygu cynaliadwy, trwy gyfrwng datblygu rhyngwladol.
Rydym yn cael ein hariannu trwy grantiau gan Raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, a gan Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Llywodraeth y DU.
Rydym yn cefnogi’r grwpiau a’r unigolion amrywiol a bywiog yng Nghymru – ymgyrchwyr masnach deg, diaspora, staff y GIG, sefydliadau cymunedol a chrefyddol, ac elusennau – i gyfrannu at ddatblygiad byd-eang cymdeithasol gyfrifol.