EN
< Newyddion

Gweinidog y llywodraeth i roi’r Anerchiad Agoriadol

Mae’n bleser gennym i gyhoeddi siaradwraig Anerchiad Agoriadol yr Uwchgynhadledd Undod Byd-eang.

Jane Hutt AS yw’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru. Ymhlith ei chyfrifoldebau gweinidogol mae rhaglen Cymru ac Affrica; cynhwysiant digidol; cydraddoldeb a hawliau dynol; cydlynu materion yn ymwneud â cheiswyr lloches a ffoaduriaid; gweithredu fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; a’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.

Treuliodd Jane ran o’i phlentyndod yn Wganda a Chenia, ac mae wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 1972. Yn aelod o’r Senedd ers ei chreu yn 1999, mae wedi gwasanaethu ym mhob gweinyddiaeth hyd yma ac mewn sawl un o’r rolau uchaf yn y llywodraeth, gan gynnwys fel Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ.

Mae’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang yn dod ag unigolion a sefydliadau o Gymru sy’n gweithio ar brosiectau undod ledled y byd at ei gilydd. O grwpiau cymunedol bach i ganghennau o gyrff anllywodraethol rhyngwladol yng Nghymru, rydym yn codi proffil y sector yng Nghymru.

Cynhelir Uwchgynhadledd 2023 ar ddydd Mawrth 23ain Mai yng Nghanolfan Gynadledda Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest ac ar-lein.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Datganiadau i'r Wasg

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Carwyn Howell Jones, who served as First Minister of Wales and Leader of Welsh Labour from 2009 to 2018 appears on the podcast Wales Africa and the World.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cyn Brif Weinidog yn cefnogi Rhaglen Cymru ac Affrica mewn cyfweliad eang ei gwmpas

Polisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl