Mae’n bleser gennym i gyhoeddi siaradwraig Anerchiad Agoriadol yr Uwchgynhadledd Undod Byd-eang.
Jane Hutt AS yw’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru. Ymhlith ei chyfrifoldebau gweinidogol mae rhaglen Cymru ac Affrica; cynhwysiant digidol; cydraddoldeb a hawliau dynol; cydlynu materion yn ymwneud â cheiswyr lloches a ffoaduriaid; gweithredu fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; a’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.
Treuliodd Jane ran o’i phlentyndod yn Wganda a Chenia, ac mae wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 1972. Yn aelod o’r Senedd ers ei chreu yn 1999, mae wedi gwasanaethu ym mhob gweinyddiaeth hyd yma ac mewn sawl un o’r rolau uchaf yn y llywodraeth, gan gynnwys fel Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ.
Mae’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang yn dod ag unigolion a sefydliadau o Gymru sy’n gweithio ar brosiectau undod ledled y byd at ei gilydd. O grwpiau cymunedol bach i ganghennau o gyrff anllywodraethol rhyngwladol yng Nghymru, rydym yn codi proffil y sector yng Nghymru.
Cynhelir Uwchgynhadledd 2023 ar ddydd Mawrth 23ain Mai yng Nghanolfan Gynadledda Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest ac ar-lein.