
Paul Lindeowood o Anabledd yng Nghymru ac Africa yn cyflwyno ar "Share Our Story"[/caption]
Janet Lowere
Eglurodd Janet Lowere o Bees for Development sut y gall cadw gwenyn leihau tlodi, cynyddu bioamrywiaeth a ffurfio bywoliaethau cynaliadwy. O Ethiopia i Zimbabwe i Uganda, mae mêl a chŵyr gwenyn a gynhyrchir gan wenynwyr wedi darparu ffynonellau incwm mwy a mwy sefydlog. I ffermwyr, mae cadw gwenyn yn dod yn ffurf ddefnyddiol ar arallgyfeirio i wrthbwyso costau cynyddol ac ansicrwydd mewn mannau eraill a achosir gan newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau daear-wleidyddol.
Rhannodd Janet stori Steven, dyn o Ghana a hyfforddodd fel gwenynwr ac sydd bellach yn ei ymarfer yn llawn amser. Mae ganddo 450 o gytrefi ac mae'n cadw rhai o'i wenyn mewn perllan cashiw gerllaw, sy'n ei wasanaethu ef a pherchennog y berllan, sydd angen y gwenyn i beillio'r coed.
Elen Jones
Siaradodd Elen Jones am Jenipher’s Coffi, menter gymdeithasol a enwyd ar ôl Jenipher Wettaka, is-gadeirydd y cwmni cydweithredol o ffermwyr sy’n cydweithio ar lethrau Mynydd Elgon yn nwyrain Wganda i gynhyrchu’r coffi hardd hwn. Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio'n wael ar y rhanbarth oherwydd llithriadau llaid sy'n niweidio'r pridd a'r cnydau, gan fygwth dyfodol cynhyrchu coffi.
Mae'r coffi yn cael ei dyfu 100% Masnach Deg ac mae'r premiwm yn sicrhau bod Jenipher bob amser yn derbyn pris teg er gwaethaf amrywiadau yn y farchnad. Daeth cyllid cychwynnol ar gyfer y fenter gan Lywodraeth Cymru, sydd bellach yn cyflenwi’r coffi yn ei ffreuturau a’i gweithleoedd. Roedd y pandemig COVID-19 yn golygu bod angen newid model busnes Jenipher's Coffi, fodd bynnag, gyda gwerthiannau manwerthu yn dod yn bwysicach o lawer na chyfanwerthu. Yn sydyn, roedd angen brandio a phecynnu fel y gellid mwynhau'r coffi mewn cartrefi yn hytrach na swyddfeydd.
Dr Krijn Peters
Rhoddodd Dr Krijn Peters, Athro Cyswllt Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, gyflwyniad ar yr heriau a wynebir gan gymunedau gwledig yn Liberia a achosir gan seilwaith gwael a diffyg ffyrdd. Mae gofal iechyd yn bell i ffwrdd ac mae ysgolion a marchnadoedd yn anodd eu cyrchu, sy'n effeithio'n negyddol ar fenywod a phlant yn arbennig.
Trwy Brifysgol Abertawe, arweiniodd Krijn Tracks for Progress: Mobility for Livelihoods in Rural Liberia, prosiect a ymchwiliodd i anghenion symudedd yr ardal. Drwy wneud penderfyniadau a yrrir gan y gymuned, mae'r prosiect wedi helpu i uwchraddio llwybrau troed gwledig i draciau tacsis beiciau modur.
[caption id="attachment_63928" align="alignnone" width="800"]
Fadhili Maghiya, Prif Weithredwr Panel Cynghori Is-Sahara, ac Altaf Hussain AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Gydraddoldeb yn y Senedd, gyda Claire O'Shea, Pennaeth Partneriaeth Hub Cymru Africa[/caption]
Ar ôl seibiant a chyfle i rwydweithio, bu Carol Adams o’r Panel Cynghori Is-Sahara a Food Adventure, yn cadeirio trafodaeth banel ar fywoliaethau cynaliadwy yn Affrica yn yr oes ôl-COVID-19.
[Darllenwch mwy am ein Sesiwn Trafodaeth Banel yma]
Daeth y noson i ben gyda bwyd blasus Nigeriaidd gan Twale Cuisine a cherddoriaeth anhygoel gan Ify Iwobi a N’famady Kouyaté.