Er bod gennyf ddiddordeb yng ngwaith Hub Cymru Affrica, ar yr adeg y cysylltais, ychydig roeddwn yn ei wybod am eu gwaith yn fanwl, eu cwmpas a'u heffaith. Cefais gyfle i wirfoddoli mewn dau ddigwyddiad (y Gynhadledd Iechyd a'r Farchnad Nadolig Foesegol) - mwynheais y ddau yn fawr - cyn i'r Cydlynydd Gwirfoddoli yn HCA drefnu i mi ddechrau gweithio mewn rôl wirfoddoli reolaidd ym mis Tachwedd 2020. Y rôl oedd swyddog cymorth cyfathrebu i Dolen Ffermio (Farming Link), elusen fach sy'n cysylltu Cymru ac Uganda, ac sy’n hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy a phrosiectau eraill, mewn partneriaeth â chymunedau gwledig yn Nwyrain Uganda. O ystyried fy nghysylltiad ag Uganda, fy mhrofiad blaenorol mewn rolau cyfathrebu a fy astudiaethau ôl-raddedig presennol ym maes Rheoli Amgylcheddol, roedd hyn yn berffaith i mi. Ers hynny, rwyf wedi bod yn cymryd rhan mewn ymgyrch codi arian llwyddiannus, ac wedi sefydlu presenoldeb rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol a phrosesau strategol pellach o wella cyfathrebu. Rwy'n rhyfeddu at y gefnogaeth a'r diddordeb gan HCA a gan gydweithwyr yn Dolen Ffermio - maen nhw’n mynd allan o'u ffordd i helpu ac annog gwirfoddolwyr. Rwy'n credu bod cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac rwy'n ddiolchgar dros ben amdano. Mae gwirfoddoli wedi bod yn brofiad mor werthfawr i mi’n barod, ac rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o daith drawsnewidiol o fewn Dolen Ffermio. Dyna pam y cytunais yn hapus i fod yn ymddiriedolwr ym mis Ebrill 2021, ochr yn ochr â fy nghydweithiwr gwirfoddol Kadun. Mae gweithio fel rhan o dîm yn bwysig: Mae cael gwirfoddolwr arall yn dechrau tua'r un pryd wedi helpu'r ddau ohonom yn fawr – mae'n ei gwneud yn llawer haws ymgartrefu ac yn caniatáu i ni rannu cyfrifoldebau, yn ogystal â dysgu."Roedd hyn yn berffaith i mi"
"Dysgais fod llawer o bobl wych yn gwneud gwaith gwych"Mae gweithio gyda Dolen Ffermio yn ymddangos fel ffordd wych o gyfrannu at rywbeth rwy'n teimlo angerdd drosto, a dysgu am brosesau sefydliadol ac am faterion ac arferion o fewn y sector undod byd-eang ar yr un pryd. Dysgais fod llawer o bobl wych yn gwneud gwaith gwych, ac mae fy rôl wirfoddoli wedi fy ngalluogi i gysylltu â rhai ohonynt, adeiladu perthnasau gwerthfawr, a bod yn rhan o rwydwaith ehangach. Rwyf wedi datblygu diddordeb brwd mewn dulliau o ddad-drefedigaethu ein hiaith a'n gwaith hefyd, a newid y naratif o amgylch Affrica – cafodd hyn yn bendant ei annog, ei ysbrydoli a'i lywio gan amrywiol ddigwyddiadau HCA, gan gynnwys yr Uwchgynhadledd Undod Byd-eang. Rwy'n teimlo'n lwcus iawn i allu cymryd rhan yn y sesiynau hyn ac mewn sesiynau hyfforddi eraill; Rwy'n credu eu bod yn un o’r prif fanteision o wirfoddoli. Ar adegau, mae’n gallu bod yn heriol dod o hyd i'r cydbwysedd cywir gydag ymrwymiadau teuluol ac ymrwymiadau eraill. Ond serch hynny, mae'n foddhaol ac yn werth yr ymdrech. Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu'n barhaus gan sefydliadau ac unigolion eraill o fewn y sector undod byd-eang, a gyda nhw hefyd. Yn fy marn i, os byddwn yn gweithio gyda'n gilydd ac yn ceisio deall safbwyntiau gwahanol, gallwn gynyddu ein heffaith.