Mae Cymru Masnach Deg yn chwilio am swyddog cyfathrebu a chymunedol brwdfrydig, sy'n gallu defnyddio eu sgiliau i gefnogi cymunedau llawr gwlad yng Nghymru, creu a darparu gohebiaeth ddwyieithog ddengar, a datblygu a dosbarthu adnoddau.
Rydym yn recriwtio Rheolwr Cymorth Datblygu rhan-amser i weithio fel rhan o’r tîm i weithio ar weithgareddau cymorth datblygu, mentora a hyfforddiant Hub Cymru Africa ar draws Cymru. Byddwch yn sicrhau bod unigolion a grwpiau o fewn sector Cymru Affrica yn cael mynediad at raglen o hyfforddiant, dysgu a rhannu gwybodaeth, gan hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth ac arfer gwrth-hiliol.
Fel Cydlynydd Digwyddiadau a Chyfathrebu – Cymru Can a’n 10fed Pen-blwydd, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni prosiect 10fed pen-blwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan sicrhau bod y garreg filltir hon yn cyd-fynd â’r weledigaeth a amlinellir yn ein strategaeth Cymru Can.
Mae Maint Cymru yn recriwtio unigolyn sy’n profiadol a threfnus i gynllunio a gweithredu holl gyfathrebiadau Maint Cymru yn strategol tra’n datblygu ffyrdd arloesol o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a gwneud y mwyaf o gyfleoedd codi arian digidol a marchnata. Bydd y rôl hon yn cwmpasu pob maes o waith Maint Cymru. Mae hyn yn cynnwys prosiectau coedwigoedd trofannol, addysg a dadleuaeth.
Mae Maint Cymru yn chwilio am bedwar Ymddiriedolwr newydd i ymuno â Bwrdd o wyth, i helpu i lywio ac arwain ein helusen ar adeg pan mai newid hinsawdd yw'r mater mwyaf tyngedfennol sy'n wynebu ein planed. Mae ceisiadau yn parhau.
Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]
Gweld yr erthyglBydd yr hyfforddiant hwn yn tywys cyfranogwyr drwy'r arferion a'r gofynion diogelu hanfodol ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio mewn undod byd-eang â phartneriaid yn Affrica.
Gweld y DigwyddiadYdych chi'n awyddus i ddatgloi potensial Ymddiriedolaethau a Sefydliadau i gyllido eich prosiectau effeithiol? Ymunwch â ni i gymryd rhan mewn gweminar ymarferol a gafaelgar, sydd wedi'i chynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i ffordd syml o chwilio am gyllidwyr addas a chodi arian, a'ch paratoi i greu cais llwyddiannus am gyllid.
Gweld y DigwyddiadYmunwch â ni ar gyfer digwyddiad dysgu ar y cyd a rhwydweithio trawsnewidiol, sy'n rhoi sbotolau ar bartneriaethau iechyd byd-eang, sy’n dathlu llwyddiannau’r diaspora Affricanaidd, ac sy’n tynnu sylw at gynnydd ar wrth-hiliaeth.
Gweld y DigwyddiadYmchwilio ffynonellau incwm i'r elusen, ysgrifennu llythyrau at gyllidwyr, helpu i lenwi ffurflenni cais am gyllid
Mae ein sefydliadau partner yn gofyn am gymorth gwirfoddolwyr mewn rolau eraill o bryd i'w gilydd, felly cysylltwch hyd yn oed os nad yw'r cyfleoedd uchod yn iawn i chi.
Cwrdd a chyfarch, staff y dderbynfa, rhwydweithio, cymryd nodiadau, gofalu am westeion, ffotograffiaeth, ysgrifennu adroddiadau digwyddiadau.
Logisteg digwyddiadau, cyfathrebu â phartneriaid, ymateb i e-byst, diweddaru taenlenni, trefnu adnoddau.
Ymateb i ymholiadau penodol, cyfrannu at ymdrechion polisi neu eiriolaeth, chwilio am wybodaeth gan ddefnyddio ffynonellau gwahanol, casglu gwybodaeth mewn taenlen neu gronfa ddata, drafftio papur briffio.